Back
Ymlaciwch! Mae chwilen 'gas' Ynys Echni yn ddiniwed!

30.10.23
Fampirod, bleidd-ddynion, sombis, yr Ieti,
Bigfoot, ac Anghenfil y Loch Ness.  I’r rhestr yma o greaduriaid cas yma, allwn ni nawr ychwanegu chwilen Ynys Echni sy’n bwydo ar gig a gwaed?

Wel, ddim yn hollol.  Ond roedd newyddiadurwyr wedi cyffroi’n lân am y pryfetyn prin yma yn y cyfryngau cenedlaethol ac yn ein hannog i redeg nerth ein traed y mis yma yn dilyn gwyddonwyr yn gwneud y darganfyddiad yng ngwarchodfa bywyd gwyllt yr ynys.

Rydyn ni'n gwybod mai dyma'r tymor gwirion - pan mae stori fach yn gallu troi’n benawd arswyd yn hawdd - ond y rhybuddion am y chwilen yma oedd y pryf enghraifft eleni!

Dyfynnwyd swyddog ymgysylltu cymunedol Ynys Echni, Sarah Morgan, – yn gywir – yn disgrifio'r pryfyn (enw tacsonomeg: dermestes undulatus) fel "nid i’r gwangalon", ond gan ychwanegu, "mae'r chwilod bychain hyn yn bwydo ar groen ac esgyrn anifeiliaid marw. O’r herwydd, maen nhw’n dipyn o boen mewn amgueddfeydd, ond maen nhw’n hynod ddefnyddiol mewn gwyddoniaeth fforensig i helpu i benderfynu pa mor hir mae corff wedi bod yn llonydd.”

Fe ysgogodd hynny o leiaf dau bapur newydd cenedlaethol i gyhoeddi 'rhybudd', a rhoi cynorthwyydd bach y corffdy yn yr un cae chrancod mitten Tsieineaidd ymledol a'r pryfed gwely sy'n creu panig ar hyn o bryd o strydoedd Paris i fysiau Manceinion!

Dywedodd Sarah:  "Dim ond 5-7mm o hyd yw'r creaduriaid bach hyn, ond maen nhw’n gwbl ddiniwed a dim ond yn bwydo ar gnawd marw. 

"Ac oherwydd eu bod yn bwydo ar garcasau, mae'r chwilod hyn yn gwneud gwaith pwysig iawn o glirio deunydd sy'n pydru yn yr amgylchedd.  Mae hyn yn hanfodol er mwyn gwarchod ein bywyd gwyllt arall ac mae'n golygu eu bod yn rhan naturiol a phwysig o'r ecosystem.

"Gallaf eich sicrhau nad ydyn nhw'n ddim byd i'w ofni a dim ond ychwanegu at y bioamrywiaeth anhygoel sydd gennym ar Ynys Echni, gan gynnwys llyngyr araf, y tryffl Scarlet Berry prin a chennin gwyllt."

Os ydych chi am ymweld ag Ynys Echni a gweld harddwch yr ynys, mae'n bosibl mwynhau diwrnod neu deithiau dros nos trwy gydol y flwyddyn. Mae pob arhosiad dros nos yn cynnwys hunanarlwyo a thaith nôl mewn cwch, rhannu llety hostel, a hyfforddiant a gweithgareddau gyda hyfforddwyr profiadol. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.ynysechni.com

Ffeil Ffeithiau Ynys Echni

  • A hithau ond yn un rhan o ddeg o filltir sgwâr mae gan Ynys Echni hanes mawr. Bu’n drigfan am y tro cyntaf yn ystod yr Oes Efydd (900-700CC) ac yn y 5ed-6ed Ganrif OC roedd yn encil i Sant Cadoc a fu’n byw ar ei ben ei hun ar yr ynys
  • Mae gan yr ynys gysylltiadau â'r Eingl-Sacsoniaid a'r Llychlynwyr, ac ym 1542 rhoddodd Harri’r VIII brydles i Edmund Tournor i ffermio ar yr ynys
  • Yn y 18fed Ganrif roedd yn safle delfrydol ar gyfer smyglo
  • Er gwaethaf y goleudy a adeiladwyd ym 1737, mae wedi gweld nifer o longddrylliadau. Ym 1817, suddodd y slŵp Brydeinig William a Mary ar ôl bwrw’r creigiau oddi ar Ynys Echni gan golli 54 o deithwyr ac mae 50 ohonynt wedi'u claddu ar yr ynys.
  • Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gosodwyd 350 o filwyr y Magnelwyr Brenhinol ar yr ynys i amddiffyn llyngesau gosgordd rhwng Caerdydd, Y Barri ac Ynys Echni.
  • Yn 2008, ym mhennod 'Adrift' o sgil-gynhyrchiad Dr Who y BBC, Torchwood, cafodd yr ynys ei chynnwys fel cartref i gyfleuster meddygol cyfrinachol.
  • Ar hyn o bryd mae'r ynys yn cael ei rheoli gan Gyngor Caerdydd, ac yn cael ei chynnal drwy Brosiect Ynys Echni, sy'n elusen gofrestredig