Back
Llety cŵn newydd i Gartref Cŵn Caerdydd ar ôl i £500,000 gael ei godi mewn ymdrech codi arian.

25.4.23

Cyn bo hir bydd modd i gŵn coll a strae o bob cwr o Gaerdydd fyw mewn moethusrwydd wrth iddynt aros i gael eu haduno â'u perchnogion neu eu hailgartrefu'n barhaol, ar ôl i ymgyrch codi arian a arweiniwyd gan yr elusen leol, The Rescue Hotel, a Chennad Cartref Cŵn Caerdydd, Sam Warburton, godi dros £500,000 i adnewyddu llety cŵn Cartref Cŵn Caerdydd.

Daw llwyddiant yr ymgyrch, fydd yn gweld cytiau cŵn mwy o faint a mwy cyfforddus yn cael eu gosod yn y Cartref Cŵn a weithredir gan Gyngor Caerdydd, yn dilyn grant sylweddol gan y Sefydliad Pets at Home o £180,000.

Wrth siarad am yr ymgyrch codi arian, dywedodd cyn-gapten Rygbi Cymru, Sam Warburton: "Mae Cartref Cŵn Caerdydd a'i fraich elusennol 'The Rescue Hotel' yn agos iawn at fy nghalon. Fel rhywun sydd wedi mabwysiadu a byw gyda chŵn o oedran ifanc, mae gwaith y cartref cŵn a'u staff yn wirioneddol anhygoel. Bydd y grant a ddyfarnwyd gan y Sefydlaid Pets at Home gwerth £180,000 yn ein galluogi i greu cartref y mae'r cŵn a'r staff yn ei haeddu wrth chwilio am gartref am byth iddynt. Rydw i'n hynod ddiolchgar i'r Sefydliad Pets at Home, yn ogystal â'r holl gyfranwyr eraill a wnaeth wireddu'r freuddwyd hon." 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd â chyfrifoldeb am Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Nid dyma ddiwedd yr ymdrech i godi arian. Mae llawer mwy rydyn ni'n gobeithio gallu ei wneud i gŵn Caerdydd yn y dyfodol, ond mae cyrraedd y targed hwn yn newyddion gwych ac yn golygu y gallwn symud ymlaen gyda'r gwaith adnewyddu y mae mawr ei angen ar y llety cŵn.

"Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn edrych ar ôl y cŵn sydd dan eu gofal, ond bydd hyn wir yn gwneud gwahaniaeth. Diolch enfawr i bawb a roddodd, yn enwedig y Sefydliad Pets at Home, ac i'n partneriaid elusennol yn y Rescue Hotel am eu hymdrechion diflino."

Dywedodd Amy Angus, Rheolwr Elusennol y Sefydliad Pets at Home:  "Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn gweithio'n ddiflino i ofalu am anifeiliaid anwes mewn angen a'u hailgartrefu, ac roedd yn dderbynnydd hynod deilwng o'r grant i helpu gyda'i brosiect adeiladu helaeth. Rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r Cartref yn ei ymdrechion i wella ei gyfleusterau."

I wneud rhodd i Gartref Cŵn Caerdydd a The Rescue Hotel, ewch i:www.therescuehotel.com