Back
‘Ar Eich Marciau, Darllenwch!’ Sialens Ddarllen yr Haf Caerdydd yn dechrau ym mis Gorffennaf


5/7/23

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ôl. Y thema eleni yw grym chwarae, chwaraeon, gemau a gweithgarwch corfforol gyda llawer o weithgareddau am ddim i deuluoedd.

 

Yn ystod gwyliau'r haf eleni, mae plant rhwng pedair ac 11 oed yn cael eu hannog i ymuno â thîm o sêr anhygoel a'u masgotiaid gwych, cymeriadau a grëwyd  gan yr awdur plant a'r darlunydd Loretta Schauer. 

 

Mae Sialens Ddarllen yr Haf 2023: ‘Ar Eich Marciau, Darllenwch!' yn rhan o gyfres o weithgareddau a digwyddiadau llawn hwyl drwy'r haf yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd, Bydd darllenwyr ifanc yn llywio cwrs rhwystrau ffuglennol drwy'r tymor ac yn olrhain eu darllen wrth iddynt fynd. Cânt eu cymell gan wobrwyon am ddim fel sticeri ar hyd y ffordd.

 

Trwy gyfrwng cardiau her gweithgareddau gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, a chasgliad cyffrous o lyfrau ar thema, nod Sialens Ddarllen yr Haf yw cadw'r dychymyg yn fyw dros wyliau'r ysgol.  Drwy gymryd rhan yn yr her, bydd cyfle i bobl ifanc archwilio deunydd darllen newydd, datblygu sgiliau, a darganfod diddordebau newydd.

 

Bydd hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni ar ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf, gyda llawer o weithgareddau llawn hwyl. Cyflwynir y Sialens gan yr Asiantaeth Ddarllen ac mae'n cael ei darparu gan lyfrgelloedd cyhoeddus a hybiau ledled y wlad bob blwyddyn.  Ewch i https://hybiaucaerdydd.co.uk/ i weld be sy' mlaen 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o helpu plant i ddarllen, dychmygu a chadw'n heini yr haf hwn.  Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i rieni, gofalwyr a theuluoedd gymryd rhan a rhannu ffordd boblogaidd o dreulio amser hamdden, sy'n cynnal lefelau llythrennedd plant hyd yn oed pan nad ydynt yn yr ysgol, ac yn eu cyflwyno i'r hybiau a'r cyfleusterau llyfrgell rhagorol sydd gennym.

 

"Cymerodd mwy na 3,800 o blant ran yn y Sialens y llynedd ac rydym am gynyddu'r niferoedd o flwyddyn i flwyddyn, felly cymerwch ran a chael haf gwych o ddarllen a dysgu am chwarae, chwaraeon, gemau a gweithgarwch corfforol."

 

Ar ôl cofrestru, bydd plant yn casglu eu pecyn craidd.  Gyda phob llyfr maen nhw'n ei ddarllen, byddan nhw'n derbyn gwobr newydd.  Eleni byddant yn cael llyfrnod sy'n goleuo yn y  tywyllwch, pensil hadau, sticeri a chwiban. Bydd pawb sy'n cwblhau'r Sialens hefyd yn cael tystysgrif a medal.

 

Mae'n hawdd cofrestru, galwch i mewn i'ch llyfrgell neu ganolfan leol neu cofrestrwch ar-lein yma: https://summerreadingchallenge.org.uk/