Back
Y newyddion gennym ni - 26/06/23

Image

23/06/23 - Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio ymgyrch adfer Hen Lyfrgell Caerdydd gyda rhodd o £2 filiwn

Mae CBCDC wedi cyhoeddi heddiw bod y gŵr busnes llwyddiannus o Gymro-Americanwr Syr Howard Stringer wedi rhoi rhodd o £2 filiwn i'r Coleg, i'w helpu i adfer a thrawsnewid Hen Lyfrgell nodedig canol dinas Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

23/06/23 - Mae Cynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet

Gallai mwy na 32,000 o swyddi a 26,400 o gartrefi newydd gael eu darparu yng Nghaerdydd erbyn 2036, gan fod Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar ei 'Strategaeth a Ffefrir' ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).

Darllenwch fwy yma

 

Image

23/06/23 - Mae Gweithwyr Ieuenctid Caerdydd yn rhannu eu straeon. Wythnos Gwaith Ieuenctid 23 - 30 Mehefin 2023

Mae gweithwyr ieuenctid o bob rhan o'r ddinas wedi rhannu eu straeon i gyd-fynd ag Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni yng Nghymru (23 - 30 Mehefin 2023),sy'n gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid,gyda'r nodo hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o waith ieuenctid a'i gefnogi.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/06/23 - Cynllun i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd wedi'i gytuno

Mae cynlluniau i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd wedi'u cytuno gan Gyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/06/23 - Cynigion swyddfeydd craidd y Cyngor wedi'u cymeradwyo i'r cam nesaf

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi derbyn argymhellion adroddiad sy'n edrych ar yr opsiynau ar gyfer gofynion swyddfeydd hirdymor yr awdurdod lleol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/06/23 - Cynlluniau'n symud yn eu blaen i ddatblygu cartref newydd Ysgol Uwchradd Willows

Gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi bod y contract i gyflawni'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â datblygu llety newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows wedi'i ddyfarnu i Morgan Sindall Construction.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/06/23 - Gyrfa Gymraeg: Cofleidio Grym y Gymraeg ar gyfer cael swydd yng Nghymru

Cynhelir ffair yrfaoedd arbennig yr wythnos hon ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Bro Edern ac Ysgol Plasmawr i dynnu sylw at werth sgiliau Cymraeg a hyrwyddo cyfleoedd i astudio a gweithio yn Gymraeg.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/06/23 - Ysgol Uwchradd Llanisien yn agor Siop ‘Prom' Gynaliadwy

Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yn cymryd agwedd ysgol gyfan tuag at gynaliadwyedd a lleihau gwastraff, drwy agor siop prom mewn ymgais i fynd i'r afael â diwylliant taflu.

Darllenwch fwy yma

 

Image

21/06/23 - £1.3 miliwn o gyllid i gefnogi natur yng Nghaerdydd

Mae Partneriaeth Natur Leol sydd wedi plannu miloedd o fylbiau da i wenyn, wedi gosod ‘waliau byw' gwyrdd mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol, ac sy'n helpu cymunedau Caerdydd i gymryd camau ymarferol i gefnogi bioamrywiaeth, wedi sicrhau £1.3 miliwn o gyllid.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/06/23 - Cadarnhau'r arlwy ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd

Mae'r arlwy bwyd, diod a cherddoriaeth ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ym Mae Caerdydd wedi'i ddatgelu, ac mae'n cynnwys gwledd o ffefrynnau'r ŵyl yn ogystal â'r rheiny fydd yn gweini danteithion blasus yno am y tro cyntaf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/06/23 - Derbyniodd unig gyfarwyddwr Supatramp Ltd ddedfryd carchar ohiriedig o 10 mis yn Llys y Goron Caerdydd

Mae perchennog canolfan chwarae dan do Caerdydd, Supajump, wedi cael dedfryd carchar ohiriedig o 10 mis, 200 awr o waith di-dâl a gorchymyn i dalu £10,000 mewn costauam gyfres o droseddau iechyd a diogelwch, ac am fethu ag adrodd i'r awdurdodau cywir am anafiadau i blant a chwaraeodd ar offer diffygiol.

Darllenwch fwy yma