Back
Nofio dŵr agored yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

26.10.23

Gall nofwyr sy'n chwilio am ddŵr diogel a glân i'w fwynhau yng Nghaerdydd blymio i'r dyfroedd gyda sesiynau nofio dŵr agored newydd Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd o'r wythnos nesaf ymlaen.

Bydd y sesiynau, sy'n cael eu goruchwylio gan achubwyr bywyd, yn rhedeg o 9am - 10am bob dydd Mercher, dydd Iau a dydd Sadwrn ac yn costio £6.  Yn addas i nofwyr 18 oed neu hŷn, cynhelir y sesiynau mewn rhan o Fae Caerdydd a ddefnyddir yn benodol gan y ganolfan ar gyfer eu hamrywiaeth gyffrous o weithgareddau dŵr sydd, yn ogystal â rafftio dŵr gwyn, hefyd yn cynnwys padlfyrddio, caiacio a chanŵio.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Bydd y sesiynau hyn yn ychwanegiad gwych at yr hyn sydd ar gael yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd a byddant yn helpu i annog mwy o bobl i fwynhau manteision iechyd nofio dŵr agored mewn amgylchedd glân a diogel."

Mae ansawdd dŵr yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn cael ei fonitro a'i brofi'n wythnosol er mwyn sicrhau ei fod o'r safon ofynnol i nofio'n ddiogel.

Bydd achubwyr bywydau yn monitro'r sesiynau i sicrhau bod pob nofiwr yn yr ardal yn ddiogel.

Argymhellir siwtiau dŵr ond nid ydynt yn orfodol.

I archebu, ewch i: Archebu - Nofio Dŵr Agored | eola