Back
Cyngor yn sicrhau cartref newydd ar gyfer gofod i artistiaid

25.9.23

Mae gwneuthurwyr, crewyr a busnesau newydd creadigol sy'n gweithio mewn stiwdios sydd wedi'u clustnodi i'w datblygu fel rhan o adfywio Heol Dumballs yng Nghaerdydd wedi sicrhau cartref dros dro newydd gyda chymorth Cyngor Caerdydd.

Yn ddiweddar, llofnododd The Sustainable Studio, darparwr gofod stiwdio fforddiadwy i artistiaid, brydles tair blynedd ar hen Glwb Trafnidiaeth ar Stryd Tudor, gan roi cartref diogel iddynt yn y cyfamser, lle gallant barhau â'u gwaith.

Ar ôl gwneud rhywfaint o waith adnewyddu, mae'r sefydliad yn bwriadu defnyddio'r safle i ddatblygu eu gwaith presennol, ac ehangu eu darpariaeth ar gyfer cymunedau a phobl ifanc, gan gynnig:

  • Mentora, interniaethau a lleoliadau profiad gwaith
  • Gweithdai cymunedol, a gweithgareddau i ymgysylltu â phobl ifanc
  • Caffi bach
  • Marchnadoedd gwneuthurwyr, arddangosfeydd a digwyddiadau
  • Llogi gofod digwyddiadau ar gyfer sesiynau tynnu lluniau, gigs, ffilmio a digwyddiadau cymunedol; yn ogystal â
  • Stiwdios Fforddiadwy i Wneuthurwyr ac Artistiaid 

Dywedodd Zoe sy'n berchen ar Prints by Nature, sydd wedi'i lleoli yn The Sustainable Studio, "Cyn symud i mewn i'm stiwdio, roeddwn yn gweithio yn yr ystafell sbâr a bwrdd y gegin gartref; ar fy mhen fy hun, yn rhwystredig gyda diffyg cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, heb ofod/cymuned greadigol yr oeddwn yn dyheu amdani ers gadael y brifysgol. Penderfynais ymuno â TSS. Mae wedi bod dros flwyddyn ac rydw i wrth fy modd yn dod i'r lle. Mae cael pobl greadigol eraill i gyfnewid syniadau a rhannu sgiliau gyda nhw wedi bod yn wych, mae wedi helpu fy iechyd meddwl yn ddiddiwedd ac wedi rhoi lle i mi deimlo'n ddiderfyn o greadigol. Heb i'r stiwdio allu symud i'r Clwb Trafnidiaeth, dydw i wir ddim yn gwybod sut byddwn i na'r busnes yn goroesi."

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae llwyddiant sector creadigol Caerdydd o bwys mawr i Gaerdydd yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Mae The Sustainable Studio wedi bod yn rhan allweddol o sector creadigol Caerdydd ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod o hyd i ffordd i'w helpu i ddod o hyd i le newydd fel y gallant barhau i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Nid yw adeiladau gwag yn gwneud ffafr ag unrhyw un, felly mae dod o hyd i sefydliad sy'n gallu defnyddio'r Clwb Trafnidiaeth dros dro wrth i ni barhau i ddatblygu cynllun tymor hwy ar gyfer y safle, tra'n darparu buddion i'r gymuned leol hefyd, yn newyddion da i bawb."

www.thesustainable.studio