Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 16 Mai 2023

Dyma ein newyddion diweddaraf, sy'n cynnwys: ymgynghoriad ar y ffyrdd arfaethedig i gadw cyfyngiad o 30mya; cynllun benthyca datblygwyr ar gyfer gwaith diogelwch tân; mae'n Bythefnos Gofal Maeth; a gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia Ddydd Iau yma.

 

Gofyn i'r cyhoedd roi eu barn ar ffyrdd y cynigir eu cadw fel rhai 30mya

Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus o Ddydd Llun 15 Mai tan 7 Mehefin ar ffyrdd a allai gael eu cadw fel rhai 30mya pan ddaw'r cyfyngiad cyflymder diofyn 20mya newydd ar gyfer ardaloedd preswyl i rym ym mis Medi 2023.

Bydd trigolion Caerdydd yn gallu gweld  map ar-lein  sy'n dangos y ffyrdd sydd ar hyn o bryd yn cael eu cynnig fel eithriadau i'r ddeddfwriaeth 20mya genedlaethol.  Yn gyffredinol, mae'r rhain yn brif lwybrau i mewn i'r ddinas.

Gofynnir i drigolion ddychwelyd eu barn ar yr eithriadau 30mya arfaethedig a gynigir gan y cyngor erbyn 7 Mehefin drwy e-bostio:

gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk

Bydd pob sylw ar yr eithriadau yn cael ei ystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.  Ni fydd sylwadau ar y newid yn y gyfraith i symud i sefyllfa ddiofyn cenedlaethol o 20mya yn cael eu hystyried, gan fod y gyfraith eisoes wedi cael ei phasio gan y Senedd.

Cafodd y penderfyniad i wneud 20mya y 'sefyllfa genedlaethol ddiofyn mewn ardaloedd preswyl' yng Nghymru ei wneud ym mis Gorffennaf 2022 gan y Senedd a bydd y gyfraith yn dod i rym ar 17 Medi 2023. Rôl y cyngor, fel yr awdurdod priffyrdd, yw sicrhau bod y prosesau statudol gofynnol yn cael eu dilyn a bod unrhyw newidiadau cyfreithiol dilynol yn cael eu gwneud, a bod arwyddion stryd yn cael eu newid lle bo angen.

Darllenwch fwy yma

 

Y Cyngor yn arwain ar gynllun benthyciadau ar gyfer gwaith diogelwch tân hanfodol

Mae Cyngor Caerdydd wrthi'n datblygu cynllun benthyciadau i sicrhau bod datblygwyr blociau fflatiau uchel a chanolig ledled Cymru'n gwneud gwaith diogelwch tân hanfodol cyn gynted â phosibl, gan helpu i sicrhau bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Byddai'r Cyngor yn gweithredu Cynllun Benthyciadau Datblygwyr Diogelwch Adeiladau Cymru gwerth £20m, gan ddarparu benthyciadau di-log i ddatblygwyr cymwys yng Nghymru.  Y Cyngor sydd yn y sefyllfa orau i wneud y rôl hon gan fod nifer sylweddol o'r adeiladau sy'n debygol o fod o fewn cwmpas yng Nghaerdydd.

Bydd disgwyl i ddatblygwyr sy'n dymuno manteisio ar y cynnig dalu'n ôl bob ceiniog o gyllid i'r pwrs cyhoeddus o fewn pum mlynedd.

Yn dilyn y drasiedi yn Grenfell, mae Lywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol i nodi problemau diogelwch tân mewn adeiladau preswyl canolig ac uchel yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar bob adeilad preswyl o 11 metr a throsodd o ran uchder.  Yn ogystal ag adfer adeiladau yn y sector cymdeithasol; mae'n mynd i'r afael ag adeiladau amddifad ac yn datblygu cynllun cymorth i lesddeiliaid, a ddyluniwyd i helpu pobl yng Nghymru sy'n dioddef neu'n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i broblemau diogelwch tân.

Bydd y benthyciad newydd hwn yn adeiladu ar y gweithgaredd hwnnw a bydd ar gael i'r datblygwyr sy'n cymryd rhan sydd wedi ymrwymo i Gytundeb Llywodraeth Cymru, gan gytuno ar eu bwriad i ariannu ac ymgymryd â'r holl waith adfer angenrheidiol cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl i fynd i'r afael â diffygion diogelwch tân sy'n peryglu bywyd yn yr adeiladau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod cyn lleied â phosib o resymau am oedi, a bod datblygwyr yn gallu gwneud gwaith mor gyflym â phosib.

Bydd y cynllun yn cael gwared ar unrhyw oedi posib y gallai datblygwyr ei wynebu tra bod cyllid yn cael ei drefnu i fynd i'r afael â materion fel adrannu, toriadau tân a drysau tân yn ogystal â risgiau cladin.

Darllenwch fwy yma

 

Pelydrau porffor ledled y ddinas wrth i Gaerdydd gael ei goleuo ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth 2023

I ddathlu gofalwyr maeth ymroddgar Caerdydd ac i nodi dechrau'r  Pythefnos Gofal Maeth, bydd dau o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas yn disgleirio ym mis Mai.

Wedi'u golchi gan oleuadau porffor, lliw Gwasanaeth Maeth Caerdydd - bydd Neuadd y Ddinas a waliau'r castell yn disgleirio gyda'r nos o ddydd Llun, 15 Mai tan ddydd Sul, 28 Mai.

Wedi'i drefnu gan Y Rhwydwaith Maethu, mae'r Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith a wneir gan ofalwyr maeth a gweithwyr maethu proffesiynol yn helpu i ddod o hyd i gartrefi cariadus i bobl ifanc pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Yng Nghaerdydd, bydd ymgyrch hysbysebu ar waith ledled y ddinas dros y penwythnos, yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a hysbysfyrddau awyr agored i hyrwyddo cyfleoedd i faethu gyda'r cyngor a chodi ymwybyddiaeth o fanteision maethu gyda'ch awdurdod lleol.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y ddinas yn hyrwyddo gwaith y tîm gofal maeth ac yn annog pobl i ymuno â'r miloedd o deuluoedd maeth newydd sydd eu hangen bob blwyddyn i ofalu am blant Caerdydd.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu ddod draw i siarad â'r tîm ynghylch sut i wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn yn unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol:

Dydd Iau 18 Mai yn Hyb Y Tyllgoed 2pm - 4pm

Gwener 19 Mai yn Hyb Rhydypennau 10am-12pm

Dydd Sadwrn 20 Mai yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant (Atrium) 9.30am - 7pm

Dydd Sul 21 Mai yng Nghastell Caerdydd 10am-2pm

Dydd Llun 22 Mai yn Hyb Llaneirwg 10am - 12pm

Dydd Mawrth 23 Mai 10am - 2pm Waitrose Pontprennau

Dydd Mercher 24 Mai yn  Hyb Powerhouse Llanedern 10am-12pm

Dydd Iau 25 Mai yn Hyb Llanisien 10am-12pm

Dydd Gwener 26 Mai ym Mhafiliwn Butetown 10am - 12pm

Dydd Sul 28 Mai yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant (Atrium)10am - 5pm

Darllenwch fwy yma

 

Gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia i nodi Wythnos Gweithredu ar Ddementia

Fe fydd Gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia yn cael ei chynnal yn Neuadd Llanofer yr wythnos nesaf, yn rhan o weithgareddau Wythnos Gweithredu Dementia y ddinas.

Bydd y digwyddiad ddydd Iau 18 Mai, 11am - 3pm, yn gyfle i bobl â dementia a'u gofalwyr gael gwybod mwy am y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, a bydd hefyd yn gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl.

Bydd paentio dyfrliwiau, ysgrifennu creadigol a sesiynau gwnïo, ioga eistedd a mwy ar gael i bobl roi cynnig arni. Bydd amrywiaeth o sefydliadau a gwasanaethau yno sy'n helpu pobl gyda dementia a'u teuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau Teleofal a phrydau Pryd ar Glud y Cyngor, Gwasanaethau Byw'n Annibynnol i gyflwyno'r wefan asesu cymorth Gofyn i Sara, Gofal a Thrwsio Caerdydd a'r Fro, ac Age Cymru i rannu gwybodaeth a chyngor.

Wythnos Gweithredu Dementia (Mai 15 - 21) yw ymgyrch ymwybyddiaeth fwyaf a hiraf y Gymdeithas Alzheimer's. Bob blwyddyn, mae unigolion a sefydliadau ledled y DU yn cael eu hannog i 'weithredu ar ddementia'.

Mae Caerdydd sy'n Deall Dementia yn bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Alzheimer's Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio tuag at wneud Caerdydd yn gymuned sy'n deall dementia.  Mae'r mudiad hwn yn annog ac yn cynorthwyo sefydliadau, busnesau lleol a grwpiau cymunedol yn y ddinas i ddeall dementia a chynnig gwell cymorth i bobl sy'n byw â dementia a'u teuluoedd.

Darllenwch fwy yma