Back
Cyngor yn ymrwymo i ymgynghoriad cyhoeddus wrth wneud penderfyniadau

11.07.23
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o'i Strategaeth Cyfranogiad newydd, a gobeithir y bydd yn annog mwy o bobl leol i gymryd rhan yn ei brosesau gwneud penderfyniadau.

Mae'r strategaeth, sydd i'w hystyried gan Gabinet y cyngor yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, wedi'i llunio yn sgil cyfraith Llywodraeth Cymru sy'n gorfodi awdurdodau yng Nghymru i fabwysiadu'r dull hwn.

Ers blynyddoedd lawer, mae'r Cyngor wedi cynnal ymgynghoriadau â'r cyhoedd ynghylch y gyllideb a thrwy ei fenter Holi Caerdydd, sydd wedi helpu i lunio polisïau a llywio penderfyniadau allweddol.

Nawr, yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sy'n nodi bod rhaid i strategaeth pob cyngor helpu pobl leol i ddod yn ymwybodol o faterion, mae bellach yn bwriadu ehangu hyn ar faterion gan gynnwys:

  •  Rôl a chyfrifoldebau'r Cyngor
  • Sut i ddod yn gynghorydd
  • Hwyluso mynediad at wybodaeth am benderfyniadau
  • Ffyrdd y gallant gyflwyno sylwadau i'r cyngor am benderfyniad, cyn neu ar ôl iddo gael ei wneud, a
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith cynghorwyr o fanteision defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Mae'r cyngor eisoes wedi ymgorffori cyfranogiad yn ei ddatganiad polisi 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach', gan ymrwymo i ymhelaethu ar leisiau pobl sy'n llai tebygol o gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a gwella ymgysylltiad â 'lleisiau a glywir yn anaml'.

Nawr, mae'r Strategaeth Cyfranogiad newydd yn nodi ffyrdd i'r nodau hyn gael eu cyflawni. Ymhlith y mentrau a gynigiwyd mae:

  •  Arolwg blynyddol 'Holi Caerdydd' sy'n canolbwyntio ar foddhad ar Gaerdydd, cymunedau lleol a gwasanaethau cyhoeddus
  • Ymgynghoriad blynyddol ar flaenoriaethau cyllideb y Cyngor, ac
  • Arolwg Caerdydd sy'n Dda i Blant gyda phob plentyn ysgol yn y ddinas bob dwy flynedd
  • 'Porth democratiaeth' ar wefan y Cyngor i gefnogi'r broses ddemocrataidd a gwella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad
  • Nodi mesurau i gynorthwyo trigolion lleol i sefyll am swydd
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael i ymgeiswyr anabl sy'n sefyll yn y swydd
  • Creu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol democrataidd ar wahân
  • Mentora a chysgodi ar gyfer rhanddeiliaid, gan gynnwys y Cyngor Ieuenctid a'r Senedd Ieuenctid

Un o brif ysgogwyr y strategaeth yw'r Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet ar y cyd dros Daclo Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd. Dywedodd: "Mae hyrwyddo cyfranogiad dinesig a rhoi llais i bobl Caerdydd wrth lunio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau yn cynrychioli blaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Mae'r rhain hefyd yn werthoedd sy'n agos at fy nghalon.

"Rydym felly wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Mae hyn yn golygu rhoi cyfle i bawb gyfrannu a rhaid i ni fod yn barod i wrando ac ymateb.

"Efallai na fyddwn bob amser yn bwrw ymlaen gyda'r opsiwn a ffefrir gan y cyhoedd ond pan nad ydym yn gwneud hynny, mae angen i ni fod yn glir ac yn dryloyw ac egluro pam lai."

Mae'r cyngor bellach wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad chwe wythnos ar y strategaeth ddrafft, sy'n rhedeg rhwng 24 Gorffennaf a 4 Medi, gan gynnwys grwpiau y nodwyd eu bod yn cael eu tangynrychioli, ynghyd â grwpiau ffocws yn cynnwys:

  •  Pobl hŷn (75+ oed)
  • Plant a phobl ifanc
  • Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a
  • Phobl sy'n ystyried eu bod yn anabl

Mae gwybodaeth am y strategaeth ar gael yn Gymraeg, Pwyleg, Arabeg a Bengaleg a bydd ar gael fel rhan o'r broses. Pan fydd y broses hon wedi'i chwblhau, gofynnir i'r Cabinet roi ei gymeradwyaeth lawn i'r fersiwn derfynol o'r strategaeth yr hydref hwn.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen y Strategaeth Cyfranogiad yn llawn - CAB 21 Mehefin 2023 - Eitem 12 - Strategaeth Cyfranogi.pdf