Back
Cyngor teithio ar gyfer Cymru yn erbyn y Barbarians ar 4 Tachwedd yng Nghaerdydd

31/10/23


Bydd Cymru'n herio y Barbarians ddydd Sadwrn 4 Tachwedd yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 2:30pm - bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o10:30am tan 6:30pm neu mor fuan yr ystyrir ei bod yn ddiogel,i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl y bydd traffordd yr M4 a'r rhwydwaith cefnffyrdd cyfagos yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd.Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd arWefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS arTwitteraFacebook.

Bydd y gatiau'n agor am 12.15pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 10:30am tan 6:30pm

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Heol Clare i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhamon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o'r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r gêm orffen ac am hyd at awr wedi'r chwiban olaf er diogelwch i deithwyr trên gyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Bydd hynny'n effeithio ar y ffyrdd hyn: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Trenau

MaeTrafnidiaeth Cymruyn gwneud gwaith uwchraddio seilwaith ar gyfer Metro De Cymru, felly mae bysus yn disodli gwasanaethau rheilffordd trwy'r dydd rhwng Pontypridd a Threherbert a rhwng Heol-y-Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd (nid oes gwasanaeth bws pwrpasol ar y llwybr hwn - cytunwyd â Bws Caerdydd y bydd yn derbyn y tocynnau) ddydd Sadwrn 4 Tachwedd.

 

Bydd TC yn ychwanegu capasiti lle y bo modd i gyrraedd/adael y ddinas ond y disgwyl yw y bydd gwasanaethau'n brysur iawn felly teithiwch yn gynnar.

Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad am wasanaethau'r brif lein ar y Sgwâr Canolog a chiwiau am wasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i'r orsaf. Bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 3:30pm

 

Ewch itfw.cymruneu ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â'r swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

 

ByddGreat Western Railway (GWR)yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref ar ôl y gêm Cymru yn erbyn y Barbarians. Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Llundain; gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio'r orsaf.

Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y gêm a bydd system giwio ar waith y tu allan i'r orsaf i helpu pobl i fynd i mewn i'r trenau'n ddiogel.

Dylai'r rhai sy'n teithio'n bellach wirio gwasanaethau cyswllt ynwww.gwr.com/check.

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd. 

Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan. (Maes parcio Eversheds.)

Bydd cost o £12 yn daladwy ar y diwrnod.  

Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas  am 7pm gyda'r safle yn cau am 7.30pm.

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod y Digwyddiad (Ceir a Bysus)

I gyrraedd: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 fesul car a £30 fesul bws  -  yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

I gyrraedd: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i fysus yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau.

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Bws Caerdyyd: Digwyddiadau Stadiwm Principality - Bws Caerdydd

I ddarllen am wasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Neu i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/ 

Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.   Rhwng 3p ac 8pm, Heol y Gadeirlan fydd man casglu Gwasanaethau National Express.  .

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd seiclo neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei seiclo'n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw'n seiclo ar hyn o bryd roi cynnig arno.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud seiclo yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 10.30am ac yn ailagor am 6.30pm.