Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 16 Mehefin 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Datgelu cynllun i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd; Cynigion swyddfa graidd y cyngor yn symud i'r cam nesaf; Dyfodol Porter's wedi'i sicrhau trwy lofnodi cytundeb prydles 20 mlynedd; Ardal chwarae Heol Llanisien Fach wedi'i hadnewyddu yn agor i'r cyhoedd.

 

Datgelu cynllun i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd

Mae cynlluniau i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd wedi eu datgelu gan Gyngor Caerdydd.

Byddai'r cynllun yn golygu y byddai'r ganolfan yn elwa o:

  • Bwll newydd 20m x 8m, wedi'i gynhesu gan pwmp gwres o'r ddaear.
  • Caffi newydd.
  • Campfa ffitrwydd newydd ar y llawr gwaelod.
  • Cae 3G maint llawn a chae bach newydd.
  • Cyfleuster newid i deuluoedd, wedi'i adnewyddu.
  • Neuadd a gofod allanol newydd y gellid eu prydlesu i drydydd partner - o bosib i greu ardal ar gyfer tennis padel ar y safle.
  • Paneli solar ar y to.

 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried adroddiad ar y cynigion ar ddydd Iau, 22 Mehefin.  Os caiff ei gytuno, bydd disgwyl i'r gwaith ar y safle ddechrau cyn gynted â'r hydref eleni, gyda pheth gwaith, gan gynnwys y caeau, y ganolfan ffitrwydd a'r ystafelloedd newid, wedi'u cwblhau yn gynnar yn 2024.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cyflwyno'r cynlluniau hyn nawr. Mae pwysau o ran costau sy'n cael eu teimlo drwy'r diwydiant adeiladu cyfan a biliau ynni cynyddol wedi gohirio ein hawydd i uwchraddio'r cyfleuster, ond mae'r Cyngor bob amser wedi parhau'n ymrwymedig at y prosiect.

"Bu'n rhaid ailweithio ein cynlluniau cychwynnol ar gyfer Pentwyn yng ngoleuni'r ffactorau hynny, ond credwn ein bod wedi dod o hyd i ffordd ymlaen a fydd nid yn unig yn gweld Canolfan Hamdden Pentwyn yn elwa o adnewyddiad mawr, ond a fydd hefyd yn sicrhau y bydd nofio yn parhau i fod yn opsiwn yn y ganolfan."

Darllenwch fwy  yma

 

Cynigion swyddfa graidd y cyngor yn symud i'r cam nesaf

Mae adroddiad sy'n archwilio'r opsiynau ar gyfer gofynion swyddfa hirdymor y Cyngor i gael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd.

Gallai cynigion sy'n cael eu hystyried weld Neuadd y Ddinas yn elwa ar fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i fynd i'r afael â gofynion cynnal a chadw parhaus i sicrhau'r lleoliad treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Achos Busnes Amlinellol a gomisiynwyd gan Gyngor Caerdydd wedi ystyried sawl opsiwn i alinio lle swyddfa'r awdurdod lleol yn well ag angen busnes ac effeithlonrwydd ynni a safonau carbon. Y brif ystyriaeth i'r Cyngor yw a ddylid adnewyddu adeilad presennol Neuadd y Sir neu adeiladu adeilad swyddfa llai newydd.

Mae'r adroddiad yn dangos y byddai adeilad newydd yn llawer rhatach, tra bod y gwahaniaeth o ran effaith carbon yn debygol o fod yn ymylol. Bydd y rhagdybiaethau a nodir yn yr Achos Busnes Amlinellol yn cael eu profi'n fanwl drwy Achos Busnes Llawn fel cam nesaf y broses.

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Caerdydd dri safle swyddfa craidd: Neuadd y Sir; Neuadd y Ddinas a Tŷ Wilcox. Mae'r adroddiad i'r Cabinet hefyd yn cadarnhau'r broses raddol bresennol o ddirwyn Tŷ Willcox i ben, wrth i'r les ar ei gyfer ddod i ben ym mis Mawrth 2024, gan nad oes ei angen ar y Cyngor mwyach.

Canfu'r achos busnes, ar ôl symud i weithio hybrid, fod angen 140,000 troedfedd sgwâr o le swyddfa graidd ar Gyngor Caerdydd. Mae gan Neuadd y Sir bresennol 277,000 troedfedd sgwâr o le swyddfa. Bydd y cam nesaf yn penderfynu ar ddefnydd hirdymor Neuadd y Ddinas a maint a chost cyflwyno Neuadd y Sir newydd, llai. 

Yn 2021, rhagfynegodd adroddiad y gost i aros yn Neuadd y Ddinas a Neuadd y Sir yn eu fformat presennol, gan ystyried cynnal a chadw a'r gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer datgarboneiddio, oddeutu £140 miliwn, neu £180 miliwn heddiw, ar ôl chwyddiant a'r gwaith ychwanegol sydd ei angen ers cyhoeddi'r adroddiad, yn cael eu cynnwys.

Wrth sôn am y rhesymeg y tu ôl i'r cynigion, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Fel perchennog Neuadd y Ddinas, Adeilad Rhestredig Gradd I, mae gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd i fuddsoddi yng ngwead yr adeilad, yn ogystal ag adnewyddu ei fecanwaith a'i waith trydanol, fel gwresogi ac awyru, fel ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben fel lleoliad treftadaeth o arwyddocâd hanesyddol, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae Neuadd y Sir, ein hadeilad swyddfa graidd arall, yn rhy fawr i anghenion y Cyngor erbyn hyn, felly byddai cadw'r lefel honno o lety yn anghynaliadwy, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau'n dynn iawn. Yn ogystal â hynny, pe baem yn parhau â Neuadd y Sir fel y mae, byddai angen gwario degau o filiynau o bunnoedd ar waith cynnal a chadw, a'i godi i safon i fodloni deddfwriaeth ac ymrwymiadau carbon yn y dyfodol ac o ystyried ei ffurf adeiladu, byddai rhychwant oes hirdymor yr adeilad yn gyfyngedig.

"Nid oes llawer o stoc swyddfa Gradd A ar gael yng Nghaerdydd, a byddai'r lle swyddfa sydd ar gael yn gofyn am wariant sylweddol i'w godi i'r safon, ar ben y pris prynu gwerth miliynau o bunnoedd.

"Ystyriwyd dymchwel rhannol neu'r potensial i rentu lle swyddfa dros ben Neuadd y Sir fel rhan o'r adolygiad, ond mae'r costau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gadw yn llawer mwy na'r gwaith o adeiladu newydd."

Er y gellid adeiladu Neuadd y Sir newydd ar sawl safle yng Nghaerdydd, lleoliad presennol Glanfa'r Iwerydd yw'r opsiwn a ffefrir.

Darllenwch fwy  yma

 

Dyfodol Porter's wedi'i sicrhau trwy lofnodi cytundeb prydles 20 mlynedd

Mae dyfodol bar annibynnol a lleoliad cerddoriaeth poblogaidd Porter's yng Nghaerdydd, sydd hefyd yn gartref i theatr dafarn The Other Room, yn ddiogel o'r diwedd, gyda phrydles 20 mlynedd bellach wedi'i chytuno a'i llofnodi ar gyfer lleoliad mwy, wedi'i wasgaru ar draws tri llawr, ym mhen uchaf Lôn y Barics.

Disgwylir iddo agor ar ôl yr haf yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth. Nod y lleoliad newydd yw cadw cymeriad ac ethos y Porter's gwreiddiol - ond yng ngeiriau'r perchennog Dan Porter, "ei wneud yn well."

Roedd hi'n fis Mawrth 2021 pan dorrodd y newyddion y byddai'n rhaid i'r lleoliad adael ei gartref presennol yn Llys Harlech, gan fod gan y landlord gynlluniau i ddatblygu'r safle.

Wrth eistedd o dan siandelïer cywrain, mewn hen gadair freichiau felfed a adawyd ar ôl o'r caffi a oedd ar un adeg yn meddiannu'r safle yn Lôn y Barics, eglurodd Dan "nad oedd yn syndod i mi. Byddai wedi bod yn hawdd iawn mynd yn anobeithiol, ond allwn i ddim newid yr hyn oedd yn anochel, felly roedd yn rhaid i mi droi rhywbeth y byddai llawer o bobl yn ei weld fel rhywbeth negyddol yn rhywbeth positif."

Un o'r camau cyntaf a gymerodd Dan oedd estyn allan i Gyngor Caerdydd i weld sut y gallent helpu. "Maen nhw wedi bod yn wych, alla i ddim gweld bai arnyn nhw o gwbl, maen nhw wedi bod yn hael iawn gyda'u hamser, yn ein helpu ni i nodi lleoliadau posibl, yn hwyluso sgyrsiau ac yn gyfryngwyr mewn cyfarfodydd, ac yno i roi cyngor. Mae wedi bod yn braf cael pobl yr oeddwn i'n teimlo y gallwn droi atyn nhw, yr oeddwn yn teimlo oedd yn gwrando, yr oeddwn yn teimlo eu bod yn deall y sefyllfa, a'r hyn yr oeddwn yn  ceisio'i wneud i wneud y gorau o sefyllfa wael."

Mewn cydweithrediad â'r Cyngor, nodwyd nifer o leoliadau newydd posibl ac yn y pen draw, penderfynodd Dan ar leoliad sydd i'w weld "os ydych chi'n sefyll wrth ein drws ffrynt presennol ac yn edrych y tu hwnt i ochr chwith adeilad Admiral."

Darllenwch fwy  yma

 

Ardal chwarae Heol Llanisien Fach wedi'i hadnewyddu yn agor i'r cyhoedd

Mae'r ardal chwarae yn Heol Llanisien Fach wedi ailagor yn swyddogol i'r cyhoedd yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Yr ardal chwarae yn Heol Llanisien Fach yw'r cyfleuster diweddaraf i elwa ar ein rhaglen fuddsoddi barhaus mewn parciau ac ardaloedd chwarae ledled Caerdydd a bydd yn gyfleuster gwych arall i deuluoedd lleol ei fwynhau."

Wedi'i gynllunio ar thema dderw, gyda mes, dail derw, creaduriaid a phryfed sy'n gysylltiedig â choed derw. Mae'r ardal chwarae yn cynnwys ardal i blant bach ac ardal chwarae iau, a'r cyfan wedi'i anelu at annog chwarae, dringo, addysg a gweithgaredd corfforol dychmygus.

Mae'n darparu ar gyfer plant sydd ag ystod eang o alluoedd, a bydd yr offer chwarae yn cynnwys cylchfan hygyrch i gadeiriau olwyn, troellwr, offer chwarae hygyrch a siglenni.

Mae man eistedd cylchol ac arwydd mynedfa newydd wedi'u hychwanegu ger mynedfa'r ardal chwarae, yn ogystal â thri cherfiad pren ar thema dderw, seddi wedi'u hadnewyddu, biniau newydd, gatiau newydd, llwybrau newydd ac wyneb diogelwch ledled yr ardal chwarae.