Back
Cadarnhau’r arlwy ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd

20.6.23

Mae'r arlwy bwyd, diod a cherddoriaeth ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ym Mae Caerdydd wedi'i ddatgelu, ac mae'n cynnwys gwledd o ffefrynnau'r ŵyl yn ogystal â'r rheiny fydd yn gweini danteithion blasus yno am y tro cyntaf.

Ymhlith y newydd-ddyfodiaid yn yr ŵyl, a gynhelir o ddydd Gwener y 7fedtan ddydd Sul y 9fedo Orffennaf, mae 'Let Them See Cake' o Gaerdydd, gyda'u hamrywiaeth o gacennau bach, macarŵns, cwcis a brechdanau cwci. Yn Ffair y Cynhyrchwyr hefyd bydd 'The Garlic Farm', sydd yn dod â'u hamrywiaeth o sawsiau a siytnis o Ynys Wyth yma'n rheolaidd.

Gall y rheiny sydd wrth eu bodd gyda Phice Bach ymweld â newydd-ddyfodiad arall yr ŵyl, sef 'Fat Bottom Welsh Cakes' ym Marchnad y Ffermwyr, ac mae eu harlwy hefyd yn cynnwys fersiynau unigryw ac anarferol o'r pice bach traddodiadol. Yn ymddangosiad am y tro cyntaf eleni hefyd, gyda detholiad o gins hyfryd, fydd 'Cascave Gin.'

Draw yn y Piazza Bwyd Stryd, bydd sêr sîn Bwyd Stryd Caerdydd a phreswylwyr Marchnad Caerdydd, Bao Selecta, yn dod â'u byns bao yn llawn bola mochyn brwysiedig, llysiau mwstard wedi'u piclo, powdr cnau daear a pherlysiau ffres i'r ŵyl am y tro cyntaf. Yn ymuno â nhw am y tro cyntaf hefyd fydd 'Smokin Griddle' fydd yn gweini amrywiaeth o fyrgyrs blasus, gyda sglodion tatws trwy'u crwyn, a 'MacDaddies Gourmet Mac and Cheese' gyda'u marinadau cartref, a'u topins anhygoel fel cig wedi'i dynnu'n boeth gyda thryffl ac aur, yn rhoi gogwydd newydd i bryd bwyd clasurol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn gyfle gwych i gefnogi busnesau annibynnol, a chael diwrnod allan gwych. Gyda stondinau newydd cyffrous ynghyd â holl ffefrynnau'r ŵyl, mae'r arlwy eleni'n argoeli'n dda."

Nid y bwyd a'r diod yn unig sy'n denu pobl i'r ŵyl o un flwyddyn i'r llall, ond y gerddoriaeth fyw o'r llwyfan hefyd. Bydd perfformwyr llawr gwlad dethol, lleol, a rhai sy'n hen law arni o amrywiaeth o genres, o gerddoriaeth Werin Pync Sipsiwn y Balcanau, i Rockabilly, Reggae, Jazz Lladin, a Ska, yn perfformio yn ystod tri diwrnod yr ŵyl.

Yn dechrau'r parti ddydd Sadwrn fydd 'Siglo 6', grŵp Funk a Soul newydd o chwech, yn cynnwys rhai o gerddorion ifanc gorau Caerdydd. Bydd 'Los Musicos' yn rhoi teimlad o barti trofannol i'r Basn Hirgrwn yn nes ymlaen ar y dydd Gwener.

Ar ddydd Sadwrn, bydd Ensemble Gwerin Cenedlaethol Cymru, 'Avanc', yn dadorchuddio ac yn ail-greu trysorau cerddorol anghofiedig, a bydd y difa chwedlonol o Gaerdydd, Dionne Bennett yn cyflwyno sain dwys unigryw 'The Pepperseeds' i lwyfan yr ŵyl.

Bydd sgiliau ffansi, a harmonïau melys band Tir Glas Caerdydd, 'Taff Rapids Stringband,' yn diddanu'r torfeydd ddydd Sul, ac yn cloi'r ŵyl bydd y band reggae 'Eden Roots Reggae Band.'

Bydd stondinau coch a gwyn nodedig y Farchnad Grefftau hefyd yn dychwelyd, gydag ystod eclectig o gelf a chrefft wedi'u gwneud â llaw, a'r cyfan wedi'u curadu gan CraftFolk.

Mae'r ŵyl am ddim i'w mynychu ac nid oes angen tocyn arnoch. Ond ewch i'r wefan i weld yr amodau mynediad.

Cynhelir yr ŵyl o ddydd Gwener y 7fedi ddydd Sul y 9fedo Orffennaf.

Yr oriau agor yw:

Dydd Gwener: 12.00 - 22.00 (Bydd Ffair y Cynhyrchwyr a Marchnad y Ffermwyr yn cau am 21.00)

Dydd Sadwrn: 11.00 - 22.00 (Bydd Ffair y Cynhyrchwyr a Marchnad y Ffermwyr yn cau am 21.00)

Dydd Sul: 11:00 - 19:00

https://www.croesocaerdydd.com/bwyta-yfed/