Back
Tywysog a thywysoges Cymru yn ymweld â Chaerdydd heddiw i ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu

3/10/2023

Mae tywysog a thywysoges Cymru yn ymweld â Phafiliwn y Grange ac Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan heddiw i nodi dechrau Mis Hanes Pobl Ddu ac i ddathlu 75 mlynedd ers i'r HMT Empire Windrush gyrraedd y DU. 

Yn y cyntaf o ddau ymrwymiad yn y ddinas, ymwelodd eu huchelderau brenhinol â Phafiliwn y Grange yn Grangetown lle daeth disgyblion o Ysgolion Cynradd Howardian, Grangetown a Sant Paul at ei gilydd i'w cyfarch.

A group of children holding flagsDescription automatically generated

Gwnaeth eu huchelderau brenhinol gwrdd ag aelodau o Hynafiaid Windrush Cymru, Hanes Pobl Ddu Cymru 365 a Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig Cymru i glywed am y cyfraniad anhygoel mae cenhedlaeth Windrush wedi'i wneud at gymunedau Cymru a dysgu am sut mae unigolion ifanc o leiafrifoedd ethnig yn creu newid cadarnhaol yng Nghymru.

Cyfarfu'r ddau hefyd â phobl ifanc sy'n gysylltiedig â'r Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig, panel cynghori ieuenctid ar gyfer Race Council Cymru, pobl ifanc leol o'r gymuned Somalïaidd ac aelodau o Cysylltiadau Ieuenctid Somaliland Cymru a Chlwb Pêl-droed Cardiff Bay Warriors.

A group of people standing togetherDescription automatically generated

Yna aeth y pâr brenhinol i Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan lle clywsant gan ddisgyblion am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud ar hanes pobl ddu a dysgu am y cyrsiau galwedigaethol a'r cyfleoedd sydd ar gael yn yr ysgol. 

A person and person huggingDescription automatically generated

Ym mis Medi 2023 agorodd yr adeilad ysgol newydd, sydd werth £64m, ei ddrysau i ddisgyblion am y tro cyntaf. Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, dyma gynllun diweddaraf Caerdydd o dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy'n darparu ystod o gyfleusterau o'r radd flaenaf i helpu disgyblion i gyflawni eu potensial.

A group of people sitting in chairsDescription automatically generated

Mae nifer o ddisgyblion yn yr ysgol yn berthnasau uniongyrchol i Hynafiaid Windrush Cymru ac yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd diwylliannol gyda 70% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel ail iaith.

 

Yn ystod eu hymweliad, clywodd eu huchelderau brenhinol gan ddisgyblion chweched dosbarth sy'n gweithio ar wahanol feysydd pwnc Safon Uwch ac astudiaethau galwedigaethol, cyn ymweld ag ystafell drochi newydd sbon yr ysgol lle gwnaethant wrando ar wers hanes yn edrych ar fywyd yn Tiger Bay, ardal allweddol a oedd yn gartref i Genhedlaeth Windrush, a phwysigrwydd dysgu am eu treftadaeth ddiwylliannol.

Gwnaeth y tywysog a'r dywysoges gwrdd ag athrawon a disgyblion sy'n gweithio ar draws nifer o brosiectau yn yr ysgol, gan gynnwys y prosiect garddio sy'n ceisio annog disgyblion ifanc i ddysgu sut i dyfu planhigion a bwyd.

A group of people outsideDescription automatically generated

A person talking to a personDescription automatically generatedA group of people sitting at a table with a computerDescription automatically generated

Yn olaf, cafodd eu huchelderau brenhinol weld y gât fynediad newydd a ddyluniwyd mewn partneriaeth â'r dylunydd o Lundain, Lara Sparey a disgyblion o'r ysgol i ymgorffori 'Beth mae Fitzalan yn ei olygu i ni?' gydag amrywiaeth o symbolau a gwaith celf i gynrychioli'r ysgol a Chymru.

A person and person standing next to each otherDescription automatically generated

 

Roedd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, yn bresennol ar gyfer yr ymweliad brenhinol ag Ysgol Uwchradd Fitzalan. Wrth edrych yn ôl ar y diwrnod dywedodd: "Mae wedi bod yn anrhydedd croesawu tywysog a thywysoges Cymru i Gaerdydd heddiw, gan arddangos rhai o'r prosiectau cymunedol gwych sy'n helpu i lunio dyfodol Caerdydd.

"Roedd eu hymweliad â chartref newydd sbon Ysgol Uwchradd Fitzalanyn gyfle i daflu goleuni ar yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion yn yr ysgol a'r gwaith gwych sy'n cael ei gyflawni drwy gwricwlwm yr ysgol ar Fis Hanes Pobl Ddu a chenhedlaeth Windrush."

A group of people posing for a photoDescription automatically generated

Ychwanegodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd: "Fel Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, rydw i wrth fy modd bod tywysog a thywysoges Cymru wedi nodi dechrau Mis Hanes Pobl Ddu yma yng Nghaerdydd a dathlu'n gyhoeddus gysylltiad y ddinas â chymuned Windrush a'i gwerthfawrogiad iddi.

"Mae gan Gaerdydd gyfoeth o gymunedau amlddiwylliannol ac mae'n ddinas sy'n ymfalchïo mewn cynhwysiant ac amrywiaeth. Heddiw mae nifer o grwpiau cymunedol a phobl leol wedi rhannu eu profiadau a'r gwaith sy'n cael ei wneud isicrhau bod gan bobl o wahanol gefndiroedd berthnasoedd cadarnhaol, sy'n mynd tuag at helpu ein dinas i ffynnu.

"Bydd Mis Hanes Pobl Ddu yn cael ei ddathlu ledled y ddinas drwy gydol mis Hydref wrth i ni ddathlu a myfyrio ar hanes pobl ddu, gan ddysgu o'r gorffennol i wella'r dyfodol."

Mae Pafiliwn y Grange yn brosiect partneriaeth rhwng Prosiect Pafiliwn y Grange, Grangetown Community Action, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Caerdydd a arweiniodd at ailddatblygu hen bafiliwn bowls yn gyfleuster cymunedol. Mae'r gofod yn cynnig caffi cymunedol, cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ac mae wedi dod yn fan cyfarfod allweddol ar gyfer Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, Hynafiaid Windrush Cymru a Hanes Pobl Ddu Cymru 365.

Sefydlwyd Hynafiaid Windrush Cymru yn 2017 fel rhan o Race Council Cymru sy'n anelu at hyrwyddo dealltwriaeth o bryderon ac anghenion hynafiaid lleiafrifoedd ethnig tra hefyd yn dathlu cyfraniadau Cenhedlaeth Windrush a phobl o dras Affricanaidd yng Nghymru.