25.08.23
Mae disgwyl i filoedd o redwyr droedio ar hyd
strydoedd y brifddinas Ddydd Sul, 3 Medi, gydag atgyfodi ras 10k poblogaidd
Caerdydd.
Mae'r ras, sydd wedi'i hychwanegu at bortffolio Run 4 Wales o ddigwyddiadau cyfranogiad torfol o'r radd flaenaf, yn denu’r athletwyr gorau, yn ogystal â rhedwyr parciau a rhai sy’n loncian elusen, gan fydn â’r rhedwyr ar lwybr heibio rhai o olygfeydd mwyaf poblogaidd Caerdydd.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, Afon Taf, Gerddi Sophia, y Ganolfan Ddinesig fawreddog a pharcdir gwych Caeau Llandaf a Phontcanna.
Er mwyn helpu'r ras i redeg yn esmwyth, mae rhaglen
o gau ffyrdd treigl i'w gweithredu ar hyd y llwybr o 9am tan ddim hwyrach na
1pm:
SYLWER: Bydd y troi i’r dde gwaharddedig o Heol Colum i Heol Corbett yn cael ei ddirymu i hwyluso mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn unig. Bydd hyn yn cael ei reoli gan stiwardiaid rheoli traffig.
Tarfu ar drenau
Mae streic drenau wedi'i chynllunio ar gyfer Dydd
Sadwrn 2 Medi ac mae cwmnïau rheilffyrdd yn
argymell gwirio'ch taith cyn i chi ddechrau gan y gallai rhai newidiadau fod a
rhai gwasanaethau wedi eu canslo Ddydd Sul.
Sylwch y bydd cynllunwyr teithiau
ar-lein yn cael eu diweddaru tua saith diwrnod cyn teithio. Ewch i wefannau'r
cwmnïau trên priodol i gael y wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys www.gwr.com/strike
Nid oes unrhyw wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) gydol y dydd rhwng Treherbert a Phontypridd oherwydd gwaith peirianyddol ar gyfer Metro De Cymru. Bydd gweddill amserlen TrC yn gweithredu fel arfer ond disgwylir i drenau rhwng Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe fod yn brysurach nag arfer yn sgil y gweithredu diwydiannol sy’n digwydd gyda gweithredwyr eraill.
Mae TrC yn cynghori i bobl deithio ar y rheilffyrdd dim ond os yw eu taith
yn hanfodol ar brif linell de Cymru rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd a rhwng
Caerdydd a Lydney. Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch yr amseroedd yn llawn ar wefan TrC a chynllunwyr
teithiau ar-lein eraill cyn i chi deithio. Lle bydd gwasanaethau yn rhedeg,
mae’n bosib y byddant yn destun newidiadau funud olaf.
Bws
Caiff
gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau. Ewch i
wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws
penodol.
Ar gyfer
gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso
i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer
gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o
wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
Bydd bysus
National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi
feicio neu gerdded?
Gall y rheini
sy’n byw yng Nghaerdydd seiclo neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r
teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei seiclo’n braf
mewn 20 munud.
Gwyddom
hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n seiclo ar hyn o bryd
roi cynnig arno.Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud seiclo yn ddewis mwy
atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig
neu yn ystod digwyddiadau mawr.
Parcio i
Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael
yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi
Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a
Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i
Bobl Anabl
Argymhellir
bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl
hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar
wefannau unigol.
Tacsis
Ni fydd y digwyddiadau
hyn yn effeithio ar safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i siop House of
Fraser).