Back
Ci wedi’i adael yw’r diweddaraf i gael ei recriwtio gan Heddlu De Cymru

27.9.23

Mae ci wedi'i adael a ddarganfuwyd yn crwydro strydoedd Llaneirwg yng Nghaerdydd ac yna'i dderbyn gan Gartref Cŵn Caerdydd, wedi dod yn un o recriwtiaid newydd Heddlu De Cymru.

Mae tîm y Cartref Cŵn yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru, a gwelsant fod gan y Belgian Malinois o'r enw Sid, yr holl nodweddion sydd eu hangen i fod yn gi heddlu.

Pan ddaeth Sid ar gael i'w fabwysiadu, penderfynwyd y byddai'n ymuno â Heddlu De Cymru dros dro i weld a allai lwyddo yn yr asesiadau.

Gyda chymorth ymroddedig ei driniwr a'r hyfforddwyr eraill, pasiodd Sid yn llwyddiannus ac mae bellach yn gi heddlu cyffredinol trwyddedig, sy'n barod i weithio gyda'i driniwr Andrew i gadw de Cymru'n ddiogel.

Dywedodd Aelod Cabinet Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn gweithio'n galed i baru'r cŵn cywir â'r cartrefi newydd cywir ac mae'r hyn y mae Sid wedi'i gyflawni yn dangos y gall hynny drawsnewid bywyd ci crwydr nad oes neb ei eisiau. Mae perthynas waith ardderchog rhwng y Cartref a'n cydweithwyr yn Heddlu De Cymru ac rydym i gyd wrth ein bodd bod Sid bellach mewn swydd a bod ganddo fywyd newydd gyda'i driniwr, Andrew."

Dywedodd yr Arolygydd Elen Reeves: "Mae wedi bod yn gymaint o bleser gwylio PD Sid yn datblygu yn ei hyfforddiant ers ymuno â Heddlu De Cymru, lle dechreuodd fel ci wedi'i adael, yn crwydro strydoedd Caerdydd i ddod yn aelod annwyl a gwerthfawr o Dîm Heddlu De Cymru, lle rydym yn gobeithio y bydd yn cael gyrfa hir a hapus gyda ni yma yn yr adran gŵn.

"Rwy'n hynod ddiolchgar am y gwaith y mae Cartref Cŵn Caerdydd yn ei wneud a'r gefnogaeth y maent yn ei rhoi i ni. Mae Sid yn enghraifft wych o'r bartneriaeth sydd gennym."

Os ydych yn credu y gallech ddarparu cartref am byth i un o'r cŵn sy'n derbyn gofal gan Gartref Cŵn Caerdydd ar hyn o bryd, ewch i: https://www.cardiffdogshome.co.uk/cy/