Back
Ail Wobr Fawr i Gynllun Stryd Wood a Sgwâr Canolog Caerdydd

26/09/23

Mae Cynllun Stryd Wood a Sgwâr Canolog Caerdydd wedi ennill ail wobr peirianneg sifil bwysig.

Ym mis Mehefin eleni, enillodd Wobr Prosiect Sifil y Flwyddyn, ac erbyn hyn hefyd y Wobr Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Peirianneg Sifil Ice Cymru 2023 ddydd Gwener 22 Medi.

Mae'r Gwobrau Peirianneg Sifil yn cydnabod unigolion a sefydliadau am arloesi, peirianneg glyfar, a chynaliadwyedd yn y diwydiant yng Nghymru.

Rhoddir y wobr am drawsnewid Stryd Wood, sy'n cynnwys trefn ffyrdd newydd; lonydd bysiau newydd; gerddi glaw i reoli draenio dŵr wyneb; gwelliannau i’r ardal gyhoeddus a rhwydwaith priffyrdd sy'n rhoi blaenoriaeth i fysiau, yn barod cyn agor y Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd i'r cyhoedd.

Contractwyr y Cyngor ARUP wnaeth gyflwyno’r cais, a Chyngor Caerdydd a Knights Brown wnaeth ei roi ar waith. Mae Gwobr Cynaliadwyedd Bill Ward yn asesu egwyddorion cynaliadwyedd a manteision economaidd a chymdeithasol tra y bydd cynllun yn cael ei roi ar waith ac yn dilyn ei gwblhau.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De’Ath:   "Dyma'r ail wobr y mae'r cynllun hwn wedi'i hennill ac mae'n dyst i'r holl waith caled a wnaed gan ein staff a'n contractwyr.

"Mae'r cynllun yn defnyddio'r peirianwaith diweddaraf i reoli draenio dŵr wyneb, gyda chyfres o erddi glaw a phridd a phlannu penodol sy'n glanhau dŵr glaw - felly does dim rhaid ei bwmpio i'r safle trin carthion -  ateb cynaliadwy sy'n arbed amser ac arian.

"Mae systemau Draenio Trefol Cynaliadwy yn cael eu cydnabod fel y ffordd orau o reoli draenio dŵr wyneb, gan wella gwydnwch ein seilwaith draenio a charthffosydd.  Mae'r dull hwn yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn sawl safle ar draws y ddinas gan gynnwys Grangetown Werddach, Cathays Terrace Tudor Street, Station Terrace a Churchill Way.

"Mae'r wobr cynaliadwyedd yn dangos sut mae'r ddinas yn mabwysiadu dulliau newydd o reoli glaw ar y rhwydwaith ffyrdd, fel nad yw'r ffyrdd yn gorlifo mewn tywydd garw, ac mae'r dŵr hwn yn cael ei reoli a'i drin yn y ffynhonnell, gan fod o fudd i'r amgylchedd a lleihau costau cyffredinol."