Back
Diwrnod cyntaf Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd sbon

 6/9/2023

Yr wythnos hon, agorodd ysgol uwchradd newyddaf Caerdydd ei drysau i ddisgyblion a staff am y tro cyntaf erioed, wrth i Ysgol Uwchradd Fitzalan ddechrau tymor newydd yn ei chartref newydd sbon.

Mae agor yr ysgol newydd drawiadol yn Lecwydd yn nodi cyflawniad y prosiect gwerth £64m a gyflwynwyd gan Kier Construction ar ôl iddo gael cymeradwyaeth cynllunio gyntaf ym mis Tachwedd 2020.

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, dyma gynllun diweddaraf Caerdydd i'w gyflawni dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac mae'n cynnwys ysgol uwchradd tri llawr, pwll nofio cymunedol a darpariaeth o bedwar Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA). Mae dau gae 3G ar gael ar gyfer rygbi, pêl-droed a hoci ac mae ardaloedd chwarae caled a meddal hefyd ar y safle yn ogystal â maes parcio i staff ac ymwelwyr. 

Gyda lle i 1850 o ddisgyblion, dechreuodd y gwaith adeiladu gyntaf ym mis Mawrth 2021 ac mae wedi cynnwys cenhadon o'r ysgol sydd wedi ymweld â'r safle yn rheolaidd drwy gydol ei ddatblygiad, gan gyfrannu eu barn ar y gwaith adeiladu ac adrodd ar gynnydd yn ôl i fyfyrwyr eraill. 

Wrth sôn am ei hargraffiadau cyntaf o'r ysgol, dywedodd Nibras, disgybl Blwyddyn 7, "Rwy'n teimlo'n falch mai ni yw'r disgyblion blwyddyn 7 cyntaf erioed i ddod yma ac rwy'n teimlo ei fod yn gyflawniad i fod yn un o'r disgyblion cyntaf i weld yr ysgol.

 

"Rwy'n hoffi'r ffordd y mae wedi cael ei hadeiladu, mae'n unigryw, yn olau ac yn eang. Mae'r cyfleusterau i gyd yn edrych yn wych ond rwy'n edrych ymlaen yn bennaf at ddefnyddio'r labordai gwyddoniaeth. 

 

"Fe gostiodd yr ysgol lawer o arian ac rwy'n teimlo'n freintiedig o gael y cyfle i ddod yma"

 

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae hon yn bennod hynod gyffrous yn hanes Ysgol Uwchradd Fitzalan. Rydw i wedi mwynhau dilyn cynnydd y datblygiad yn agos er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan y pandemig, o'r dylunio cychwynnol i weld fy hun, yr adeilad newydd trawiadol sy'n croesawu disgyblion yr wythnos hon.

"Mae cwblhau'r ysgol uwchradd fodern hon yn enghraifft wych o adeilad ysgol trefol a modern a fydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol ac amgylcheddau dysgu o ansawdd i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Yn ogystal, bydd yn creu cyfleoedd i'r gymuned gyfan ac yn hwb sylweddol i'r ardal leol.

"Rydw i'n dymuno'r gorau i ddisgyblion a staff ar gyfer dechrau'r tymor newydd yn eu hadeilad newydd, ysgol y gallant fod yn falch ohoni a lle gall dysgwyr ffynnu a gwireddu eu potensial."

Dywedodd Joe Kemp, Dirprwy Bennaeth a Chydlynydd yr Ysgol Newydd: "Rydym yn falch iawn o groesawu disgyblion i'w hysgol newydd sbon yr wythnos hon. Ar ôl sicrhau rhai o'n canlyniadau Safon Uwch a TGAU gorau erioed eleni, rydym yn llawn cyffro i weld beth y gallwn ei gyflawni mewn amgylchedd mor wych, addas at y diben.

"Rydym yn teimlo'n falch iawn ein bod wedi gweithio mor dda gyda'r Cyngor, Llywodraeth Cymru a thîm y prosiect o Kier i gyrraedd y pwynt hwn ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cyfraniad."

Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Kier Construction Cymru a Gorllewin Lloegr:  "Rydym yn falch ein bod wedi darparu'r cyfleusterau newydd hyn o'r radd flaenaf yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, a fydd o fudd i ddisgyblion ysgol uwchradd yng Nghaerdydd am genedlaethau i ddod.

"Bydd hefyd o fudd i'r gymuned leol yn Lecwydd, a fydd yn gallu cael mynediad i'r cyfleusterau gwych hyn, gan gynnwys y pwll nofio pedair lôn 25m sydd wedi'i osod ar y safle.

"Rydym yn gobeithio y bydd y disgyblion yn mwynhau eu hysgol newydd gymaint ag y gwnaethon ni fwynhau ei chyflwyno."