Back
Cynigion swyddfeydd craidd y Cyngor wedi'u cymeradwyo i'r cam nesaf

22/06/23

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi derbyn argymhellion adroddiad sy'n edrych ar yr opsiynau ar gyfer gofynion swyddfeydd hirdymor yr awdurdod lleol.

Gallai cynigion sy'n cael eu hystyried weld Neuadd y Ddinas yn elwa ar fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i fynd i'r afael â gofynion cynnal a chadw parhaus i sicrhau'r lleoliad treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Neuadd y Ddinas

Mae Achos Busnes Amlinellol a gomisiynwyd gan Gyngor Caerdydd wedi ystyried sawl opsiwn i alinio lle swyddfa'r awdurdod lleol yn well ag angen busnes ac effeithlonrwydd ynni a safonau carbon. Y brif ystyriaeth i'r Cyngor yw a ddylid adnewyddu adeilad presennol Neuadd y Sir neu adeiladu adeilad swyddfa llai newydd.

Mae'r adroddiad yn dangos y byddai adeilad newydd yn llawer rhatach, tra bod y gwahaniaeth o ran effaith carbon yn debygol o fod yn ymylol. Bydd y rhagdybiaethau a nodir yn yr Achos Busnes Amlinellol yn cael eu profi'n fanwl drwy Achos Busnes Llawn fel cam nesaf y broses.

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Caerdydd dri safle swyddfa craidd: Neuadd y Sir; Neuadd y Ddinas a Tŷ Wilcox. Mae'r adroddiad i'r Cabinet hefyd yn cadarnhau'r broses raddol bresennol o ddirwyn Tŷ Willcox i ben, wrth i'r les ar ei gyfer ddod i ben ym mis Mawrth 2024, gan nad oes ei angen ar y Cyngor mwyach.

Canfu'r achos busnes, ar ôl symud i weithio hybrid, fod angen 140,000 troedfedd sgwâr o le swyddfa graidd ar Gyngor Caerdydd. Mae gan Neuadd y Sir bresennol 277,000 troedfedd sgwâr o le swyddfa. Bydd y cam nesaf yn penderfynu ar ddefnydd hirdymor Neuadd y Ddinas a maint a chost cyflwyno Neuadd y Sir newydd, llai. 

Neuadd y Sir

Yn 2021, rhagfynegodd adroddiad y gost i aros yn Neuadd y Ddinas a Neuadd y Sir yn eu fformat presennol, gan ystyried cynnal a chadw a'r gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer datgarboneiddio, oddeutu £140 miliwn, neu £180 miliwn heddiw, ar ôl chwyddiant a'r gwaith ychwanegol sydd ei angen ers cyhoeddi'r adroddiad, yn cael eu cynnwys.

Wrth sôn am y rhesymeg y tu ôl i'r cynigion, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Fel perchennog Neuadd y Ddinas, Adeilad Rhestredig Gradd I, mae gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd i fuddsoddi yng ngwead yr adeilad, yn ogystal ag adnewyddu ei fecanwaith a'i waith trydanol, fel gwresogi ac awyru, fel ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben fel lleoliad treftadaeth o arwyddocâd hanesyddol, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae Neuadd y Sir, ein hadeilad swyddfa graidd arall, yn rhy fawr i anghenion y Cyngor erbyn hyn, felly byddai cadw'r lefel honno o lety yn anghynaliadwy, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau'n dynn iawn. Yn ogystal â hynny, pe baem yn parhau â Neuadd y Sir fel y mae, byddai angen gwario degau o filiynau o bunnoedd ar waith cynnal a chadw, a'i godi i safon i fodloni deddfwriaeth ac ymrwymiadau carbon yn y dyfodol ac o ystyried ei ffurf adeiladu, byddai rhychwant oes hirdymor yr adeilad yn gyfyngedig.

"Nid oes llawer o stoc swyddfa Gradd A ar gael yng Nghaerdydd, a byddai'r lle swyddfa sydd ar gael yn gofyn am wariant sylweddol i'w godi i'r safon, ar ben y pris prynu gwerth miliynau o bunnoedd.

"Ystyriwyd dymchwel rhannol neu'r potensial i rentu lle swyddfa dros ben Neuadd y Sir fel rhan o'r adolygiad, ond mae'r costau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gadw yn llawer mwy na'r gwaith o adeiladu newydd."

Er y gellid adeiladu Neuadd y Sir newydd ar sawl safle yng Nghaerdydd, lleoliad presennol Glanfa'r Iwerydd yw'r opsiwn a ffefrir.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway: "Mae Glanfa'r Iwerydd fel safle Neuadd y Sir newydd yn dod â nifer o fanteision. Mae eisoes yn lleoliad Pencadlys Cyngor sefydledig sy'n gweithio. Mae'n safle sy'n eiddo i'r Cyngor, sy'n dod ag arbediad cost sylweddol. Byddai'r adeilad newydd yn rhan o gynllun datblygu Glanfa'r Iwerydd, gan ddod â buddsoddiad mewnol i gefnogi adfywiad ehangach yr ardal, a chynorthwyo prosiectau eraill, gan gynnwys yr arena ac ailddatblygiad Canolfan y Ddraig Goch. Mae cysylltiadau trafnidiaeth da eisoes i Fae Caerdydd, a fyddai'n cael eu gwella drwy ddatblygu'r Metro. Gallai'r adeilad newydd gael ei adeiladu tra bod y Cyngor yn parhau i feddiannu'r adeilad presennol, gan osgoi'r angen am adleoli staff i leoliad dros dro a fyddai'n gostus."

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, y camau nesaf fydd datblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer swyddfeydd craidd y Cyngor.  Bydd angen i hyn ddigwydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.

Cyfarfu Cabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 22 Mehefin i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, ac mae gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylioyma.

Cyn cyfarfod y Cabinet, craffwyd ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad pan gyfarfu ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf. Mae recordiad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio  yma.

Gellir darllen copi o'r adroddiad llawn  yma.

Caerdydd Un Blaned yw gweledigaeth y Cyngor o Gaerdydd carbon niwtral erbyn 2030. Gellir darllen Strategaeth Caerdydd Un Blaned  yma.