Back
Dyfodol Porter's wedi'i sicrhau trwy lofnodi cytundeb prydles 20 mlynedd

15.6.23

Mae dyfodol bar annibynnol a lleoliad cerddoriaeth poblogaidd Porter's yng Nghaerdydd, sydd hefyd yn gartref i theatr dafarn The Other Room, yn ddiogel o'r diwedd, gyda phrydles 20 mlynedd bellach wedi'i chytuno a'i llofnodi ar gyfer lleoliad mwy, wedi'i wasgaru ar draws tri llawr, ym mhen uchaf Lôn y Barics.

Disgwylir iddo agor ar ôl yr haf yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth. Nod y lleoliad newydd yw cadw cymeriad ac ethos y Porter's gwreiddiol - ond yng ngeiriau'r perchennog Dan Porter, "ei wneud yn well."

Roedd hi'n fis Mawrth 2021 pan dorrodd y newyddion y byddai'n rhaid i'r lleoliad adael ei gartref presennol yn Llys Harlech, gan fod gan y landlord gynlluniau i ddatblygu'r safle.

Wrth eistedd o dan siandelïer cywrain, mewn hen gadair freichiau felfed a adawyd ar ôl o'r caffi a oedd ar un adeg yn meddiannu'r safle yn Lôn y Barics, eglurodd Dan "nad oedd yn syndod i mi. Byddai wedi bod yn hawdd iawn mynd yn anobeithiol, ond allwn i ddim newid yr hyn oedd yn anochel, felly roedd yn rhaid i mi droi rhywbeth y byddai llawer o bobl yn ei weld fel rhywbeth negyddol yn rhywbeth positif."

Un o'r camau cyntaf a gymerodd Dan oedd estyn allan i Gyngor Caerdydd i weld sut y gallent helpu. "Maen nhw wedi bod yn wych, alla i ddim gweld bai arnyn nhw o gwbl, maen nhw wedi bod yn hael iawn gyda'u hamser, yn ein helpu ni i nodi lleoliadau posibl, yn hwyluso sgyrsiau ac yn gyfryngwyr mewn cyfarfodydd, ac yno i roi cyngor. Mae wedi bod yn braf cael pobl yr oeddwn i'n teimlo y gallwn droi atyn nhw, yr oeddwn yn teimlo oedd yn gwrando, yr oeddwn yn teimlo eu bod yn deall y sefyllfa, a'r hyn yr oeddwn yn  ceisio'i wneud i wneud y gorau o sefyllfa wael."

Mewn cydweithrediad â'r Cyngor, nodwyd nifer o leoliadau newydd posibl ac yn y pen draw, penderfynodd Dan ar leoliad sydd i'w weld "os ydych chi'n sefyll wrth ein drws ffrynt presennol ac yn edrych y tu hwnt i ochr chwith adeilad Admiral."

Ar hyn o bryd mae angen llawer o waith adnewyddu cyn agor am ddiodydd neu gynnal ei gigs a chynyrchiadau. Mae gan Dan gynlluniau mawr ar gyfer y lleoliad newydd, gan egluro ei fod yn awyddus i ddefnyddio'r gofod mwy i "gynyddu, arallgyfeirio a gwella ein cynnig diwylliannol, nid yn unig i gynulleidfaoedd, ond hefyd i wneuthurwyr celf, cerddoriaeth, a'r theatr."

"Mae'r adeilad newydd yn bendant yn ein galluogi i gynnal mwy o bethau, darparu mwy o gynnwys, gwasanaethu mwy o dorfeydd, a bydd yn golygu y gallwn adeiladu ar yr hyn sydd gennym eisoes a dod yn ganolbwynt go iawn, ac yn rhan wirioneddol o'r ecosystem ddiwylliannol fawreddog honno yng Nghaerdydd a Chymru."

Pan ofynnwyd iddo beth mae'n fwyaf cyffrous yn ei gylch yn ymwneud â'r lleoliad newydd, mae'n cymryd eiliad i feddwl cyn ateb: "Rwy'n llawn cyffro i ganfod beth allwn ei gyflawni yma, oherwydd er bod gen i syniad o'r hyn y credwn y gallwn ei gyflawni, neu'r hyn yr hoffwn ei gyflawni, dydw i ddim yn gwybod, a bydd hynny'n ddarganfyddiad diddorol iawn."

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae dinasoedd yn tyfu ac yn newid yn gyson, ond byddai Caerdydd ddim yn Gaerdydd heb leoliadau annibynnol fel Porter's. Rydym yn canolbwyntio ar wella'r arlwy cerddorol a diwylliannol yn y ddinas ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu eu cynorthwyo i ddod o hyd i gartref newydd, lle byddant yn gallu ffynnu am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig The Other Room, Dan Jones:"Bydd The Other Room yn parhau i greu theatr mewn man lle na ddylai theatr fodoli, gan gadw'r swyn a'r gwreiddioldeb a grëwyd yn ein cartref cyntaf. A chyda'n darparwyr dihafal Porter's, rydym yn edrych ymlaen at yr her o fynd â The Other Room i'r lefel nesaf."