Back
Y newyddion gennym ni - 19/06/23

Image

16/06/23 - Ysgol i ddangos ffilm am y tro cyntaf i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 19 - 25

Bydd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Santes Fair yn cynnal perfformiad cyntaf ffilm o gerdd a ysgrifennwyd ac a berfformir gan ddisgyblion o Bwyllgor Llywio'r Ysgol Noddfa.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/06/23 - Galw am fwy o 'Geidwaid Coed' i helpu i ofalu am goed Caerdydd

Mae byddin o wirfoddolwyr parod wedi helpu plannu mwy na 50,000 o goed newydd yng Nghaerdydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf fel rhan o raglen plannu coed dorfol 'Coed Caerdydd', sy'n ceisio cefnogi bioamrywiaeth a chynyddu darpariaeth canopi coed yn y ddinas o 18.9% i 25%.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/06/23 - Cyfle mawr i fuddsoddi yng nghyrtiau tennis lleol yng Nghaerdydd

Gallai cynllun tennis poblogaidd sydd wedi rhoi hwb i nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gamp ym maestref Mynydd Bychan Caerdydd, ac a fyddai'n arwain at fuddsoddi cryn dipyn o arian mewn cyrtiau tennis lleol, gael ei gyflwyno mewn chwe pharc arall ar draws y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/06/23 - Cyngor traffig a theithio ar gyfer cyngherddau Harry Styles yn Stadiwm Principality ar 20 a 21 Mehefin

Bydd Harry Styles yn perfformio yn Stadiwm Principality Caerdydd ar 20 a 21 Mehefin, a bydd holl ffyrdd canol y ddinas yn cau erbyn 12 hanner dydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/06/23 - Beth Nesaf? Digwyddiadau a gwybodaeth i helpu pobl ifanc i benderfynu beth i'w wneud ar ôl arholiadau

Bydd ystod eang o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal dros y misoedd nesaf i helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf yn dilyn diwrnodau canlyniadau arholiadau Safon Uwch a TGAU ym mis Awst.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/06/23 - Datgelu cynllun i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd

Mae cynlluniau i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd wedi eu datgelu gan Gyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/06/23 - Dyfodol Porter's wedi'i sicrhau trwy lofnodi cytundeb prydles 20 mlynedd

Mae dyfodol bar annibynnol a lleoliad cerddoriaeth poblogaidd Porter's yng Nghaerdydd, sydd hefyd yn gartref i theatr dafarn The Other Room, yn ddiogel o'r diwedd, gyda phrydles 20 mlynedd bellach wedi'i chytuno a'i llofnodi ar gyfer lleoliad mwy, wedi'i wasgaru ar draws tri llawr, ym mhen uchaf Lôn y Barics.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/06/23 - Chwarae eich rhan a chymryd rhan yn y Diwrnod Ail-lenwi Byd-eang

Gan ddychwelyd am ei drydedd flwyddyn, cynhelir Diwrnod Ail-lenwi Byd-eang ddydd Gwener, 16 Mehefin.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/06/23 - Cynigion swyddfa graidd y cyngor yn symud i'r cam nesaf

Mae adroddiad sy'n archwilio'r opsiynau ar gyfer gofynion swyddfa hirdymor y Cyngor i gael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

14/06/23 - Ardal chwarae Heol Llanisien Fach wedi'i hadnewyddu yn agor i'r cyhoedd

Mae'r ardal chwarae yn Heol Llanisien Fach wedi ailagor yn swyddogol i'r cyhoedd yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/06/23 - Busnesau arloesol yn symud yn gynt at Gaerdydd carbon niwtral

Gyda 23% o'r 1.6 miliwn tunnell o allyriadau carbon a gynhyrchir bob blwyddyn yng Nghaerdydd yn cael eu cynhyrchu gan y sectorau masnachol a diwydiannol, daeth busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd heddiw (13 Mehefin) i ddysgu gan rai o'r busnesau lleol arloesol sydd eisoes yn lleihau eu hôl troed carbon yn sylweddol, i weld sut y gallant hwythau hefyd helpu i gyflymu Caerdydd tuag at ddyfodol carbon niwtral.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/06/23 - Amlygu Ymrwymiad Caerdydd i Blant sy'n Derbyn Gofal mewn adroddiad blynyddol

Amlygwyd ymrwymiad Caerdydd i ddarparu'r gofal a'r cymorth gorau i blant y ddinas sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol y Cyngor.

Darllenwch fwy yma