Back
Darganfyddwch drosoch eich hun berl emrallt Môr Hafren

14.08.23
Bum milltir yn unig oddi ar arfordir Caerdydd, ceir
  hafan naturiol sydd wedi bod â chysylltiad dynol ers dros 2,000 o flynyddoedd.

Ar ddiwrnod clir, mae Ynys Echni - perl fach emrallt ym Môr Hafren – yn ymddangos yn ddigon agos i'w chyffwrdd ac ers yr Oes Efydd mae wedi denu casgliad lliwgar o ymsefydlwyr, ffermwyr, arloeswyr, milwyr a gwyddonwyr, i gyd yn cael eu denu gan ei rhinweddau unigryw.

Mae ei statws presennol fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Leol yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy deniadol i ymwelwyr, ac eto mae ei lleoliad anghysbell a'i llanw a thrai cyfnewidiol yn golygu y gall ymddangos allan o gyrraedd fforwyr modern.

Bellach, mae Cyngor Caerdydd - sy'n berchen ar yr ynys - yn gwneud y cadarnle deniadol hwn yn  hygyrch i bawb drwy gyfres o seibiannau canol wythnos ar thema sy'n cynnwys cyrsiau lles ac ysgrifennu creadigol yn ogystal â phrofiadau cadwraeth.

Adfer, Ymlacio ac Ailgysylltu (16-18 Awst; neu 1-3 Medi)

Ymlaciwch i ffwrdd o fywyd bob dydd ac ailgysylltu â natur gyda Kerry Sanson, iachäwr, arweinydd ffitrwydd grŵp a hyfforddwr personol. Mae'r encil yn cynnig cyfleoedd i roi cynnig ar symudiadau fel Ioga, Qigong, Dawns Rhyddid ac arferion ystyriol a dysgu technegau a sgiliau newydd.

Anturiaethau ysgrifennu creadigol (29 Medi - 1 Hydref)

Ar gyfer dechreuwyr, neu'r rhai sydd â phrofiad, cewch eich ysbrydoli gan harddwch naturiol cyfoethog a hanes diddorol yr ynys i ddatblygu eich gwaith ysgrifennu dan arweiniad yr artist a'r awdur Sarah Featherstone o Gaerdydd.

Bywyd ar yr ynys – profiad o wirfoddoli ym maes cadwraeth (4-8 Medi)

P'un ag ydych yn chwilio am yrfa ym maes cadwraeth natur neu wyliau gwahanol, mae'r egwyl pedwar diwrnod hwn yn gyfle perffaith i weithio ochr yn ochr â thîm o wardeiniaid yr ynys yn cyflawni tasgau hanfodol gan gynnwys rheoli glaswelltir, helpu gwylanod sy’n nythu, monitro'r boblogaeth o nadroedd defaid prin ac adfer adeiladau treftadaeth.

Byddwch hefyd yn cael profi’r hyn nad yw ymwelwyr dydd yn ei wneud – eistedd o dan y sêr, gwylio goleuadau'r ddinas a'r llongau yn y nos ac edmygu machlud haul a chodiad trawiadol yr haul.

Mae pob taith yn ddarpariaeth hunanarlwyo ac yn cynnwys taith ddychwelyd mewn cwch, llety hostel sylfaenol a rennir a hyfforddiant a gweithgareddau a gynhelir gan hyfforddwyr profiadol. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.cardiffharbour.com/cy/ynys-echni/digwyddiadau-ynys-echni/

Ffeil Ffeithiau Ynys Echni

  •  Er ei bod ond ychydig dros 10fed milltir sgwâr mewn maint, mae gan Ynys Echni hanes mawr. Cafodd breswylwyr am y tro cyntaf yn ystod yr Oes Efydd (900-700CC) ac yn y 5ed-6ed Ganrif OC roedd yn encil i Sant Cadoc oedd yn byw fel meudwy ar yr ynys
  • Mae ganddi gysylltiadau â'r Eingl-Sacsoniaid a'r Llychlynwyr, ac ym 1542 rhoddodd Harri’r VIII brydles i Edmund Tournor i ffermio'r ynys
  • Yn y 18fed Ganrif roedd yn safle delfrydol ar gyfer smyglo
  • Er gwaethaf y goleudy a adeiladwyd ym 1737, mae wedi gweld nifer o longddrylliadau. Ym 1817, suddodd y slŵp Brydeinig William a Mary ar ôl taro creigiau oddi ar Ynys Echni gan golli 54 o deithwyr ac mae 50 ohonynt wedi'u claddu ar yr ynys.
  • Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gosodwyd 350 o filwyr y Magnelwyr Brenhinol ar yr ynys i amddiffyn llyngesau gosgordd rhwng Caerdydd, Y Barri ac Ynys Echni.
  • Yn 2008, ym mhennod 'Adrift' o sgil-gynhyrchiad  Dr Who y BBC, Torchwood, cafodd yr ynys ei chynnwys fel cartref cyfleuster meddygol cyfrinachol.
  • Ar hyn o bryd mae'r ynys yn cael ei rheoli gan Gyngor Caerdydd, ac yn cael ei chefnogi gan Brosiect Ynys Echni, sy'n elusen gofrestredig