Back
Gwneud swyddi'r Cyngor yn fwy hygyrch i bawb


7/7/23

Llwyddodd dros 1,000 o bobl i sicrhau rôl yn gweithio i Gyngor Caerdydd drwy ei asiantaeth recriwtio fewnol, Caerdydd ar Waith, y llynedd.

 

Mae Caerdydd ar Waith yn darparu rolau dros dro ar draws ystod o wasanaethau o fewn yr awdurdod a'r llynedd, gwelwyd cynnydd o 40 y cant yn nifer yr unigolion a symudodd i leoliadau drwy ei gronfa, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

 

Mae'r asiantaeth wedi cefnogi cyfarwyddiaethau ar draws y Cyngor i recriwtio i amrywiaeth o rolau sector â blaenoriaeth fel gweithwyr cymorth mewn hosteli, gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm a swyddi gofal cymdeithasol tra ar yr un pryd, yn cyflawni canlyniadau rhagorol i bobl sy'n chwilio am waith.

 

Yn dilyn adolygiad llawn yn 2020, gwnaed nifer o newidiadau i Caerdydd ar Waith i sicrhau profiad gwell i'r ymgeisydd a'r gwasanaeth recriwtio o fewn y Cyngor, gan gynnwys digideiddio, symleiddio prosesau, mwy o hygyrchedd a mwy o welededd yn y gymuned. 

 

O ganlyniad, mae'r amser cyfartalog a gymerwyd i dderbyn ymgeisydd i gronfa Caerdydd ar Waith wedi gwella bellach o'r 40 diwrnod blaenorol i 48 awr. Bu cynnydd sylweddol yn nifer yr ymgeiswyr sy'n ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sy'n gwneud cais ac yn mynd i mewn i gronfa Caerdydd ar Waith yn llwyddiannus o 7% ym mis Mehefin 2021 i 37% ym mis Mawrth 2023 ac yn gyffredinol, bu cynnydd o 12% yn y nifer o leoliadau a ddarparwyd trwy Caerdydd ar Waith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:   "Mae Caerdydd ar Waith wedi dod yn bell yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda'r prif nod o wneud swyddi'r Cyngor yn fwy hygyrch i'n cymunedau.  Rydym am sicrhau bod gweithlu'r Cyngor yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu felly mae llawer o waith wedi bod yn digwydd ar draws y ddinas i gysylltu â chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithlu presennol.

 

"Rydyn ni eisiau hyrwyddo'r Cyngor fel lle gwych i weithio ynddo, gan gynnwys i bobl iau. Ond rydym yn gwybod y bydd angen mwy o gymorth ar rai ymgeiswyr nag eraill drwy'r broses ymgeisio ac asesu, felly mae amrywiaeth o gymorth o fewn yr asiantaeth i helpu pobl i fynd i rôl y mae ganddynt ddiddordeb ynddi.

 

"Mae'r tîm yn gweithio'n agos â gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith a Dysgu Oedolion y Cyngor i sicrhau bod ymgeiswyr addas ar gyfer rolau yn cael eu nodi a'u sgiliau'n cael eu gwella cyn gynted â phosibl.  Gwnaeth y timau hyn waith aruthrol y llynedd, gan helpu 135 o bobl i sicrhau rôl gweithiwr gofal naill ai gyda'r Cyngor neu ddarparwyr gofal dan gontract trwy Academi Gofalwyr Caerdydd."

 

Mae 'Paratoi Caerdydd at Waith' yn helpu unigolion mwy agored i niwed i gael gwaith ac yn creu llwybr o ddiweithdra i hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli, swyddi dros dro ac, mewn llawer o achosion, cyflogaeth barhaol o fewn yr awdurdod. Mae'r cynllun yn cynorthwyo ymgeiswyr posibl i oresgyn unrhyw rwystrau y gallent eu hwynebu o ran bod yn llwyddiannus yn y broses asesu recriwtio trwy gyfuno â chymorth Dysgu Oedolion i helpu i wella sgiliau cyfathrebu a hyder unigolyn.

 

Ac mae'r fenter newydd 'Caerdydd ar Waith' yn cynnig lleoliadau gwaith i bobl ifanc a phobl o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, a allai ei chael hi'n anodd sicrhau cyflogaeth oherwydd ychydig o brofiad gwaith neu ddim o gwbl.

 

Aeth y Cynghorydd Bradbury yn ei flaen i ddweud: "Cymaint yw llwyddiant Caerdydd ar Waith fel bod nifer o awdurdodau lleol eraill naill ai wedi gofyn am ein cyngor ynghylch sefydlu asiantaeth fewnol neu wedi holi am ddefnyddio Caerdydd ar Waith fel eu darparwr asiantaeth, sy'n dyst i'r cynnydd rydym wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf."

 

Bydd cynnydd Caerdydd ar Waith yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 13 Gorffennaf fel rhan o adroddiad sy'n argymell caffael gwasanaeth broceriaeth niwtral i werthwyr, i ddarparu staff asiantaeth arbenigol i'r Cyngor.

 

Darllenwch yr adroddiad llawn yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8208&LLL=1

 

 

Os oes gennych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, ddiddordeb mewn dechrau gyrfa gyda'r Cyngor, ewch i www.caerdyddarwaith.co.uk am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.