Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 27 Mehefin 2023

Dyma ein newyddion diweddaraf, sy'n cynnwys: 'Yr Eglwys Newydd Werddach' sydd wedi'i chynllunio i leihau llifogydd; helpu pobl ifanc i osgoi dioddef trosedd; gwaith adfer Hen Lyfrgell Caerdydd yn cael hwb rhodd o £2 miliwn; a dathlu wythnos gwaith ieuenctid 2023.

 

Y cyngor y n bwriadu creu ‘Eglwys Newyrdd Werddach'

Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cynlluniau i leihau'r perygl o lifogydd o Nant yr Eglwys Newydd.  Bydd prosiect Yr Eglwys Newydd Werddach yn archwilio amrywiaeth o atebion gan gynnwys seilwaith gwyrdd, rhwydwaith o fannau gwyrdd amlbwrpas, i leihau dŵr wyneb ffo a rheoli problemau capasiti'r rhwydwaith draenio lleol, wrth wella rhannau o fannau cyhoeddus yr Eglwys Newydd.  Mae'r prosiect yn rhan o strategaeth gyffredinol Cyngor Caerdydd i sicrhau bod y ddinas yn 'gryfach, tecach a gwyrddach'.

Mae ardal yr astudiaeth yn cynnwys y rhan o Nant yr Eglwys Newydd sy'n llifo o Barc Caedelyn yn Rhiwbeina trwy'r Eglwys Newydd i'w chwymp yn Afon Taf ym Mharc Lydstep, Gabalfa. Mae llifogydd wedi effeithio ar drigolion a busnesau yn yr ardal hon, gyda mwy na deg o achosion o lifogydd wedi'u cofnodi ers 1990.

Gyda chyllid wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Arup, ymgynghoriaeth datblygu cynaliadwy blaenllaw i gwblhau'r opsiynau, datblygu'r dyluniad manwl a sicrhau caniatâd cynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Yr Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd: "Mae llifogydd wedi effeithio ar drigolion yr Eglwys Newydd ac maen nhw'n debygol o waethygu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae arnom angen system draenio trefol cynaliadwy sydd wedi'i dylunio'n dda i wella gwydnwch y gymuned hon i'r digwyddiadau tywydd eithafol hyn.

"Gan adeiladu ar lwyddiant Grangetown Werddach, nod Yr Eglwys Newydd Werddach yw cynnig ystod o atebion dylunio trefol sy'n sensitif i ddŵr i leihau dŵr wyneb ffo a rheoli faint o ddŵr sydd yn y rhwydwaith draenio lleol.

"Rydym hefyd yn archwilio'r manteision cymunedol ehangach gan gynnwys trafnidiaeth gynaliadwy, gwelliannau i'r ardal gyhoeddus a gwella bioamrywiaeth.

"Rydym yn awyddus i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol a'r gymuned leol i helpu i lunio'r dyluniad manwl."

Gofynnir i drigolion a busnesau lleol gysylltu â'r tîm prosiect:
argreenerwhitchurch@grasshopper-comms.co.uk  neu 029 2002 4924 i rannu eu profiadau a'u lluniau o lifogydd o Nant yr Eglwys Newydd erbyn Dydd Mawrth 25 Gorffennaf.

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i sicrhau bod y tîm prosiect yn deall y problemau llifogydd lleol i lywio'r gwaith o ddatblygu opsiynau o ran atebion.

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael  yma

Mae'r tîm prosiect yn cynllunio sawl cyfle i'r gymuned leol wneud sylwadau wrth i'r cynigion gael eu datblygu drwy gydol y flwyddyn. Unwaith y bydd y cynigion wedi'u cwblhau, bydd y prosiect yn ceisio caniatâd cynllunio.

Darllenwch fwy yma

 

Rhaglenni i leihau'r risg y bydd pobl ifanc yn dioddef trosedd a thrais

Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno dwy fenter arloesol gyda'r nod o fuddsoddi ym mhobl ifanc y ddinas a'u helpu i osgoi diwylliant gangiau, troseddau a thrais.

Wedi'u cynllunio i ymgysylltu ac addysgu unigolion ifanc, mae'r prosiectau wedi'u sefydlu drwy weithio mewn partneriaeth amlasiantaethol ac yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio technoleg arloesol a phrofiadau theatrig rhyngweithiol i hyrwyddo gwneud penderfyniadau gwybodus a grymuso pobl ifanc.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Nod y mentrau newydd hyn yw meithrin cymuned fwy diogel trwy rymuso unigolion ifanc i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd a herio dylanwadau dinistriol trosedd a thrais.

"Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau cynhwysfawr i bobl ifanc yn ein cymunedau ac mae'r mentrau arloesol hyn yn cryfhau ein penderfyniad ymhellach i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein hieuenctid a chreu dyfodol mwy disglair a mwy diogel i bawb."

Mae adborth cadarnhaol gan ysgolion uwchradd ar draws y ddinas, wedi amlygu effeithiolrwydd y prosiectau, sydd wedi'u llunio gan ddefnyddio barn pobl ifanc. Mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi mwynhau'r rhaglenni, gan ddweud eu bod yn bodloni eu hanghenion o roi mwy o ymwybyddiaeth iddynt o'r arwyddion o feithrin perthnasau amhriodol.

Darllenwch fwy yma

 

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio ymgyrch adfer Hen Lyfrgell Caerdydd gyda rhodd o £2 filiwn

Mae CBCDC wedi cyhoeddi heddiw bod y gŵr busnes llwyddiannus o Gymro-Americanwr Syr Howard Stringer wedi rhoi rhodd o £2 filiwn i'r Coleg, i'w helpu i adfer a thrawsnewid Hen Lyfrgell nodedig canol dinas Caerdydd.

Mae'r rhodd hwn gan Syr Howard a'i wraig y Fonesig Stringer yn lansio ymgyrch codi arian uchelgeisiol y Coleg ar gyfer y Llyfrgell sydd angen codi cyfanswm o £12 miliwn, gyda £3 miliwn bellach wedi'i sicrhau, gan gynnwys rhodd blaenorol gan Sefydliad Mosawi.

Mae'n dilyn trosglwyddiad diweddar y Llyfrgell o ofal Cyngor Caerdydd i'r Coleg am y 99 mlynedd nesaf ar brydles hir, gan adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i gyflawni Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd. Fel arwydd o ddiolchgarwch, mae prif stiwdio'r llawr cyntaf wedi'i henwi'n Stiwdio Syr Howard Stringer am weddill cyfnod y brydles.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae Caerdydd yn brifddinas greadigol a diwylliannol ac mae'r rhodd hynod hael hwn yn mynd â ni gam yn nes at ddod ag un o'i sefydliadau diwylliannol mwyaf arwyddocaol i ganol y ddinas. Mae'n hwb enfawr i addysg cerddoriaeth a'r celfyddydau perfformio ac i'n gwaith strategaeth cerddoriaeth i ddiogelu, gwella a datblygu arlwy cerddoriaeth y ddinas.

"Mae conservatoire Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn darparu llif cyson o dalent o'r radd flaenaf ac mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i fwynhau llwyddiant rhyngwladol. Bydd ei gynlluniau cyffrous yn adeiladu ar yr hyn y gall ei gynnig i'w fyfyrwyr, ond hefyd yn agor ei waith i'r cyhoedd yn ehangach, gan wneud yr adeilad yn fwy hygyrch a'r gerddoriaeth a'r perfformiadau sy'n deillio ohono yn rhan annatod o ganol y ddinas.

"Bydd hefyd yn rhoi bywyd newydd i un o adeiladau mwyaf hanesyddol Caerdydd, gan ei ddiogelu a'i gadw am flynyddoedd i ddod, ac rwy'n falch bod yr Amgueddfa, am y tro, hefyd yn aros yn yr adeilad, hyd nes y bydd ein gwaith partneriaeth cadarnhaol ag Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa i ddod o hyd i gartref hirdymor cynaliadwy mwy addas iddo wedi'i gwblhau.

"Bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn helpu i sicrhau bod cerddoriaeth a diwylliant Caerdydd yn parhau, yn llythrennol, yng nghanol y ddinas."

Darllenwch fwy yma

 

Mae Gweithwyr Ieuenctid Caerdydd yn rhannu eu straeon. Wythnos Gwaith Ieuenctid 23 - 30 Mehefin 2023

Mae gweithwyr ieuenctid o bob rhan o'r ddinas wedi rhannu eu straeon i gyd-fynd ag Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni yng Nghymru (23 - 30 Mehefin 2023),sy'n gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid,gyda'r nodo hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o waith ieuenctid a'i gefnogi.

Mae'r cyfrifon agored, gonest ac yn aml annwyl yn rhoi cipolwg ar sut olwg sydd ar ddiwrnod gweithiwr ieuenctid yng Nghaerdydd, sut y gwnaethant ddechrau yn y rôl, uchafbwyntiau gyrfa a beth sy'n eu cadw yn y swydd.

Fe welwch o straeon gan Weithwyr Ieuenctid Caerdydd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd drwy gydol yr wythnos neu darllenwch nhwyma

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi gwneud ffilm sy'n cynnwys pobl ifanc, gan siarad yn eu geiriau eu hunain am yr effaith y mae'r ddarpariaeth wedi'i chael arnynt, gallwch ei gweld  yma

I ddysgu mwy am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol:

Facebook & Instagram - @CardiffYouthService

Twitter - @YouthCardiff

neu ewch i'w gwefan:

www.cardiffyouthservices.wales