Back
Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg yn newid, gyda lansiad ‘Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro'


12/7/2023

Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg yn newid i'Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro'.Mae'r gwasanaeth wedi cael ei adnewyddu, gydag edrychiad gwahanol, gan gynnwys logo a gwefan newydd, sy'n gwneud y gwasanaeth yn ehangach a haws ei ddefnyddio i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion.

Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn mynd o nerth i nerth yn dilyn lansio'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth fis Medi diwethaf, ac er mwyn ymateb i'w rôl hollbwysig newydd fel y sefydliad arweiniol lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, datblygwyd enw, brand, gwefan a phorthol rhieni ac ysgolion newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae cerddoriaeth nawr yn chwarae rhan bwysig ym maes Celfyddydau Mynegiannol y Cwricwlwm i Gymru ac mae lansio'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yn cyd-fynd â gweithrediad y cwricwlwm o fis Medi 2022, wedi sicrhau bod y ddwy elfen yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ysgolion ac athrawon yn ogystal â darparu cyfleoedd cyffrous i blant a phobl ifanc brofi'r llawenydd a ddaw gyda chreu cerddoriaeth.

Bydd y wefan newydd a'r porthol rhieni yn gwella cyfathrebu rhwng tiwtoriaid, rhieni a gofalwyr diolch i system negeseuo integredig. Mae opsiynau talu hefyd yn newid fel y call cost hyfforddiant gael ei lledaenu dros gyfnod hirach, i roi amrywiaeth o opsiynau sy'n fforddiadwy i bawb.

Mae'r logo newydd ar gyfer y gwasanaeth, CerddCF, yn cyfleu hunaniaeth ddaearyddol gref sy'n gysylltiedig â'r cod post ar gyfer yr ardal ranbarthol leol ac ehangach, mae amlygrwydd 'addysg' wrth wraidd y cynnig ac mae'r newid yn mynd i'r afael ag unrhyw ddryswch posibl gyda gwasanaethau cerdd lleol eraill.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Nod y gwasanaeth, ar ei newydd wedd, yw uno pob partner addysg gerdd, lleoliad a sefydliad perfformio ar draws y rhanbarth, gyda chefnogaeth i bob ysgol a lleoliad yn genhadaeth iddo.

"Mae'n newyddion gwych i bobl ifanc yng Nghaerdydd a'r Fro. Byddant yn cael gwasanaeth symlach gyda'r un gwersi o safon a mwy o gyfleoedd i dalent ac i ddisgyblion lwyddo yn y dyfodol."

Bydd ysgolion, rhieni a gofalwyr sydd â disgyblion sydd eisoes yn cael gwersi cerdd gyda'r gwasanaeth yn cael e-bost yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud i ddechrau'r tymor newydd ym mis Medi.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig eang gan Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro, ewch i:https://www.cfmusiceducation.co.uk/cy/neu dilynwch @cerddcf ar y cyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy.