Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 09 Mehefin 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: rhannu manylion contract Neuadd Dewi Sant drafft; dymchwel hen Swyddfa'r Dreth yn mynd ymlaen; a phartneriaeth gyda Chyfeillion Parc Bute ar gyfer Caffi'r Ardd Gudd.

 

Cyhoeddi hysbysiad VEAT Neuadd Dewi Sant

Mae hysbysiad VEAT (Voluntary Ex-Ante Transparency) sy'n rhoi manylion y contract drafft a drafodwyd gyda Academy Music Group (AMG) Ltd i brydlesu a gweithredu Neuadd Dewi Sant wedi'i gyhoeddi.

Mae cyhoeddi'r hysbysiad VEAT yn caniatáu cyfle 28 diwrnod i herio cynnig AMG ac mae'n dilyn ymarfer marchnata chwe wythnos oedd yn gwahodd cynigion gan sefydliadau theatr, celfyddydau a gwasanaethau lleoliadau oedd â diddordeb mewn dod yn geidwad Neuadd Dewi Sant. Daeth y broses, a oedd â'r nod o sicrhau bod y gwerth gorau yn cael ei gyflawni, i ben heb unrhyw geisiadau ffurfiol yn cael eu cyflwyno.

Mae'r hysbysiad VEAT yn cadarnhau y:

 

  • bydd y trefniant arfaethedig yn golygu rhoi prydles 45 mlynedd ar gyfer y lleoliad.
  • bydd yn ofynnol i AMG atgyweirio a chynnal a chadw'r Lleoliad, sicrhau ei ddyfodol hirdymor a'i fod yn parhau ar agor er budd pobl a Dinas Caerdydd.
  • Gallai'r Cyngor hefyd dderbyn cyfran o elw'r Lleoliad dros oes y brydles.
  • Mae'r les yn gorfodi AMG i reoli ac atgyweirio rhestr o ddiffygion. Bydd AMG yn gyfrifol am gynnal cyflwr yr adeilad a bydd ganddo hyblygrwydd i fuddsoddi yn y Lleoliad a'i wella.
  • Cyfrifoldeb AMG yw rheoli a chynnal y Lleoliad, fel ei fod yn ddiogel ac yn weithredol.
  • Bydd y brydles yn ei gwneud yn ofynnol i AMG barhau a chynnal y rhaglen gerddoriaeth glasurol/gymunedol fel rhan o arlwy blynyddol y Lleoliad, gan gadw o leiaf 80 diwrnod y flwyddyn ar gyfer cynnal / llwyfannu digwyddiadau o'r fath. Mae hyn yn cynnwys 60 diwrnod o fewn cyfnodau prysur ac 20 diwrnod oddi ar y brig.
  • Bydd digwyddiad Canwr y Byd Caerdydd (sydd fel arfer yn para 10 diwrnod) hefyd yn parhau i gael ei gynnal bob yn ail flwyddyn, ar ben yr 80 diwrnod.
  • Mae rhwymedigaeth ar AMG hefyd i ddarparu gwasanaethau gweithredol a rheoli i gefnogi digwyddiadau'r rhaglen glasurol. Ni fydd unrhyw dâl gwasanaeth yn daladwy gan y Cyngor i AMG am ddarparu'r Gwasanaethau hyn.
  • Amcangyfrifir bod gwerth y caffael (hy elw net posibl) rhwng £45 miliwn a £67 miliwn dros y les 45 mlynedd.
  • Disgwylir i holl staff presennol y Lleoliad drosglwyddo dan amodau TUPE i AMG.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Rydym yn benderfynol o sicrhau dyfodol cynaliadwy i Neuadd Dewi Sant ac mae cyhoeddi'r hysbysiad VEAT hwn yn cadarnhau'r ymrwymiadau a wnaed gan AMG i atgyweirio a chynnal a chadw'r Neuadd, a darparu o leiaf 80 diwrnod bob blwyddyn ar gyfer y rhaglen glasurol, ac yn rhoi cyfle pellach i'w cynnig gael ei herio."

Mae'r hysbysiad VEAT wedi'i gyhoeddi ar wefan GwerthwchIGymru  a gellir ei weld  yma.

 

Golau gwyrdd ar gyfer dymchwel Tŷ Glas: Cynlluniau ar waith i leihau aflonyddwch

Mae gwaith wedi dechrau ar ddymchwel hen adeilad swyddfa Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn Nhŷ Glas yn Llanisien.

Ar ôl sicrhau caniatâd cynllunio ymlaen llaw gydag amodau dymchwel ym mis Awst y llynedd, mae'r amodau hyn bellach wedi'u rhyddhau ac mae dymchwel strwythurol llawn wedi dechrau.

Caffaelodd y Cyngor safle Tŷ Glas ym mis Hydref 2021 i ddarparu safle clir i gyflwyno cynigion addysg strategol o dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer y safle a byddai unrhyw gynigion yn y dyfodol yn destun ymgysylltu â'r gymuned yn ogystal ag ymgynghori drwy'r broses gynllunio.

Nawr, gan fod cyflawni'r amodau wedi'u cymeradwyo, mae'r contractwr dymchwel Erith, sydd wedi bod ar y safle ers mis Mawrth yn gwneud gwaith i gael gwared ar osodiadau a ffitiadau anstrwythurol, wedi dechrau'r gwaith dymchwel priodol a disgwylir iddo gymryd tua blwyddyn.

Mae trigolion sy'n byw ger y safle yn cael gwybod am ddatblygiadau yn rheolaidd ac mae mesurau lliniaru ar waith i leihau effaith y gwaith ar y gymuned leol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Rydym yn deall y bydd dymchwel ar y raddfa hon a dros gyfnod mor hir yn bryder i rai pobl yn yr ardal ond rydym yn awyddus i roi sicrwydd bod cynlluniau ar waith i sicrhau bod effaith y gwaith hwn yn cael ei leihau gymaint â phosibl.

"Rydym yn gwybod y bydd rhywfaint o darfu ac rydym yn ddiolchgar ymlaen llaw am amynedd trigolion a busnesau lleol wrth i ni gyflawni'r gwaith hwn a fydd yn paratoi'r ffordd yn y pen draw ar gyfer buddsoddiad sylweddol mewn darpariaeth addysg yn y rhan hon o'r ddinas yn y dyfodol."

Darllenwch fwy  yma

 

Cyngor Caerdydd yn partneru gyda Chyfeillion Parc Bute i ddatblygu tendr Caffi'r Ardd Gudd

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhyddhau manylion trefniant cydweithio newydd gyda Chyfeillion Parc Bute i sicrhau bod anghenion defnyddwyr y parc yn cael eu hystyried wrth lunio'r model gweithredu ar gyfer Caffi'r Ardd Gudd yn y dyfodol.

Cysylltodd Cyfeillion Parc Bute â'r Cyngor yn ddiweddar gan gynnig gweithio gyda'r awdurdod i sicrhau bod unrhyw gynnig newydd ar gyfer caffi yn diwallu anghenion defnyddwyr y parc.

I ddechrau'r broses honno, mae'r Cyngor heddiw wedi cyhoeddi y bydd yn gweithio gyda'r grŵp Cyfeillion i lunio manylebau a meini prawf gwerthuso dogfen dendro a fydd yn sefydlu model gweithredu newydd ar gyfer y caffi.

I ganiatáu digon o amser i Gyngor Caerdydd ymgysylltu'n llawn â Chyfeillion Parc Bute i gwblhau'r manylebau a'r meini prawf gwerthuso, mae'r dyddiad gwreiddiol ar gyfer cyhoeddi'r tendr ym mis Mehefin yn cael ei ymestyn gan bedair wythnos, hyd at ddydd Llun 3 Gorffennaf.

Tra bo'r ymarfer caffael yn mynd rhagddo, mae'r Cyngor wedi cynnig estyniad i'r Denantiaeth wrth Ewyllys i'r gweithredwr presennol sy'n caniatáu iddynt barhau i redeg y caffi drwy'r cyfnod pontio i unrhyw drefniadau newydd. Os yw'r gweithredwr presennol yn cyflwyno cais llwyddiannus bydd yn parhau o dan y trefniadau newydd, wedi'r adeg honno.

Wrth sôn am y trefniadau cydweithio newydd, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Rwy'n croesawu cynnig Cyfeillion Parc Bute i weithio gyda'r Cyngor a'r cyhoeddiad heddiw y bydd y manylebau tendro a'r meini prawf gwerthuso yn cael eu datblygu mewn partneriaeth.

"Bydd hyn yn golygu bod y tendr a roddwn allan i'r farchnad yn adlewyrchu dymuniadau ymwelwyr â'r parc; ond bydd hefyd yn golygu ein bod yn atgyfnerthu tryloywder y broses ymhellach ac yn cyflwyno gwarant ychwanegol o ddidueddrwydd o ran dewis y cynnig llwyddiannus. Mae'r caffi wedi bod yn rhan o gymuned Parc Bute ers dros ddeng mlynedd a does dim amau'r cyfraniad mae wedi'i wneud i'r parc yn y cyfnod hwnnw. Mae'r cyngor yn annog y gweithredwr caffi presennol, sydd wedi rhedeg y safle am y pum mlynedd diwethaf, i wneud cais fel y gellir ei ystyried ochr yn ochr ag unrhyw gynigion eraill gan weithredwyr posibl eraill."

Dywedodd Ian Body, Cadeirydd Cyfeillion Newydd Parc Bute: "Mae'r grŵp yn croesawu'r cyfle i helpu i gydlynu cyfranogiad gan ddefnyddwyr cyhoeddus Parc Bute sydd, fel rhanddeiliaid allweddol, â chymaint i'w gyfrannu o ran yr hyn yr hoffent weld cyfleuster Caffi'r Ardd Gudd yn gallu ei gynnig."

Darllenwch fwy yma