Back
Newidiadau i'r Gwasanaethau Cofrestru yng Nghaerdydd

06/10/23

Bydd y Gwasanaethau Cofrestru yng Nghaerdydd yn newid dros dro dros y gaeaf, gyda chofrestriadau genedigaethau, priodasau a phartneriaethau sifil i symud o Neuadd y Ddinas tra bod yr adeilad ar gau yn ystod gwaith cynnal a chadw hanfodol.

O 10 Hydref bydd y Swyddfa Gofrestru yn Archifau Morgannwg (Clos Parc Morgannwg, Leckwith, Caerdydd, CF11 8AW). Bydd y swyddfeydd ar agor rhwng 9.00am a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Caiff pob copi o dystysgrifau geni, priodasau, partneriaeth sifil a marwolaeth eu cyflwyno o'r safle newydd, a fydd yn dal yr holl gofnodion geni, priodasau, partneriaeth sifil a marwolaeth statudol.

Bydd Archifau Morgannwg hefyd yn cynnal holl briodasau a phartneriaethau sifil y swyddfa gofrestru gyfreithiol, lle mai dim ond y cwpl a dau dyst sy'n bresennol.

Bydd priodasau a phartneriaethau sifil mwy, sy'n digwydd ar hyn o bryd yn Ystafell Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, yn symud i Ystafelloedd Llandaf sydd newydd gael ei thrwyddedu ar lawr cyntaf Llys Insole hanesyddol.  Mae dwy ystafell - yr Ystafell Cedar, â lle i 20 o westeion, a'r Ystafell Walnut sydd â lle i 40.

Bydd cofrestriadau genedigaethau hefyd yn cael eu cynnal yn Archifau Morgannwg a bydd y gwasanaeth cofrestru genedigaethau llwyddiannus yn Hybiau'r ddinas (drwy apwyntiad yn unig) hefyd yn cael ei ehangu.

Gellir gwneud apwyntiadau ar  Wefan Swyddfa Gofrestru Caerdydd  yn y lleoliadau canlynol:

 

  • Dydd Llun:Ystum Taf a Chanolfan Gabalfa neu Archifau Morgannwg
  • Dydd Mawrth:Canolfan y Llyfrgell Ganolog neu Archifau Morgannwg
  • Dydd Mercher:Canolfan Trelái neu Archifau Morgannwg
  • Dydd Iau:Hyb Llaneirwg neu Archifau Morgannwg
  • Dydd Gwener:Archifau Morgannwg

 

Bydd marwolaethau yn parhau i gael eu cofrestru yn swyddfeydd Mynwent Draenen Pen-y-graig.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cofrestru: "Bydd y newidiadau dros dro hyn yn ehangu ein cynllun peilot llwyddiannus o ddarparu gwasanaethau cofrestru genedigaethau mewn canolfannau ac yn galluogi parhad di-dor yr holl Wasanaethau Cofrestru i breswylwyr tra bod gwaith hanfodol yn cael ei wneud i sicrhau bod Neuadd y Ddinas yn parhau i fod yn addas i'r diben, fel lleoliad treftadaeth o arwyddocâd hanesyddol, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

I gael mwy o wybodaeth am gofrestru genedigaeth, priodas neu farwolaeth, ewch i:  https://www.cardiffregisteroffice.co.uk/cy/