Back
Atebion arloesol i fynd i'r afael â phrinder tai yn cyrraedd ar y safle

02/08/23

Mae'r unedau modiwlaidd cyntaf, sy'n rhan o gynllun peilot arloesol i helpu i fynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy enbyd yng Nghaerdydd, wedi cyrraedd y safle yn Grangetown.

A white building with windowsDescription automatically generated

Mae'r ddwy uned fodiwlaidd yn rhan o'r cam cychwynnol a fydd yn cael ei osod ar hen safle'r Gwaith Nwy yn Heol y Fferi i greu 155 eiddo parod, hynod ynni-effeithlon, i helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau digartrefedd ac argaeledd llety dros dro yn y ddinas.

Gyda chefnogaeth ariannol ganRaglen Gyfalaf Llety TrosiannolLlywodraeth Cymru, mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r partner datblygu Wates i ddarparu'r cartrefi newydd, a fydd yn cynnig tai dros dro o ansawdd da i deuluoedd yn agos at ganolfan digartrefedd teuluol y cyngor, Yr Hafan, a adeiladwyd hefyd gan ddefnyddio unedau modiwlaidd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae ein gwasanaethau digartrefedd a thai yn parhau i weld galw eithriadol o uchel am gymorth. Mae'r ateb arloesol hwn i'r pwysau sy'n ein hwynebu yn ein galluogi i roi hwb cyflym i'n cyflenwad o lety, mewn llawer llai o amser na thrwy ddulliau adeiladu traddodiadol.

"Mae'n braf iawn gweld yr unedau cyntaf yn cyrraedd y safle.  Bydd y datblygiad yn cyflymu dros yr wythnosau nesaf ac rydym yn disgwyl i drigolion symud i mewn tua dechrau mis Hydref."

A bathroom with a toilet and sinkDescription automatically generated

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Preswyl Wates, Edward Rees:  "Mae wedi bod yn werth chweil gweld yr unedau cyntaf yn cyrraedd y safle, gan fod y rhain yn golygu mwy o gartrefi i bobl sydd heb do uwch eu pen neu sy'n dioddef mewn llety is-safonol. Mae'r system fodiwlaidd wedi ein galluogi ni i gyd i ddarparu llety dros dro mawr ei angen, mewn ffordd llawer cyflymach a mwy arloesol na dulliau adeiladu traddodiadol.

"Diolch i'r bartneriaeth gyda Chyngor Caerdydd a'u cefnogaeth i atebion effeithlon, bydd safle'r Gwaith Nwy yn gartref i 155 o aelwydydd yn y pen draw.  Yn fwy na hynny, gall y cyfan gael ei ddatgymalu a'i ailadeiladu lle bynnag mae'r angen yn codi."

Bydd y 155 o gartrefi unllawr newydd - cymysgedd o un, dwy, tair a phedair ystafell wely - yn olau, mawr ac ynni-effeithlon, gan ymgorffori technolegau adnewyddadwy yn unol â Strategaeth Un Blaned y Cyngor.

Mae'r unedau'n cael eu cyflenwi gan Daiwa House Modular, @Home - y cwmni a gyflenwodd unedau ar gyfer datblygiad modiwlaidd y Cyngor yn Stryd Crofts, a Beattie Passive, cyflenwr unedau Yr Hafan a'r llety brys yng Nghanolfan Asesu Sengl y Cyngor yng Nglan-yr-afon.

A kitchen with white cabinets and a wood floorDescription automatically generated

Fel rhan o'i raglen datblygu tai ledled y ddinas i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd dros y blynyddoedd nesaf, mae gan y Cyngor gynlluniau tymor hwy i ddatblygu safle ehangach y Gwaith Nwy i ddarparu tua 500 o gartrefi newydd, gan gynnwys tai cyngor.

Mae modd datgymalu'r holl unedau modiwlaidd a fydd yn cael eu gosod ar safle'r Gwaith Nwy fel llety dros dro, a gellir eu symud i rannau eraill o'r ddinas mewn ymateb i angen yn y dyfodol.