Back
Gyrfa Gymraeg: Cofleidio Grym y Gymraeg ar gyfer cael swydd yng Nghymru


22/06/23

Cynhelir ffair yrfaoedd arbennig yr wythnos hon ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Bro Edern ac Ysgol Plasmawr i dynnu sylw at werth sgiliau Cymraeg a hyrwyddo cyfleoedd i astudio a gweithio yn Gymraeg.

 

Bydd Gyrfa Gymraeg yn ddigwyddiad unigryw a chyffrous sy'n canolbwyntio ar archwilio manteision y Gymraeg i yrfaoedd yn y dyfodol. Bydd yn dangos sut gall yr iaith helpu i fanteisio ar gyfleoedd o ran addysg, hyfforddiant a gyrfaoedd yn y dyfodol.

 

Dangosodd Cyfrifiad 2021 gynnydd pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd, a chanran y boblogaeth y maent yn eu cynrychioli.  Mae'n hanfodol bod cyfleoedd yn cael eu creu i bobl ifanc y ddinas ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y byd addysg, mewn hyfforddiant ac mewn gwaith i sicrhau bod y duedd gadarnhaol hon yn parhau, ac yn cynyddu, yn y dyfodol.

 

Bydd y digwyddiad ar gampws Coleg Caerdydd a'r Fro ar Heol Dumballs Ddydd Gwener, 23 Mehefin, yn cael ei agor gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, a fydd yn pwysleisio'r cyfoeth o gyfleoedd sydd i siaradwyr Cymraeg a phwysigrwydd annog siaradwyr Cymraeg i aros yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfaoedd.

 

 

Dwedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae cyflogwyr ledled Caerdydd yn gweiddi am staff sy'n siarad Cymraeg felly bydd y digwyddiad Gyrfa Gymraeg hwn yn helpu pobl ifanc i ddeall yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddynt drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

"Yn ddiweddar mae disgyblion Blwyddyn 9 wedi dechrau gwneud dewisiadau a fydd yn llywio eu gyrfaoedd yn y dyfodol trwy ddewis eu pynciau TGAU, ac mae'n hanfodol eu bod yn ystyried sut gall y Gymraeg roi mantais sylweddol iddynt.  Mae gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn gallu agor drysau i amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa gwerth chweil a fydd yn rhoi boddhad ac yn galluogi ein pobl ifanc i ddathlu eu treftadaeth ddiwylliannol a hefyd i wella pa mor atyniadol fyddan nhw i gyflogwyr".

 

Yn ogystal â Chyngor Caerdydd ei hun, bydd ystod o gyflogwyr yn y digwyddiad o amrywiaeth o sectorau gan gynnwys BBC Cymru, Ansh Burgers, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ARUP, Screen Alliance, Trafnidiaeth Cymru, RWE, Theatr y Sherman, Cyngor Celfyddydau Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd, Gyrfa Cymru, Rhentu Doeth Cymru,  Sgil Cymru, Busnes mewn Ffocws a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

Bydd y digwyddiad Gyrfa Gymraeg yn dangos sut gall siarad Cymraeg yn rhugl roi hwb i'ch siawns o lwyddo. 

 

Bydd disgyblion yn mynychu un o dri phanel:

 

  • Panel Sgiliaith - gyrfaoedd lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, fel y byd addysg, darlledu, gofal plant, prentisiaethau, a gofal iechyd.

 

  • Panel Creadigol - gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol gan gynnwys y celfyddydau, dylunio, trin gwallt a harddwch, a ffilm a theledu. 

 

  • Panel Twf- gyrfaoedd yn y sectorau twf fel Peirianneg, gwyddoniaeth, lletygarwch, Trafnidiaeth a seilwaith. 

 

Bydd gweithwyr proffesiynol o ystod o ddiwydiannau ar y paneli yn rhannu eu profiadau a'u straeon personol, gan daflu goleuni ar sut mae'r Gymraeg wedi bod o fantais iddyn nhw yn eu meysydd dewisol, o fyd busnes ac addysg i'r celfyddydau a'r cyfryngau.

 

Yn cefnogi'r paneli hyn, bydd nifer o weithdai ymarferol i roi cynnig arnynt ar y diwrnod a fydd yn cael eu cyflwyno gan bartneriaid fel Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Menter Caerdydd,  Coleg Caerdydd a'r Fro, yr Urdd, Mudiad Meithrin, a Chaerdydd Greadigol.

 

Bydd disgyblion hefyd yn gallu sgwrsio â chyflogwyr yn y neuadd stondinau a darganfod pa mor werthfawr yw eu sgiliau Cymraeg a sut gall y sgiliau hyn eu helpu i ddod o hyd i'w gyrfa berffaith.

 

Mae Gyrfa Gymraeg yn cofleidio grym y Gymraeg ar gyfer cael swydd yng Nghymru a bydd yn grymuso pobl ifanc i fod yn gyfrifol am eu dyfodol a gwneud eu galluoedd ieithyddol i fod yr ased mwyaf iddynt ym myd gwaith.