Back
Tymor newydd dechrau newydd - Cyngor Caerdydd yn lansio'r ymgyrch presenoldeb ysgol ddiweddaraf


12/9/2023

Gadewch i ni roi presenoldeb nôl ar y trywydd iawn yw neges Cyngor Caerdydd wrth i ymgyrch newydd gael ei lansio sy'n ceisio sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle gorau i gyflawni, drwy wella safonau presenoldeb ysgolion.

Mewn partneriaeth ag ysgolion, ac i gyd-fynd â dechrau'r tymor ysgol newydd, mae'r ymgyrch bellach yn ei hail flwyddyn academaidd ac yn tynnu sylw at y ffaith bod pob dydd yn bwysig a bod diwrnodau dysgu sy'n cael eu colli i gyd yn adio i fyny. Y pwrpas yw atgoffa teuluoedd, gyda thymor newydd y daw dechrau newydd a bod presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn rhan bwysig o helpu dysgwyr i gyflawni mwy a gwella cyrhaeddiad yn ystod eu bywydau ysgol a thu hwnt.

Cyni ysgolion gau ym mis Mawrth 2020 oherwydd COVID-19, dangosodd adroddiad statudol i Lywodraeth Cymru fod presenoldeb ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn 94.8% a phresenoldeb ysgolion uwchradd yn 93.2%.Roedd cynnydd sylweddol Caerdydd o ran gwella presenoldeb ar draws ysgolion wedi bod yn gyson dda ers nifer o flynyddoedd.

Fodd bynnag, oherwydd yr aflonyddwch sylweddol a brofwyd gan ddisgyblion a'u hysgolion yn ystod y pandemig, gostyngodd lefelau presenoldeb ac mae llawer o ddysgwyr yn colli diwrnodau'n rheolaidd o hyd.

Mae'r gostyngiad hwn yn ddarlun cyfarwydd sy'n parhau i gael ei weld ledled Cymru, gyda nifer o ffactorau cyfrannol wedi'u nodi fel rhesymau dros bresenoldeb gwael, gan gynnwys;

-         nifer uwch o ddisgyblion yn profi gorbryder fel rhwystr i fynd i'r ysgol ac, i'r rhai â chyflyrau iechyd meddwl blaenorol, sefyllfaoedd a waethygwyd gan gyfnodau clo, sydd mewn rhai achosion wedi arwain atbroblemau iechyd mwy difrifol.

-         mae agweddau teuluoedd sydd ag agwedd wael tuag at bresenoldeb wedi ymwreiddio ymhellach, ac mae agwedd fwy hamddenol tuag at bresenoldeb wedi dod i'r amlwg ymysg teuluoedd eraill.

-         mae ymddygiadau mwy heriol wedi arwain at gynnydd mewn gwaharddiadau dros dro a pharhaol.

-         absenoldebau sy'n gysylltiedig â salwch a llawer o rieni yn teimlo'n or-ofalus ynghylch anfon eu plant i'r ysgol. 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: Yn dilyn lansio ymgyrch presenoldeb ledled y ddinas ym mis Chwefror eleni, mae arwyddion cynnar yn dangos bod y darlun presennolwedi gweld rhyfwaint o welliannau ers y llynedd,ondmae gwaith i'w wneud o hyd.

Mae presenoldeb da yn hanfodol er mwyn i blant a phobl ifanc gael y cyfle gorau i gyflawni ac anogir ysgolion, disgyblion a'u teuluoedd i gydweithio i wella presenoldeb ysgol ar draws pob grŵp oedran.

"Mae amrywiaeth o gymorth arbenigol ar waith fel bod disgyblion a'u teuluoedd yn gallu cael cymorth a chyngor ar bob mater sy'n ymwneud â phresenoldeb ysgol.

O ddechrau mis Rhagfyr 2022, gwnaeth Llywodraeth Cymru ailgyflwynoHysbysiadau Cosb Benodedig am ddiffyg presenoldeb.

Mae gan bob ysgol fynediad at Swyddog Presenoldeb Ysgol a Swyddog Lles Addysg dynodedig a all helpu a chefnogi gydag unrhyw anawsterau o ran presenoldeb plentyn yn yr ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/presenoldebynyrysgol

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd hefyd yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoeddPorth Teuluoedd Caerdydd - Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd:  Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk