Back
Cynigion swyddfa graidd y cyngor yn symud i'r cam nesaf

15/06/23 

Mae adroddiad sy'n archwilio'r opsiynau ar gyfer gofynion swyddfa hirdymor y Cyngor i gael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd.

Gallai cynigion sy'n cael eu hystyried weld Neuadd y Ddinas yn elwa ar fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i fynd i'r afael â gofynion cynnal a chadw parhaus i sicrhau'r lleoliad treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Neuadd y Ddinas

Mae Achos Busnes Amlinellol a gomisiynwyd gan Gyngor Caerdydd wedi ystyried sawl opsiwn i alinio lle swyddfa'r awdurdod lleol yn well ag angen busnes ac effeithlonrwydd ynni a safonau carbon. Y brif ystyriaeth i'r Cyngor yw a ddylid adnewyddu adeilad presennol Neuadd y Sir neu adeiladu adeilad swyddfa llai newydd.

Mae'r adroddiad yn dangos y byddai adeilad newydd yn llawer rhatach, tra bod y gwahaniaeth o ran effaith carbon yn debygol o fod yn ymylol. Bydd y rhagdybiaethau a nodir yn yr Achos Busnes Amlinellol yn cael eu profi'n fanwl drwy Achos Busnes Llawn fel cam nesaf y broses.

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Caerdydd dri safle swyddfa craidd: Neuadd y Sir; Neuadd y Ddinas a Tŷ Wilcox. Mae'r adroddiad i'r Cabinet hefyd yn cadarnhau'r broses raddol bresennol o ddirwyn Tŷ Willcox i ben, wrth i'r les ar ei gyfer ddod i ben ym mis Mawrth 2024, gan nad oes ei angen ar y Cyngor mwyach.

Canfu'r achos busnes, ar ôl symud i weithio hybrid, fod angen 140,000 troedfedd sgwâr o le swyddfa graidd ar Gyngor Caerdydd. Mae gan Neuadd y Sir bresennol 277,000 troedfedd sgwâr o le swyddfa. Bydd y cam nesaf yn penderfynu ar ddefnydd hirdymor Neuadd y Ddinas a maint a chost cyflwyno Neuadd y Sir newydd, llai. 

Neuadd y Sir

Yn 2021, rhagfynegodd adroddiad y gost i aros yn Neuadd y Ddinas a Neuadd y Sir yn eu fformat presennol, gan ystyried cynnal a chadw a'r gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer datgarboneiddio, oddeutu £140 miliwn, neu £180 miliwn heddiw, ar ôl chwyddiant a'r gwaith ychwanegol sydd ei angen ers cyhoeddi'r adroddiad, yn cael eu cynnwys.

Wrth sôn am y rhesymeg y tu ôl i'r cynigion, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Fel perchennog Neuadd y Ddinas, Adeilad Rhestredig Gradd I, mae gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd i fuddsoddi yng ngwead yr adeilad, yn ogystal ag adnewyddu ei fecanwaith a'i waith trydanol, fel gwresogi ac awyru, fel ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben fel lleoliad treftadaeth o arwyddocâd hanesyddol, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae Neuadd y Sir, ein hadeilad swyddfa graidd arall, yn rhy fawr i anghenion y Cyngor erbyn hyn, felly byddai cadw'r lefel honno o lety yn anghynaliadwy, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau'n dynn iawn. Yn ogystal â hynny, pe baem yn parhau â Neuadd y Sir fel y mae, byddai angen gwario degau o filiynau o bunnoedd ar waith cynnal a chadw, a'i godi i safon i fodloni deddfwriaeth ac ymrwymiadau carbon yn y dyfodol ac o ystyried ei ffurf adeiladu, byddai rhychwant oes hirdymor yr adeilad yn gyfyngedig.

"Nid oes llawer o stoc swyddfa Gradd A ar gael yng Nghaerdydd, a byddai'r lle swyddfa sydd ar gael yn gofyn am wariant sylweddol i'w godi i'r safon, ar ben y pris prynu gwerth miliynau o bunnoedd.

"Ystyriwyd dymchwel rhannol neu'r potensial i rentu lle swyddfa dros ben Neuadd y Sir fel rhan o'r adolygiad, ond mae'r costau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gadw yn llawer mwy na'r gwaith o adeiladu newydd."

Er y gellid adeiladu Neuadd y Sir newydd ar sawl safle yng Nghaerdydd, lleoliad presennol Glanfa'r Iwerydd yw'r opsiwn a ffefrir.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway: "Mae Glanfa'r Iwerydd fel safle Neuadd y Sir newydd yn dod â nifer o fanteision. Mae eisoes yn lleoliad Pencadlys Cyngor sefydledig sy'n gweithio. Mae'n safle sy'n eiddo i'r Cyngor, sy'n dod ag arbediad cost sylweddol. Byddai'r adeilad newydd yn rhan o gynllun datblygu Glanfa'r Iwerydd, gan ddod â buddsoddiad mewnol i gefnogi adfywiad ehangach yr ardal, a chynorthwyo prosiectau eraill, gan gynnwys yr arena ac ailddatblygiad Canolfan y Ddraig Goch. Mae cysylltiadau trafnidiaeth da eisoes i Fae Caerdydd, a fyddai'n cael eu gwella drwy ddatblygu'r Metro. Gallai'r adeilad newydd gael ei adeiladu tra bod y Cyngor yn parhau i feddiannu'r adeilad presennol, gan osgoi'r angen am adleoli staff i leoliad dros dro a fyddai'n gostus."

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, y camau nesaf fyddai datblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer swyddfeydd craidd y Cyngor. Byddai angen i hyn ddigwydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod ddydd Iau 22 Mehefin i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gweddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnod  yma.

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd Y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 20 Mehefin.Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w gwylio  yma.

Gellir darllen copi o'r adroddiad llawn  yma.

Caerdydd Un Blaned yw gweledigaeth y Cyngor o Gaerdydd carbon niwtral erbyn 2030. Gellir darllen Strategaeth Caerdydd Un Blaned  yma.