Back
Adeiladu cymunedau cydlynol gyda chynllun grant newydd


9/6/23 

Mae cynllun grant newydd i helpu i adeiladu cymunedau cydlynol a chryf wedi cael ei lansio.

 

Gwahoddir grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector ledled Caerdydd i wneud cais am gyllid hyd at £2,000 i gefnogi cynlluniau a mentrau sy'n amlygu ac yn dathlu amrywiaeth cymunedau ar draws y ddinas.

 

Gellir defnyddio cyllid at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, cynhyrchu llenyddiaeth gefnogol neu feithrin gallu o fewn cymuned.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd (Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb) y Cynghorydd Julie Sangani: "Rydym yn chwilio am gynlluniau sy'n canolbwyntio ar ddod â chymunedau at ei gilydd ac yn annog gwaith cydweithredol.

 

"Nod y cynllun yw sicrhau bod gan bobl o wahanol gefndiroedd yn ein cymunedau berthnasau cadarnhaol, ymdeimlad o barch at ei gilydd a'u bod yn teimlo'n ddiogel yn eu cymdogaethau.

 

"Rydym yn awyddus i glywed gan grwpiau a sefydliadau am y ffyrdd creadigol y maent am wneud hyn yn eu cymunedau.  Gallai ymwneud â hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol, dod â phobl at ei gilydd mewn sesiynau coginio, creu cerddoriaeth gymunedol, prosiectau celfyddydol, chwaraeon, dawns a mwy."

 

Rhaid i geisiadau fodloni o leiaf un o'r amcanion canlynol:

 

  • Dathlu amrywiaeth
  • Ymwybyddiaeth o droseddau casineb
  • Gwrthwynebu naratifau niweidiol
  • Lleihau tensiynau cymunedol
  • Meithrin gallu cymunedol
  • Cymunedau yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi cydlyniant cymunedol
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010.
  • Hyrwyddo cydlyniant cymunedol fel yr amlinellir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru o gymunedau cydlynol - Cymunedau deniadol, hyfyw, diogel a chysylltiedig da).
  • Dathlu digwyddiad cydraddoldeb arwyddocaol

 

Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd ceisiadau am gyllid hyd at £5,000 yn cael eu hystyried.

 

Am ragor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais am gyllid, e-bostiwch 

cydlyniant@caerdydd.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 14 Gorffennaf 2023.