Back
Byw'n annibynnol i fodloni anghenion a dyheadau pobl hŷn

31/07/23 

Bydd gwaith adeiladu yn dechrau ar ddatblygiad dau Gynllun Byw yn y Gymuned newydd fydd yn darparu llety hyblyg a chynaliadwy i breswylwyr hŷn er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain am hirach. 

A building with trees and a streetDescription automatically generated

Stryd Bute 

Bydd cyfanswm o 86 o fflatiau cyngor newydd, sy'n rhan o raglen datblygu tai uchelgeisiol y Cyngor, yn cael eu darparu ar draws y ddau gynllun yn Butetown ac ar Heol Lecwydd. Yn ogystal â hybu'r cyflenwad o dai cyngor mawr eu hangen yn y ddinas, bydd y ddau gynllun hefyd yn darparu ystod o gyfleusterau i'r gymuned ar gyfer yr ardaloedd lleol. 

A building with trees and people walking aroundDescription automatically generated

Heol Lecwydd

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Rwy'n falch iawn 0 weld y ddau gynllun hyn, a fydd yn darparu cartrefi newydd mwy cynaliadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel, yn dechrau ar y safle. Maent mewn lleoliadau gwych i bobl hŷn gadw mewn cysylltiad â'u cymunedau, mewn ardaloedd lle mae angen mwy o dai cyngor o ansawdd da arnom.

"Mae'r ddau ddatblygiad yn rhan o raglen fuddsoddi gwerth £150m, yn adeiladu cartrefi cyngor newydd i bobl hŷn ledled y ddinas a rhan o'n cynlluniau ehangach i ddarparu 2,700 o dai cyngor newydd dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn darparu 600 o fflatiau newydd ar draws 10 Cynllun Byw yn y Gymuned ar gyfer pobl dros 55 oed a bydd yr un cyntaf o'r cynlluniau newydd sbon hyn, Addison House ar safle Llwyn Aethnen yn Nhredelerch, yn croesawu trigolion yn ddiweddarach eleni. 

Fel aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar a chydag uchelgais i Gaerdydd fod yn lle gwych i heneiddio, mae'n bwysig bod y cartrefi newydd rydym yn eu hadeiladu yn diwallu anghenion preswylwyr hŷn pan fyddant yn symud i mewn ond hefyd i barhau i wneud hyn wrth i'w hanghenion newid wrth iddynt dyfu'n hŷn.

"Gyda chynllun Stryd Bute a Heol Lecwydd, bydd gan breswylwyr lety o ansawdd uchel a mynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf i helpu i gynnal eu hannibyniaeth, meithrin ymdeimlad o gymuned ac annog rhyngweithio cymdeithasol."

Bydd Encon Construction Ltd yn dechrau gweithio ar Gynllun Byw yn y Gymuned Heol Lecwydd a fydd yn darparu 41 o gartrefi un a dwy ystafell wely newydd ar safle hen Neuadd Gymunedol Treganna. Bydd y datblygiad hefyd yn darparu neuadd gymunedol fodern a hyblyg i sicrhau bod yr ased cymunedol yn cael ei gadw a bod ganddo ddyfodol hirdymor a chynaliadwy.  Bydd gan y neuadd gymunedol newydd ardd gymunedol wedi'i chyfoethogi ac ardal gemau Aml-ddefnydd newydd.

Mae disgwyl i'r eiddo fod yn barod ar gyfer preswylwyr newydd yng Ngwanwyn 2025.

Ar Stryd Bute, bydd Hale Construction yn datblygu cynllun tebyg sy'n cynnwys 45 fflat un a dwy ystafell wely gyda balconïau neu batios preifat, man cymunedol llawr gwaelod a gardd do. Bydd y cynllun yn cynnig llety i bobl dros 55 oed yn Butetown, gan gynnwys preswylwyr sy'n byw yn Nelson House ar hyn o bryd yn dilyn penderfyniad y Cyngor i ail-bwrpasu'r bloc uchel ar gyfer llety teuluol.

Mae'r cynllun yn cynnwys man gwefru a storio sgwteri trydan, man storio beiciau, ystafelloedd gweithgareddau, lolfa i breswylwyr, ystafell feddygol, ystafelloedd i westeion, ystafell golchi dillad a gerddi cymunedol wedi'u tirlunio, yn ogystal â neuadd gymunedol sy'n cael ei phrydlesu i glwb gymnasteg lleol.

Mae disgwyl i gynllun Stryd Bute, ar safle hen adeilad Brandon Tool Hire, gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2025.

Mae'r ddau gynllun wedi'u cynllunio i safon uchel iawn a bydd ganddynt gymwysterau carbon isel, yn unol â gweledigaeth Un Blaned y Cyngor mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Defnyddir pympiau gwres o'r ddaear yn y ddau ddatblygiad fel ffynhonnell ynni glân ac amgen i nwy tra bydd paneli ffotofoltäig yn lleihau'r galw am drydan, gan leihau effaith amgylcheddol yr adeiladau a lleihau costau rhedeg parhaus i breswylwyr.