Back
Cyhoeddi hysbysiad VEAT Neuadd Dewi Sant

6.6.23

Mae hysbysiad VEAT (Voluntary Ex-Ante Transparency) sy'n rhoi manylion y contract drafft a drafodwyd gyda Academy Music Group (AMG) Ltd i brydlesu a gweithredu Neuadd Dewi Sant wedi'i gyhoeddi.

Mae cyhoeddi'r hysbysiad VEAT yn caniatáu cyfle 28 diwrnod i herio cynnig AMG ac mae'n dilyn ymarfer marchnata chwe wythnos oedd yn gwahodd cynigion gan sefydliadau theatr, celfyddydau a gwasanaethau lleoliadau oedd â diddordeb mewn dod yn geidwad Neuadd Dewi Sant. Daeth y broses, a oedd â'r nod o sicrhau bod y gwerth gorau yn cael ei gyflawni, i ben heb unrhyw geisiadau ffurfiol yn cael eu cyflwyno.

Mae'r hysbysiad VEAT yn cadarnhau y:
 

  • bydd y trefniant arfaethedig yn golygu rhoi prydles 45 mlynedd ar gyfer y lleoliad.
  • bydd yn ofynnol i AMG atgyweirio a chynnal a chadw'r Lleoliad, sicrhau ei ddyfodol hirdymor a'i fod yn parhau ar agor er budd pobl a Dinas Caerdydd.
  • Gallai'r Cyngor hefyd dderbyn cyfran o elw'r Lleoliad dros oes y brydles.
  • Mae'r les yn gorfodi AMG i reoli ac atgyweirio rhestr o ddiffygion. Bydd AMG yn gyfrifol am gynnal cyflwr yr adeilad a bydd ganddo hyblygrwydd i fuddsoddi yn y Lleoliad a'i wella.
  • Cyfrifoldeb AMG yw rheoli a chynnal y Lleoliad, fel ei fod yn ddiogel ac yn weithredol.
  • Bydd y brydles yn ei gwneud yn ofynnol i AMG barhau a chynnal y rhaglen gerddoriaeth glasurol/gymunedol fel rhan o arlwy blynyddol y Lleoliad, gan gadw o leiaf 80 diwrnod y flwyddyn ar gyfer cynnal / llwyfannu digwyddiadau o'r fath. Mae hyn yn cynnwys 60 diwrnod o fewn cyfnodau prysur ac 20 diwrnod oddi ar y brig.
  • Bydd digwyddiad Canwr y Byd Caerdydd (sydd fel arfer yn para 10 diwrnod) hefyd yn parhau i gael ei gynnal bob yn ail flwyddyn, ar ben yr 80 diwrnod.
  • Mae rhwymedigaeth ar AMG hefyd i ddarparu gwasanaethau gweithredol a rheoli i gefnogi digwyddiadau'r rhaglen glasurol. Ni fydd unrhyw dâl gwasanaeth yn daladwy gan y Cyngor i AMG am ddarparu'r Gwasanaethau hyn.
  • Amcangyfrifir bod gwerth y caffael (hy elw net posibl) rhwng £45 miliwn a £67 miliwn dros y les 45 mlynedd.
  • Disgwylir i holl staff presennol y Lleoliad drosglwyddo dan amodau TUPE i AMG.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:   "Rydym yn benderfynol o sicrhau dyfodol cynaliadwy i Neuadd Dewi Sant ac mae cyhoeddi'r hysbysiad VEAT hwn yn cadarnhau'r ymrwymiadau a wnaed gan AMG i atgyweirio a chynnal a chadw'r Neuadd, a darparu o leiaf 80 diwrnod bob blwyddyn ar gyfer y rhaglen glasurol, ac yn rhoi cyfle pellach i'w cynnig gael ei herio."

Mae'r hysbysiad VEAT wedi'i gyhoeddi ar wefan GwerthwchIGymru  a gellir ei weld yma: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/