Back
Croeso nôl i’r fenter Croeso Cynnes


 

27/10/23
Unwaith eto, mae hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnig croeso cynnes i gwsmeriaid a thrigolion yr adeg hon o'r flwyddyn, gyda'r tywydd oerach yn ein cyrraedd.

 

Wrth i'r tymheredd ostwng a llawer o bobl ledled y ddinas yn parhau i bryderu am gostau gwresogi eu cartrefi eu hunain y gaeaf hwn, mae hybiau a llyfrgelloedd yn darparu amgylchedd diogel a chynnes i aelodau'r cyhoedd.

 

Bellach yn ei hail flwyddyn, mae'r fenter croeso cynnes yn rhan o ymateb y cyngor i gefnogi trigolion sy'n parhau i deimlo effeithiau'r argyfwng costau byw. Bydd ymwelwyr â hybiau a llyfrgelloedd yn gallu cael sgwrs gyda staff neu ymwelwyr eraill sy'n defnyddio'r adeilad a chael mynediad at yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i drigolion a allai fod yn ei chael hi'n anodd gyda phryderon costau byw, os byddant yn dymuno.  Bydd lluniaeth poeth ar gael hefyd ond mae'r amserau'n amrywio o leoliad i leoliad.

 

Mae croeso i bobl alw heibio i unrhyw un o hybiau neu lyfrgelloedd y ddinas yn ystod eu horiau agor arferol. Ewch ihttps://hybiaucaerdydd.co.uk/ am fanylion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Mae ardaloedd croeso cynnes yn ôl yn ein hybiau a'n llyfrgelloedd oherwydd y ffaith drist yw bod digon o bobl yn y ddinas yn dal i'w chael yn anodd ac yn poeni am gostau cynyddol ynni. Mae ein hadeiladau cymunedol yn lleoliadau golau, croesawgar lle gall trigolion ddod draw, defnyddio gwasanaethau'r llyfrgell, defnyddio cyfrifiadur personol neu gyfarfod ag eraill yn y gymuned.

 

"Mae ein timau cyfeillgar bob amser wrth law felly rwy'n annog unrhyw un sy'n poeni am wresogi eu cartrefi wrth i ni agosáu at y gaeaf i dderbyn ein cynnig o groeso cynnes."

 

Mae ystod eang o gyngor a chymorth ar gael mewn hybiau, o dai, budd-daliadau, cymorth dyled a llawer mwy.  Gall unrhyw un sy'n chwilio am gymorth gysylltu â thîm Cyngor Ariannol y Cyngor hefyd ar 029 2087 1071 neu e-bostiohybcynghori@caerdydd.gov.uk

Ewch iwww.cyngorariannolcaerdydd.co.uk