Back
Arglwydd Faer yn arwain teyrngedau Caerdydd i'r rhai sydd wedi marw

27.10.23
Arweiniodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, deyrngedau'r ddinas heddiw i'r rhai yn y Lluoedd Arfog a gollodd eu bywydau mewn dau ryfel byd a gwrthdaro eraill, wrth agor y Cae Coffa ar dir Castell Caerdydd.

Roedd y Cynghorydd Molik ymhlith nifer o gynrychiolwyr swyddogol eraill, gan gynnwys Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, a fu’n dangos eu parch mewn seremoni a drefnwyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol.

"Mae arwain teyrngedau y ddinas i ddynion a menywod ein Lluoedd Arfog a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro - ac sy'n parhau i beryglu eu bywydau i'n cadw'n ddiogel - yn un o'r dyletswyddau pwysicaf rwy'n eu cyflawni yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd," meddai'r Cynghorydd Molik.

"Mae'r Cae Coffa, wrth gwrs, yn lle o bwys mewn unrhyw flwyddyn ond mae'r digwyddiadau presennol yn yr Wcrain ac yn y Dwyrain Canol yn ein atgoffa am y ddyled sydd arnom i gyd i'r dynion a’r menywod sy’n gwasanaethu.  Roeddwn yn fraint ac yn anrhydedd i ddangos parch i’r meirwon ar ran pobl Caerdydd."

Mae’r Cae Coffa wedi dod yn draddodiad blynyddol yn y ddinas. Agorodd am 10.45 y bore yma a bydd yn cau ar 15 Tachwedd. Yr oriau agor yw 9am tan 5pm ac mae mynediad am ddim i aelodau'r cyhoedd.

Mae'r Cae yn cynnwys rhesi o groesau wedi'u haddurno â pabïau ac enwau'r meirwon, llawer wedi'u hysgrifennu gan eu teuluoedd sydd wedi goroesi.