Back
Cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd Caerdydd

Beth sy'n cael ei gynnig a pham

17/04/23
  

1 Beth yw'r cynnig? 

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig edrych ar sut y gallai cynllun Codi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd (TDF) teg helpu i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael, brwydro yn erbyn newid hinsawdd, gwella iechyd pobl, a lleihau tagfeydd - a hefyd helpu i greu rhwydwaith trafnidiaeth fodern, glân a gwyrdd i'r ddinas gyda thocynnau bws £1, gwasanaethau bws ehangach, tramiau newydd a mwy o wasanaethau trên. 

Mae'r Cyngor eisiau edrych ar ystod o gynlluniau gan gynnwys, ymhlith eraill, Taliadau Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Tagfeydd, Parthau Aer Glân ac Ardollau Parcio mewn Gweithleoedd.  Ond hyd yn hyn nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud ar unrhyw gynllun. A chyn i unrhyw gynllun gael ei gyflwyno byddai'n rhaid rhoi sawl opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus well allai helpu pobl i leihau eu dibyniaeth ar y car preifat ar waith. 

Gallai'r mentrau canlynol fod ar gael cyn cyflwyno unrhyw gynllun codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd:

  • Tocynnau bws £1 ar lwybrau allweddol.
  • Gwasanaethau bws gwell ac ehangach.
  • Cam 1 o'r gwaith i gyflwyno tram o'r Orsaf Ganolog i Orsaf Pierhead yn y Bae, teithiau amlach ar linellau Coryton a'r Ddinas.
  • Gwelliannau cymudo rhanbarthol. 

Dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, bydd y Cyngor yn gofyn i drigolion, busnesau, cymudwyr, a rhanddeiliaid am eu barn ar gynigion y bydd yn eu cyflwyno. Mae eisiau gwybod sut rydych chi'n credu y gallwn ni adeiladu dyfodol gwell, glanach, a gwyrddach, a system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy a fforddiadwy. 

2 Felly beth sy'n digwydd ar hyn o bryd? 

  • Ar hyn o bryd, mae teithiau ffordd yn gyfrifol am 40% o allyriadau C02e (carbon deuocsid) yng Nghaerdydd. Caerdydd ac un ddinas arall sydd ar frig y rhestr o 11 o ddinasoedd craidd y DU o ran lefelau C02e, sy'n cynnwys Belfast, Birmingham, Bryste, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Manceinion, Newcastle, Nottingham, a Sheffield. 
  • Mae tystiolaeth yn dangos bod llygredd aer yn effeithio arnom ni i gyd ac yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar dwf yr ysgyfaint mewn plant, clefyd y galon, strôc, canser, asthma a mwy o farwolaethau, ymhlith effeithiau salwch eraill.
  • Amcangyfrifir bod llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes gan 7-8 mis ar gyfartaledd yn y DU.   Mewn trefi a dinasoedd sydd â lefelau llygredd aer uwch na chyfartaledd y DU, gan gynnwys Caerdydd, mae'r ffigwr hwn yn debygol o fod yn uwch ac mae pobl â chyflyrau cronig ar yr ysgyfaint yn fwy tebygol o fod mewn perygl oherwydd effeithiau llygredd aer.
  • Mae mwy o achosion o asthma yng Nghymru na'r cyfartaledd Ewropeaidd. Mae 7% o oedolion yng Nghaerdydd wedi cael diagnosis o asthma, a ac mae gan dros 9,000 o breswylwyr yng Nghaerdydd glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.  Mae chwech y cant o blant 10-14 oed yn dioddef gydag asthma yng Nghymru.
  • Mae Cyngor Caerdydd yn ymchwilio i'r achos dros gyflwyno Taliad i Ddefnyddwyr Ffyrdd, ond ar hyn o bryd does dim penderfyniadau wedi eu gwneud ynglŷn â phwy fyddai'n gorfod talu.
  • Byddwn ni'n ymgynghori â'n trigolion, busnesau, cymudwyr, a rhanddeiliaid i ddeall problemau a phryderon cyn gwneud unrhyw benderfyniad ac i sicrhau canlyniadau teg wrth i ni adeiladu dyfodol gwyrddach gyda'n gilydd.
  • Bydd rheoli traffig yn ein dinas yn chwarae rhan bwysig i wella ansawdd aer yn y ddinas, a bydd hynny o fudd i'n hiechyd a'n lles wrth ein helpu i gyflawni ein nodau o ran newid hinsawdd.
  • Bydd yn bwysig cyflwyno opsiynau trafnidiaeth newydd, y gall y cyhoedd eu defnyddio, yr un pryd â rhoi unrhyw system daliadau newydd i ddefnyddwyr ar waith. Dydyn ni ddim yn gweld hyn yn broses gyflym. Gallai gymryd blynyddoedd lawer i'w gyflawni ac mae'n annhebygol o ddigwydd cyn 2027.

 

3 Beth yw Cynllun Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd? 

Yn gyffredinol, mae Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn cael ei dalu gan berchnogion/defnyddwyr cerbydau fesul tro.  Yn y DU, yn gyffredinol mae taliadau o'r fath wedi cael eu cyflwyno i gyflawni ystod o amcanion trafnidiaeth gan gynnwys gwella ansawdd aer, diogelu iechyd a lles pobl, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, lleihau tagfeydd, a rhoi dewisiadau teithio cynaliadwy ar wahân i ddefnyddio'r car preifat. 

4 Pa fathau o gynlluniau sydd eisoes ar waith yn y DU? 

Mae mathau cyfyngedig o gynlluniau Tâl Defnyddwyr Ffyrdd lleol eisoes yn bodoli yn y DU lle mae gyrwyr yn talu ffi i fynd i neu barcio mewn ardal benodol neu deithio ar lwybr penodol. Mae modd teilwra cynlluniau i fath penodol o gerbyd neu amser o'r dydd.  Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Ffyrdd tollau fel ffordd dollau'r M6.
  • Pontydd a chroesfannau megis Pont Grog Clifton a Chroesfan Mersi
  • Ardoll Cerbydau Nwyddau Trwm ledled y DU (wedi'i atal ar hyn o bryd, disgwylir i ddychwelyd ym mis Awst 2023).
  • Y tâl tagfeydd, Parth Allyriadau Isel a Pharth Allyriadau Isel Ultra (ULEZ) yn Llundain.
  • Nottingham - Ardoll Parcio yn y Gweithle.
  • Parthau Awyr Glân yng Nghaerfaddon, Birmingham, Bradford, Bryste, Glasgow, Portsmouth, Sheffield, Tyneside - Newcastle a Gateshead.

 

5 Pam mae angen i ni ystyried Cynllun Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd? 

       Mae ansawdd aer gwael yn y ddinas yn achosi ystod eang o broblemau iechyd i'n trigolion, gan gynnwys cyfraddau uwch o asthma gyda'r sawl sy'n byw mewn ardaloedd tlotach yn teimlo'r effaith fwyaf.

       Amcangyfrifir bod llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes gan 7-8 mis ar gyfartaledd yn y DU.   Mae mwy o achosion o asthma yng Nghymru na'r cyfartaledd Ewropeaidd. Mae 7% o oedolion yng Nghaerdydd wedi cael diagnosis o asthma, a ac mae gan dros 9,000 o breswylwyr yng Nghaerdydd glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.  Mae chwech y cant o blant 10-14 oed yn dioddef gydag asthma yng Nghymru.  Mae tystiolaeth yn dangos bod llygredd aer yn effeithio arnom ni i gyd ac yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar dwf yr ysgyfaint mewn plant, clefyd y galon, strôc, canser, asthma a mwy o farwolaethau, ymhlith effeithiau salwch eraill. Rhaid i unrhyw gynllun rydyn ni'n ei ddatblygu ystyried hyn a dyna pam rydyn ni eisiau ystyried pob opsiwn nawr.

       O drafnidiaeth daw 15% o gyfanswm ein hallyriadau yng Nghymru ac mae 40% o allyriadau C02e Caerdydd yn cael ei achosi gan drafnidiaeth ar y ffyrdd. Dyma‘r sector mwyaf araf i ddatgarboneiddio.  Os ydyn ni am gyrraedd ein targedau o ran y newid yn yr hinsawdd, mae'n hanfodol ein bod ni'n cynnig moddau teithio fforddiadwy a hawdd eu defnyddio yn y ddinas all helpu i leihau ein dibyniaeth ar y car preifat.

       Byddai Cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd wedi ei glustnodi yn mynd tuag at dalu am welliannau trafnidiaeth, a gyda chyllid ategol gan y Llywodraeth, gallai ein helpu i gael y system drafnidiaeth fodern, lân, a gwyrdd sydd ei hangen ar y ddinas.

       Os bydd nifer y ceir ar ein ffyrdd yn parhau i godi, bydd y ddinas yn parhau i fod yn llygredig, llawn ceir, a llawn tagfeydd, a bydd yn lle annifyr i deithio. 

       Mae diffyg system drafnidiaeth fforddiadwy, integredig, eang a hawdd ei defnyddio, hefyd yn niweidio rhagolygon economaidd, symudedd cymdeithasol, a chynhyrchiant y ddinas.

 

Ar hyn o bryd, does dim digon o arian i dalu am y newidiadau sydd eu hangen i greu system drafnidiaeth fodern, lân a gwyrdd i Gaerdydd.  Rydym yn amcangyfrif mai dim ond 10-15% rydyn ni'n ei dderbyn o'r cyllid sydd ei angen arnom bob blwyddyn i gyflwyno'r newid sydd ei angen. Os nad oes modd dod o hyd i lefelau ychwanegol o gyllid ar gyfer seilwaith - y tu hwnt i'r hyn sydd eisoes ar gael gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor ei hun - ni fyddwn ni'n gallu adeiladu'r system drafnidiaeth sydd ei hangen ar y ddinas. Mae angen newid mawr a dim ond drwy greu seilwaith incwm hirdymor newydd y bydd modd ei wireddu, law yn llaw â grantiau a rhaglenni presennol. 

Bydd Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn darparu'r arian y mae Cyngor Caerdydd ei angen i fynd i'r afael â'r materion hyn yn effeithiol drwy helpu i adeiladu seilwaith trafnidiaeth sy'n gwella'r aer rydym yn ei anadlu, ein hiechyd, ein huchelgeisiau o ran newid hinsawdd a'n heconomi.  Byddai hyn yn helpu Cyngor Caerdydd i gyflawni'r ymrwymiad sydd ganddo i drigolion Caerdydd drwy weithredu i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag yr argyfwng hinsawdd.  Bydd yr ymrwymiad hirdymor hwn i adeiladu ein dyfodol yn trawsnewid ein dinas ac yn rhoi'r seilwaith modern, trafnidiaeth gyhoeddus y maen trigolion yn ei haeddu. 

 

6 Ond dwi eisoes yn talu treth ffordd ar fy nghar. Pam y dylwn i orfod talu mwy? 

Nid yw'r 'dreth geir' rydych chi'n ei thalu yn cael ei hystyried yn dreth ffordd. Mae'n mynd yn syth i gronfa gyffredinol Trysorlys y DU ac nid yw'n cael ei neilltuo i dalu am ffyrdd neu welliannau trafnidiaeth. Gall y Llywodraeth ei wario ar unrhyw beth maen nhw'n ddewis. Hefyd, nid yw Caerdydd yn derbyn ei chyfran deg o'r cyllid hwn. Hyd yn oed pe bai'n gwneud hynny, mae cost defnyddio ceri i iechyd y blaned, tagfeydd, a'r gofyniad i gadw ffyrdd mewn cyflwr defnyddadwy yn llawer mwy na faint o arian mae'r dreth hon yn ei godi. Os ydym am weld gwireddu gwelliannau trafnidiaeth y mae mawr eu hangen, i fod yn lanach a gwyrddach, ac a fydd yn annog pobl i leihau eu dibyniaeth ar y car preifat, tra'n mynd i'r afael â llygredd aer, newid yn yr hinsawdd a thagfeydd, yna mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o'i ariannu.

 

7 A allwn ni gyflawni'r amcanion hyn heb gyflwyno Tâl Defnyddwyr Ffyrdd? 

Mae Cyngor Caerdydd, fel cynghorau ledled y wlad, yn gorfod gwneud mwy gyda llai. Er gwaethaf gwneud cais llwyddiannus am gyllid Codi'r Gwastad y DU a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddechrau gweithio ar ein system dramiau arfaethedig, nid oes gan y Cyngor y buddsoddiad sydd ei angen i gyrraedd ei dargedau trafnidiaeth a hinsawdd.  Mae angen system drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ar Gaerdydd sy'n addas at y dyfodol, a gallai cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd rhesymol helpu i wireddu hyn.

 

8 Faint o ddweud fydd gen i am hyn a sut mae lleisio fy marn?

 

Mae'r cyngor eisiau ymgysylltu â thrigolion, busnesau, cymudwyr, a rhanddeiliaid eraill a rhoi llais i bawb yn y modd yr awn ni ati i adeiladu dyfodol gwell gyda'n gilydd. Bydd ymgynghoriad helaeth yn digwydd gyda thrigolion Caerdydd er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd decaf bosibl.

 

Ar hyn o bryd does dim cynllun wedi'i ddewis. Bydd angen amser ar y cyngor i ymchwilio i gynlluniau gwahanol cyn cyflwyno cynigion ar gyfer ymgynghoriad. Bydd y cyngor wrthi'n datblygu cynllun ymgysylltu er mwyn siarad â thrigolion, busnesau, cymudwyr, a rhanddeiliaid er mwyn i'ch barn helpu i adeiladu dyfodol gwell a llywio'r penderfyniad.  Bydd manylion am yr ymgynghoriadau hyn yn dilyn maes o law.

 

9 Pryd y bydd y cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn cael ei weithredu?

Mae angen gwneud llawer o waith i benderfynu, mewn ymgynghoriad â thrigolion, busnesau, cymudwyr a rhanddeiliaid, pa fath yn union o Dâl Defnyddwyr Ffyrdd fyddai'n gweithio orau yng Nghaerdydd.  Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith hwn yn cymryd sawl blwyddyn.  

Amlinellodd Papur Gwyn y Cyngor ar Drafnidiaeth yn 2020 ymrwymiad i ddarparu system drafnidiaeth fodern lanach a gwyrddach a thrafod y rôl y gallai Tâl Defnyddwyr Ffyrdd ei chwarae i helpu i fynd i'r afael ag ansawdd aer, a newid yn yr hinsawdd. Wrth gyflwyno unrhyw daliad, bydd rhaid dangos buddion mesuradwy i'r ddinas a'i thrigolion yn glir, a bydd ymgynghori'n digwydd gyda nhw drwy gydol y broses.  

Rydyn ni'n credu y bydd yn bwysig cyflwyno gwelliannau trafnidiaeth ar yr un pryd â gweithredu unrhyw system Tâl Defnyddwyr Ffyrdd newydd.  Mae'r rhaglen bresennol yn awgrymu y gallai hyn ddigwydd erbyn 2027.

Beth bynnag fydd yr amserlen, bydd yr incwm ar gyfer blaenoriaethau trafnidiaeth.   Bydd yn creu'r cyfle i weddnewid nid yn unig system drafnidiaeth Caerdydd ond hefyd, i raddau helaeth, amgylchedd y ddinas, iechyd a lles, targedau newid hinsawdd, rhagolygon economaidd a chynhyrchiant.

 

 

Dyddiadau Targed a Cherrig Milltir Drafft

Dyddiad Targed Drafft

Disgrifiad o'r Garreg Filltir

2023/24

Ymchwil, cynllunio ac ymgynghori â'r cyhoedd 

Diwedd 2024

Penderfyniad Cabinet

Diwedd 2025

Cwblhau dyluniad manwl gan gynnwys pob gofyniad cynllunio, cyfreithiol ac ariannol cysylltiedig.

Yn gynnar yn 2026

Cyflwyno unrhyw orchmynion drafft sydd angen Cymeradwyaeth gan Weinidog.

2027/28

Gweithredu yn amodol ar gymeradwyaeth.

2026/27 ac ymlaen

Gweithredu/adeiladu cynlluniau cyfochrog a fyddai'n cael eu hariannu o'r Tâl Defnyddwyr Ffyrdd.

 

 

10 A fydd cyflwyno hyn yn ddibynnol ar hinsawdd economaidd ffafriol?

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn ymchwilio i'r achos dros gyflwyno cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn amodol ar ymgynghoriad ar y cynigion ac asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb.  Os yw'r ymchwiliadau'n gadarnhaol, yn realistig gellid rhoi'r cynllun ar waith erbyn 2027.  Byddai hyn hefyd yn caniatáu amser i weithredu gwelliannau ehangach i drafnidiaeth, a fydd yn eu lle cyn cyflwyno unrhyw gynllun tâl.

 

Bydd buddsoddi yn nyfodol y ddinas ac adeiladu system drafnidiaeth well yn helpu i adfywio ein heconomi leol, hybu cynhyrchiant, denu talent fyd-eang, a chreu mwy o gyfleoedd gwaith - gan wneud ein dinas yn lle deniadol ar gyfer busnes.

 

Mae tystiolaeth yn dangos bod cynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, yn hytrach na rhwydweithiau ceir modur, yn gwella'r amgylchedd busnes, gan hefyd wneud bywyd yn well i weithwyr a chwsmeriaid.

 

11 Sut bydd y cynllun yn cael ei orfodi? Beth yw cost ei orfodi?

Nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar y cynllun eto, na chwaith sut y bydd yn cael ei weithredu a'i orfodi.

Yn gyffredinol, mae cynlluniau eraill yn defnyddio camerâu adnabod plât rhif awtomatig gyda thechnoleg ffôn symudol. 

12 Beth am bryderon ynghylch preifatrwydd os yw camerâu gwyliadwriaeth yn cael eu gosod ar gyfer gorfodi'r cynllun?

Nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar y cynllun eto, na chwaith sut y bydd yn cael ei weithredu a'i orfodi. Wedi dweud hynny, os bydd y Cyngor yn penderfynu gosod camerâu i orfodi cynllun/iau, rydyn ni am gadarnhau wrth ddefnyddwyr ffyrdd y bydd y data a gesglir yn ddiogel yn unol â deddfau preifatrwydd, yn cael ei gadw'n ddiogel ac am gyfnod cyfyngedig.

13 Faint fydd y tâl?  A fydd ar waith 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos?  Oes uchafswm tâl mewn blwyddyn?

Nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar hyn o bryd.  Bydd y Cyngor yn ymgynghori â thrigolion a busnesau Caerdydd, a chymudwyr a rhanddeiliaid er mwyn ymchwilio'n llawn i sut y gallai Tâl Defnyddwyr Ffyrdd weithio, cyn penderfynu ar yr opsiwn a ffefrir. Serch hynny, rydyn ni o'r farn y byddai'n rhaid i unrhyw dâl fod yn rhesymol a theg heb effeithio'n negyddol ar gymunedau tlotach. Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau ar eithriadau hefyd ac ymgynghori arnyn nhw.

14 Ar bwy y bydd y cynllun yn effeithio?

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, ymchwil a gwerthusiad, bydd Cyngor Caerdydd yn gallu rhannu mwy o wybodaeth am y cynllun, ar bwy y gallai effeithio, ac unrhyw fesurau lliniaru priodol megis prisiau gostyngol, eithriadau, neu ad-daliadau.

15 Pan gyhoeddoch chi'r papur Trafnidiaeth yn 2020 dywedoch chi y byddech chi'n ystyried Tâl Defnyddwyr Ffyrdd, ond hefyd na fyddai trigolion Caerdydd yn gorfod talu. Pam mae hynny wedi newid?

 

Does dim penderfyniad wedi'i wneud eto ar unrhyw gynllun. Ond ein nod yw gwella ansawdd aer, bwrw ein targedau newid hinsawdd, a thrawsnewid y cynnig trafnidiaeth yng Nghaerdydd er mwyn rhoi opsiwn go iawn i bobl ar wahân i gar preifat. Yn 2020, dywedon ni y byddai'n well gennym ni roi eithriad i drigolion Caerdydd, ond mae'n bwysig ein bod yn ymchwilio i bob opsiwn i gyrraedd y ffordd orau ymlaen ar gyfer dyfodol Caerdydd.

Ar hyn o bryd, mae teithiau ffordd yn gyfrifol am 40% o allyriadau C02e (carbon deuocsid) yng Nghaerdydd.   Yn ogystal ag un ddinas arall, dyma'r uchaf o blith yr 11 o ddinasoedd craidd y DU, sy'n cynnwys Belfast, Birmingham, Bryste, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Manceinion, Newcastle, Nottingham, a Sheffield. 

Rydyn ni eisiau gweithio gyda'r cyhoedd i gyrraedd cynllun sy'n adeiladu dyfodol glanach a gwyrddach i'n dinas. 

Amcangyfrifir bod llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes gan 7-8 mis ar gyfartaledd yn y DU.   Mae mwy o achosion o asthma yng Nghymru na'r cyfartaledd Ewropeaidd. Mae 7% o oedolion yng Nghaerdydd wedi cael diagnosis o asthma, a ac mae gan dros 9,000 o breswylwyr yng Nghaerdydd glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.  Mae chwech y cant o blant 10-14 oed yn dioddef gydag asthma yng Nghymru.  Mae tystiolaeth yn dangos bod llygredd aer yn effeithio arnom ni i gyd ac yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar dwf yr ysgyfaint mewn plant, clefyd y galon, strôc, canser, asthma a mwy o farwolaethau, ymhlith effeithiau salwch eraill. Rhaid i unrhyw gynllun rydyn ni'n ei ddatblygu ystyried hyn a dyna pam rydyn ni eisiau ystyried pob opsiwn nawr.

Serch hynny, rydyn ni o'r farn y byddai'n rhaid i unrhyw dâl fod yn rhesymol a theg heb effeithio'n negyddol ar gymunedau tlotach.  Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau ar eithriadau hefyd ac ymgynghori arnyn nhw. Byddwn ni'n ceisio lleihau effeithiau ar drigolion, y rhai tlotaf, ac ar ddefnyddwyr rheolaidd yn y ddinas a'r rhanbarth. (Er enghraifft, mae trigolion yn Llundain yn gymwys i gael gostyngiad o 90% os ydyn nhw'n byw ym mharth ULEZ.)

16 A fydd yn rhaid i gyflogeion sector cyhoeddus a hefyd staff/busnesau'r sector preifat ei dalu?

Hyd yn hyn, nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud ar gynllun penodol.  Yn gyffredinol, mae cynlluniau Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn berthnasol i ddefnyddwyr ffyrdd (gyrwyr) boed yn teithio i swydd yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat.  Rydyn ni'n croesawu adborth ar hyn neu ddulliau eraill gan randdeiliaid. 

17 Os bydd cyflwyno Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn effeithio ar niferoedd fy ngweithlu, a fydd gen i hawl i iawndal?

Hyd yn hyn, nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud ar gynllun penodol. Er ei bod yn anodd priodoli newidiadau yn niferoedd y gweithlu i un prosiect neu raglen benodol, bydd Cyngor Caerdydd yn ystyried yr effaith mae'r cynllun yn ei chael ar wahanol fusnesau yn ei broses ymchwil, ymgynghori ac arfarnu.

18 Ydy trigolion Caerdydd wir yn poeni am lygredd aer a'r newid yn yr hinsawdd?

Mae'r adborth y mae'r Cyngor wedi ei dderbyn drwy lawer o arolygon cyhoeddus yn dangos bod trigolion Caerdydd eisiau bod mwy yn cael ei wneud ar y newid yn yr hinsawdd.  Rydyn ni hefyd yn gwybod bod argyfwng ym maes iechyd y mae angen ei ddatrys ac mae trafnidiaeth yn ffactor pwysig sy'n cyfrannu.  Mae mynd i'r afael â thrafnidiaeth gyhoeddus wael a thagfeydd hefyd wedi bod yn flaenoriaethau uchel wedi'u nodi gan drigolion yn ein harolygon blynyddol. Mae'r rhan fwyaf o drigolion Caerdydd am i ni weithredu ar newid hinsawdd a buddsoddi yn ein dyfodol - ac maen nhw am i ni weithredu nawr, mewn ffordd sy'n deg a chyfartal.  Mae pobl Caerdydd eisiau system drafnidiaeth lanach, wyrddach, a gwell sydd yn rhoi'r gallu iddyn nhw i fod yn llai dibynnol ar y car modur.

 

19 Sut rydyn ni'n gwybod y bydd arian sy'n cael ei godi yn mynd at y mentrau trafnidiaeth cywir?

 

Mae Cyngor Caerdydd, fel cynghorau ledled y wlad, yn gorfod gwneud mwy gyda llai. Er gwaethaf gwneud cais llwyddiannus am gyllid Codi'r Gwastad y DU a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddechrau gweithio ar ein system dramiau arfaethedig, nid oes gan y Cyngor y buddsoddiad sydd ei angen i gyrraedd ei dargedau trafnidiaeth a hinsawdd.  Mae angen system drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ar Gaerdydd sy'n addas at y dyfodol. Gallai Tâl Defnyddwyr Ffyrdd rhesymol gefnogi hynny os caiff ei neilltuo ar gyfer mentrau trafnidiaeth.

 

20 Fydd hyn ddim ond yn disodli'r cyllid sydd eisoes yn cael ei gynnig - sut gallwn ni fod yn sicr y bydd hyn yn cyflawni'r newid sydd ei angen?

 

Rhaid i'r arian yma fod yn ychwanegol at arian gan y Llywodraeth sydd ar gael i'r cyngor yn barod. Hynny yw, ni all gael ei ddefnyddio i lenwi bwlch yn sgil toriadau cyllid gan y Llywodraeth.  Yn hytrach, mae cronfa ychwanegol o'r fath yn rhoi cyfle mawr i'r Cyngor a Llywodraeth Cymru wireddu gweledigaeth drawsnewidiol er mwyn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol a lleol cyffredin gan gynnwys Cledrau Croesi, gwasanaethau bws gwell, a'r Metro, gan roi opsiynau trafnidiaeth a helpu i leihau ein dibyniaeth ar y car modur preifat. Rydyn ni'n credu y gellid gwneud hynny drwy daliad cost isel a fyddai ag eithriadau ar gyfer y rhai lleiaf abl i dalu.

 

21 Sut mae hyn yn cyd-fynd â pholisi / ymrwymiadau / addewidion y Llywodraeth?

 

Mae polisïau a strategaethau ar lefel genedlaethol, rhanbarthol, a lleol yn canolbwyntio ar newid y ffordd rydyn ni'n teithio i'w gwneud yn wyrddach ac yn decach i bawb. Mae hynny'n cynnwys buddsoddi mewn rheilffyrdd, bysiau, a llwybrau beicio er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl ddewis trafnidiaeth gynaliadwy. Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn gwbl ganolog i waith y Llywodraeth. 

Weithiau, mae angen i ni ystyried offer a dulliau newydd i wireddu'r canlyniadau hyn. Mae dinasoedd sydd wedi gweithredu Tâl Defnyddwyr Ffyrdd trefol yn gweld gostyngiadau mewn allyriadau gan gerbydau a gwelliannau i ansawdd aer, sydd yn ei dro yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn cefnogi'r newid i ddyfodol carbon isel, sero-net.

Er enghraifft:

  • Mae'r angen am fuddsoddiad mewn trafnidiaeth a'r mecanwaith priodol i'w ariannu wedi bod yn ystyriaeth bolisi hirsefydlog yn genedlaethol ac yng nghyd-destun ehangach y DU.  Tynnwyd sylw at hyn yn 'Dyfodol Trafnidiaeth: Rhwydwaith ar gyfer 2030' a gyhoeddwyd yn 2004 gan yr Adran Drafnidiaeth.
  • Yng Nghymru, sefydlodd y Prif Weinidog Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn 2019 i ymchwilio i ffyrdd cynaliadwy o leihau tagfeydd ar yr M4 yn ne-ddwyrain Cymru; a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru "Adolygiad annibynnol o godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru" gan Derek Turner ym mis Tachwedd 2020. 
  • MaeLlwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru(a gyhoeddwyd yn 2021), yn cynnwys ymrwymiad i ystyried "codi tâl teg a chyfartal ar y ffyrdd yng Nghymru ac ymchwilio i gymhellion eraill rhag defnyddio ceir, gan ystyried materion cydraddoldeb gan gynnwys anghenion pobl mewn ardaloedd gwledig, pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a phobl ar incwm isel."
  • Yn lleol, cymeradwyodd Cyngor Caerdydd yPapur Gwyn Trafnidiaethyn Ionawr 2020.  Nod y Papur Gwyn Trafnidiaeth yw dyblu nifer y bobl sy'n beicio a theithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau bod 76% o'r holl deithiau'n cael eu gwneud ar foddau teithio cynaliadwy erbyn 2030.
  • Mae'rStrategaeth Un Blaned, a gymeradwywyd gan Gyngor Caerdydd ym mis Hydref 2020, yn cynnwys camau gweithredu allweddol o ran trafnidiaeth ac mae'n nodi bod angen newid sylweddol yn lefel y buddsoddiad i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gwella ansawdd aer, a darparu opsiynau teithio mwy cynaliadwy. Mae Cyngor Caerdydd yn gwireddu ei addewid i drigolion Caerdydd i weithredu nawr er mwyn diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag yr argyfwng hinsawdd.  Bydd yr ymrwymiad hirdymor hwn i adeiladu dyfodol gwell gyda'n gilydd yn helpu i drawsnewid ein dinas a rhoi'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern y mae ein trigolion yn ei haeddu.

22 A fydd Llywodraeth Cymru'n ei gymeradwyo?

Byddai unrhyw gynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn cael ei ystyried gan Gyngor Caerdydd drwy brosesau gwneud penderfyniadau arferol y Cabinet.  Mae newidiadau i reoleiddiadau Llywodraeth Cymru ar y gweill ar gyfer deddfwriaeth i alluogi Awdurdodau Lleol i weithredu cynlluniau o'r fath.  Byddai angen i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r Gorchmynion fyddai'n ofynnol er mwyn gweithredu'r cynllun. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Awdurdodau Lleol i ystyried Tâl Defnyddwyr Ffyrdd drwy bolisïau fel Llwybr Newydd (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru), Cymru Sero-Net, ac yn fwyaf diweddar, yr ymateb i Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.  Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n gwobrwyo Awdurdodau Lleol sy'n rheoli tagfeydd yn rhagweithiol gyda Thâl Defnyddwyr Ffyrdd.

 

23 Pam na allwch chi ddarparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus heb hyn?

 

Yn y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Caerdydd wedi llwyddo i gynllunio a darparu trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol mawr.  Yn fwyaf diweddar, llwyddon ni i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Llywodraeth Ganolog i gyflwyno cam cyntaf system dramiau newydd i Gaerdydd. Fodd bynnag, rydym yn credu ein bod ond yn cael rhwng 10-15% o'r cyllid sydd ei angen yn flynyddol i wneud y newidiadau trafnidiaeth sydd eu hangen ar y ddinas os ydym yn mynd i lanhau ein haer, lleihau ein CO2e, brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, lleihau tagfeydd, a lleihau'r ddibyniaeth ar y car preifat. Mae hynny'n golygu y bydd angen i'r Cyngor greu ffynonellau ariannu ychwanegol i ddarparu system drafnidiaeth lanach a gwyrddach, fodern ar gyfer y ddinas.

 

 

Goblygiadau ariannol a chanlyniadau teg

 

24 Sut bydd y Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn effeithio ar bobl agored i niwed yn y gymuned, pobl ag anghenion hygyrchedd, neu bobl na allan nhw ei fforddio?

 

Bydd unrhyw gynllun yng Nghaerdydd yn ystyried pobl leol y bydd angen eu heithrio, eu had-dalu neu fydd yn gymwys ar gyfer gostyngiadau.   Y nod fydd gwneud yr effeithiau o godi tâl mor fach â phosibl i drigolion, a'r rheini sydd fwyaf dan anfantais yn economaidd.   Er enghraifft, mae trigolion yn Llundain yn gymwys i gael gostyngiad o 90% ar y Tâl Tagfeydd os ydyn nhw'n byw o fewn parth codi tâl.

 

Mae llygredd aer fel arfer yn waeth mewn ardaloedd incwm isel o'u cymharu â chymdogaethau cyfoethog.  Mae trigolion ardaloedd o amddifadedd yn economaidd yn fwyaf tebygol o fod ar eu hennill o wella ansawdd yr aer.   Yn ogystal â hynny, bydd system drafnidiaeth integredig, hygyrch, a fforddiadwy yn gwella symudedd cymdeithasol ac economaidd cymunedau agored i niwed.

 

25 Pam rydych chi'n mynd ag arian o bocedi defnyddwyr ffyrdd yn ystod argyfwng costau byw?

 

Rydym yn gwybod mai'r bobl yn ein cymunedau tlotaf sy'n anadlu'r aer mwyaf brwnt ac yn dioddef y cyfraddau gwaethaf o asthma plentyndod ac afiechydon eraill, ac eto nhw sydd lleiaf tebygol o fod yn berchen ar gar. Mae gwella ein system drafnidiaeth yn hanfodol os ydyn ni am gysylltu rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig â'r cyfleoedd sydd ar gael yn y ddinas.Rydyn ni am ailwampio ein system drafnidiaeth gyhoeddus, fel ei bod yn gweithio i holl bobl Caerdydd mewn ffordd nad yw gwneud ar hyn o bryd.  "Gwyddom hefyd, yng Nghaerdydd, fod y lefelau isaf o berchnogaeth ceir ymhlith pobl ifanc, pobl anabl, pobl sy'n byw yn yr arc ddeheuol a phobl o gefndir ethnig lleiafrifol. Felly, y bobl sy'n cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw nawr fydd y rhai caiff y budd mwyaf os caiff cynllun ei gyflwyno ymhen pedair neu bum mlynedd, pan fyddwn ni i gyd yn wynebu hinsawdd economaidd well gobeithio. Rydyn ni eisiau i drigolion Caerdydd wybod y byddwn ni'n rhoi ystyriaeth briodol i'r effaith y caiff unrhyw gynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd posibl ar y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.   Byddwn ni'n gwneud hynny drwy ystyried y dulliau mwyaf priodol a theg gan gynnwys eithriadau a phrisiau gostyngol.

 

26 A yw'r taliad yn ychwanegol at ardrethi?  Os bydd, a fydd eithriadau / gostyngiadau yn unol â'r ardrethi?  Beth yw'r eithriadau / gostyngiadau?

 

Mae ardrethi'n helpu i dalu am wasanaethau lleol fel goleuadau stryd gwella, mannau cyhoeddus, a chadw strydoedd yn lân ac yn ddiogel.  Os ydych chi'n talu ardrethi busnes, efallai bydd eich eiddo yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes, ond ni fyddai unrhyw gynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn effeithio ar gyfraddau busnes.

 

Byddai unrhyw gynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn ystyried sut i ddiogelu gyrwyr incwm isel rhag caledi ariannol posibl, gydag ystyriaeth yn cael ei rhoi i eithriadau, gostyngiadau a/neu ad-daliadau. Bydd gwybodaeth am hynny oll ar gael yn hwyrach yn y broses.

 

27 Beth am weithwyr allweddol a cherbydau brys sy'n gorfod defnyddio'r ffyrdd bob dydd?

 

Mae lleihau tagfeydd yn gwneud lle ar ein ffyrdd i'r rhai sydd â'r angen mwyaf i deithio ar y rhwydwaith.  Mae Cyngor Caerdydd yn credu y bydd lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd yn fuddiol mewn sawl ffordd, gan gynnwys i gerbydau brys sydd angen symud drwy ein ddinas yn gyflym.Mae ymchwil yn dangosbod mesurau tawelu traffig yn gwella amseroedd ymateb cerbydau brys - gan achub bywydau o bosibl.

 

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein ffyrdd yn hygyrch i bawb, gan gynnwys y sawl sydd angen gofal meddygol brys. Yn hynny o beth, bydd y gwaith astudio yn ystyried yr effeithiau ar weithwyr allweddol a cherbydau brys a sut y gellid dyfeisio cynllun i leihau unrhyw effaith. Bydd hynny'n cynnwys ystyried opsiynau o ran eithriadau ac ad-daliadau.

 

Wrth gwrs, ni fyddai'n rhaid i gerbydau brys wneud taliad.

 

28 Sut y gallwch chi ddisgwyl i bobl roi'r gorau i ddefnyddio ceir os nad yw'r drafnidiaeth gyhoeddus yn ddigon da?

 

Mae angen system drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ar Gaerdydd sy'n addas at y dyfodol, a gallai cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd teg helpu i wireddu hyn.  Bydd y cynllun yn rhoi blaenoriaeth i welliannau trafnidiaeth gyhoeddus.   Mae angen cyllid ychwanegol i greu'r profiad ‘cyrraedd a mynd' sydd ei angen ar bobl. 

 

Rydyn ni'n deall bod pobl Caerdydd yn haeddu opsiynau trafnidiaeth gwell, a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo cymaint i ddod o hyd i ffyrdd o adeiladu dyfodol cyffredin: system drafnidiaeth gyhoeddus lanach, wyrddach, fforddiadwy i bawb yng Nghaerdydd. Rydyn ni wedi ymrwymo i baratoi Caerdydd at y dyfodol i'r genhedlaeth nesaf, gan sicrhau y gall pobl, byd natur, a busnesau barhau i ffynnu.

 

 

29 Oni fydd hyn yn gwneud Caerdydd yn llai deniadol i dwristiaid os nad ydyn nhw'n gallu symud o gwmpas ein dinas?

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i gryfhau enw da Caerdydd fel lle unigryw i dwristiaid i bobl o bob cwr o'r byd.   Mae'r rhan fwyaf o dwristiaid ac ymwelwyr rhyngwladol yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio yn y ddinas.  Gwella fydd Caerdydd i dwristiaid yn sgil unrhyw gynllun ar gyfer cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus gwell sy'n gwneud canol ein dinas yn lle i bobl eto, yn hytrach nag i geir.  Amsterdam. Paris. Llundain. Dyma ddinasoedd sy'n deall bod dyfodol eu diwydiant twristiaeth yn dibynnu ar roi pobl a natur cyn ceir preifat.

 

30 Sut gallwn ni fod yn sicr y bydd yr arian yn cael ei wario'n dda, o gofio ein bod yn dal i ddisgwyl i'r orsaf fysiau agor?

Os Byddwn yn bwrw yn ein blaen â chynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd, y bwriad fydd gwneud peth gwaith uwchraddio i'r rhwydwaith trafnidiaeth cyn i unrhyw gynllun talu ddod i rym, i ddangos y canlyniadau gwirioneddol a ddaw o ddefnyddio'r arian yn effeithiol. Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a defnyddio arian grant a benthyca ar incwm o'r cynllun yn y dyfodol, gallai'r mentrau canlynol fod ar gael cyn cyflwyno Tâl Defnyddwyr Ffyrdd:

  • Tocynnau bws £1 ar lwybrau allweddol.
  • Gwasanaethau bws gwell ac ehangach.
  • Cam 1 o'r gwaith i gyflwyno tram o'r Orsaf Ganolog i Orsaf Pierhead yn y Bae, teithiau amlach ar linellau Coryton a'r Ddinas.
  • Gwelliannau cymudo rhanbarthol.

 

Bydd yr arian a ddaw o gynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd, ynghyd ag arian sydd ar gael gan y Llywodraeth, yn ein helpu i ddarparu'r canlynol yn llwyddiannus:

  • System tramiau i'r ddinas gyfan yn rhan o Metro gan gynnwys Cledrau Croesi (yn ardal y ddinas). llinell gylch, a gorsafoedd newydd, gydag o leiaf 4 tram yr awr.
  • Rhwydwaith bysiau â blaenoriaeth i'r ddinas gyda gwasanaethau dibynadwy ac aml - â tharged i gynyddu defnydd bysiau 100%.
  • Cefnogi datblygiad Metro a rhwydwaith bysiau rhanbarthol ehangach ar gyfer siopa/cymudo.
  • Cwblhau Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae, fyddai, yn ogystal â gwelliannau i'r ffyrdd yng nghanol y ddinas, yn galluogi traffig i symud o amgylch y ddinas ehangach.
  • Cymhellion teithio cynaliadwy - teithio rhatach, tocynnau, prynu beiciau.
  • Cyflwyno fflyd bysiau a thacsis trydan.

 

Mae'r Sgwâr Canolog wedi'i drawsnewid o fod yn ardal fwyaf di-raen canol y ddinas i fod yn ardal fusnes sy'n cyflogi miloedd ac mae  datblygiadau pellach i'r de o'r orsaf drenau yn creu ardaloedd newydd cyffrous i drigolion ac ymwelwyr. Ydy, mae'r orsaf fysiau wedi cymryd mwy o amser nag yr oedden ni'n ei obeithio, ond bydd ar agor cyn bo hir a bydd wedi'i gyflawni ar ddim cost ariannol i drigolion Caerdydd. 

 

31 Pa eithriadau a phrisiau gostyngol rydych chiw wedi'u hystyried ar gyfer gyrwyr?

Bydd Cyngor Caerdydd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ac yn arfarnu cynlluniau posib er mwyn penderfynu ar yr effaith ar wahanol rannau o gymdeithas er mwyn cynnig cymorth ac eithriadau i'r sawl sydd eu hangen. Rydyn ni eisiau cyflwyno cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd sy'n deg ac nad yw'n rhoi cymunedau agored i niwed dan fwy o anfantais, gan sicrhau bod baich ariannol rhesymol yn cael ei roi ar ysgwyddau'r sawl sy'n gallu ei fforddio.

 

Bydd y Cyngor yn gofyn am farn ar sut beth fyddai taliad teg a chyfartal drwy ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd. Bydd ystyriaeth i ddechrau yn cael ei rhoi i'r canlynol a allai fod yn gymwys i gael eithriadau, gostyngiadau a/neu ad-daliadau:

 

Cerbydau brys.

Cerbydau milwrol.

Cerbydau dosbarth treth anabl.

Deiliaid bathodyn glas.

Gwasanaethau trwsio ceir ar ymyl y ffordd.

Gwasanaethau deialu reid.

Rhai cerbydau gweithredol awdurdod lleol.

Cerbydau clybiau ceir.

Pobl ar incwm isel.

Preswylwyr.

Gwasanaethau bws cofrestredig.

Yn ôl mathau o injan.

Yn ôl maint cerbydau.

Cerbydau Hacni (Tacsis) a cherbydau llogi preifat.

Cleifion y GIG sydd wedi'u hasesu'n glinigol eu bod yn rhy sâl, gwan neu anabl i deithio i apwyntiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Staff GIG sy'n defnyddio cerbyd i gario eitemau penodol.

Cleifion y GIG sy'n teithio ar gyfer gwasanaethau adrannau Brys.

Y GIG a staff eraill y gwasanaethau brys sy'n ymateb i argyfwng pan ar alwad.

Gweithwyr gofal cymdeithasol, iechyd cymunedol a gweithwyr cartrefi gofal wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn Ansawdd Gofal.

Bysiau mini a Faniau Ysgafn a ddefnyddir gan elusennau a grwpiau nid-er-elw.

 

 

32 Oni fydd hyn yn effeithio ar bobl sy'n dibynnu ar gerbydau ar gyfer eu bywoliaeth?

Gweler uchod

33 Sut bydd hyn yn datrys y tagfeydd traffig ar yr M4?

Er nad yw'r cynllun wedi'i anelu'n benodol at fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4, mae'n debygol y bydd y cynllun yn cyfrannu drwy annog mwy o bobl i deithio'n gynaliadwy yn hytrach na mewn car preifat.

Effaith ar fusnesau

 

34 Onid yw hyn yn mynd i effeithio'n negyddol ar fusnesau yng nghanol y ddinas sydd angen defnyddio'r ffyrdd, ac y mae eu staff yn cymudo i Gaerdydd bob dydd?

 

Rydyn ni wrthi'n ymgynghori â busnesau yng nghanol y ddinas i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu cynllun sy'n gweithio iddyn nhw.  Bydd yr astudiaeth yn ystyried yr effeithiau ar fusnes ac yn deall unrhyw faterion sydd angen sylw.   Rydyn ni'n cymryd anghenion byrdymor busnesau o ddifrif, tra'n cydbwyso eu gweledigaeth hirdymor hanfodol ar gyfer Caerdydd sy'n barod at y dyfodol.  Byddwn ni'n ystyried y baich ariannol ar fentrau bach a chanolig, elusennau, a sefydliadau llawr gwlad a allai gael eu heffeithio gan y cynllun, a'u cynorthwyo'n briodol.

 

35 Mae busnesau lleol eisoes yn wynebu costau gweithredol uchel oherwydd chwyddiant uchel a rheoliadau amgylcheddol eraill. A fydd cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn gwneud busnesau lleol yn llai cystadleuol?

 

Dim ond mewn ecosystem iach y gall busnes iach weithredu.  Mae'r argyfwng hinsawdd yn bygwth hyfywedd ariannol pob busnes os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud ar unwaith. Caerdydd yw un o'r dinasoedd dan fygythiad fwyaf oherwydd newid yn yr hinsawdd a lefelau môr uwch.  Mae cost ymladd newid yn yr hinsawdd yn sylweddol, ond mae cost peidio â gweithredu yn llawer uwch. Bydd buddsoddi yn nyfodol y ddinas ac adeiladu system drafnidiaeth fodern yn adfywio ein heconomi leol, hybu cynhyrchiant, a chreu mwy o gyfleoedd gwaith - gan wneud ein dinas yn lle deniadol ar gyfer busnes.

Mae llawer o dystiolaeth yn dangos bod cynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, yn hytrach na rhwydweithiau ceir modur, yn gwella'r amgylchedd busnes, gan hefyd wneud bywyd yn well i weithwyr a chwsmeriaid.

 

36 Ydych chi wedi ystyried yr effaith ar wahanol gwmnïau fesul sector a maint?

 

Rydyn ni'n cydnabod y bydd y cynllun yn cael mwy o effaith ar rai sectorau busnes, gyda mentrau bach yn wynebu mwy o straen ariannol. Rydyn ni'n cymryd dyfodol cymuned fusnes Caerdydd o ddifri ac rydyn ni wrthi'n ymgynghori â busnesau yn y ddinas i ddatblygu cynllun sy'n gweithio i bawb. Rydyn ni eisiau sicrhau bod busnesau'n parhau i fod yn gystadleuol wrth i ni gyflymu taith Caerdydd tuag at fod yn ddinas i'r dyfodol.

 

37 A gaf i fanylion y cynllun Taliad Defnyddiwr Ffordd, gwybodaeth dechnegol, a rhaglen weithredu y gallaf eu rhannu â'm staff? A fydd y Cyngor yn cefnogi rhaglen gyfathrebu fel hyn, ac yn rhoi cyngor yn gyson i reolwyr a staff?

Wrth i'r Cyngor ymchwilio i wahanol gynlluniau Tâl Defnyddwyr Ffyrdd bydd angen achos busnes llwyddiannus a thystiolaeth y gall y model busnes ehangach weithio.  Bydd y broses o lunio achos busnes yn cynnwys ymgysylltu â'r gymuned fusnesau.  Bydd cyfleoedd i gyfrannu at amcanion, dyluniad, a dull gweithredu unrhyw gynllun.  Megis dechrau'r broses yr ydyn ni.  Rydyn ni wedi ymrwymo i ymgysylltu'n barhaus ac mewn ffordd ystyrlon cyn gwneud unrhyw argymhellion i'r Cabinet, a fydd yn penderfynu yn y pen draw ar unrhyw gynllun Taliad Defnyddiwr Ffordd.

 

Os yw'r ymchwiliadau'n gadarnhaol, yn realistig gellid rhoi'r cynllun ar waith erbyn 2027. Byddai hynny hefyd yn rhoi amser i roi cynlluniau cyfathrebu rhagweithiol ar waith, a gallai hynny gynnwys sesiynau allgymorth a gwybodaeth i fusnesau.  Byddai adborth gan y gymuned fusnes am y ffordd orau o gyflwyno unrhyw gynllun yn cael ei groesawu.

 

 

Manteision y cynllun

38 Beth yw cost trawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd?  Faint o refeniw rydych chi'n disgwyl ei godi drwy'r cynllun hwn?

Bydd yr achos busnes yn ystyried gwahanol gynlluniau Tâl Defnyddwyr Ffyrdd, y refeniw y byddai pob opsiwn yn ei greu, a beth sy'n bosibl i'n rhwydwaith trafnidiaeth o ychwanegu'r incwm hwnnw at ffynonellau cyllid grant sydd eisoes ar gael.  Hyd yn hyn, nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud ar gynllun penodol. Fodd bynnag, byddai unrhyw refeniw o daliadau defnyddiwr ffordd yn mynd at flaenoriaethau trafnidiaeth.

39 Sut byddai refeniw o Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn cael ei ddefnyddio? A yw'n niwtral o ran refeniw?

Mae Caerdydd a'r rhanbarth eisoes wedi gwneud ymrwymiadau i greu system drafnidiaeth gynaliadwy lawn erbyn 2030.  Fodd bynnag, mae'r gallu i greu system drafnidiaeth lanach, wyrddach, a fforddiadwy sy'n gallu gwella ansawdd aer, helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, a gwella iechyd a lles, yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol.

 

Bydd yr arian o gynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd, ynghyd ag arian sydd ar gael gan y Llywodraeth, yn ein helpu i ddarparu'r canlynol yn llwyddiannus:

 

Cyn i unrhyw gynllun talu gael ei gyflwyno, rydyn ni'n credu y byddai angen i'r mentrau canlynol fod ar gael i'r cyhoedd:

  • Cyflwyno tocynnau bws £1 ar lwybrau allweddol.
  • Gwasanaethau bws gwell ac ehangach.
  • Cam 1 o'r gwaith i gyflwyno tram o'r Orsaf Ganolog i Orsaf Pierhead yn y Bae, teithiau amlach ar linellau Coryton a'r Ddinas.
  • Gwelliannau cymudo rhanbarthol.

 

40 A fydd gennym lais o ran sut mae'r arian yn cael ei wario?

Hyd yn hyn, nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud ar gynllun penodol.  Fodd bynnag, byddai unrhyw refeniw o daliadau defnyddiwr ffordd yn cael ei fonitro a'i reoli gan y Cyngor gydag ymrwymiad clir i gyfeirio pob incwm net tuag at flaenoriaethau trafnidiaeth. Bydd cyfle wedyn i weddnewid nid yn unig system drafnidiaeth Caerdydd ond hefyd, i raddau helaeth, amgylchedd, iechyd a lles, targedau newid hinsawdd, rhagolygon economaidd a chynhyrchiant y ddinas.

41 Pryd galla i ddechrau gweld buddion o unrhyw gynllun Taliad Defnyddiwr Ffordd?

Bydd yn bwysig cyflwyno buddion trafnidiaeth newydd cyni unrhyw system Tâl Defnyddwyr Ffyrdd gael ei chyflwyno. Mae'r rhaglen bresennol yn awgrymu y gallai hynny fod erbyn 2027.   Byddai'r gwelliannau canlynol i drafnidiaeth yn cael eu blaenoriaethu yn y lle cyntaf:

  • Tocynnau bws £1 ar lwybrau allweddol.
  • Gwasanaethau bws gwell ac ehangach.
  • Cam 1 o'r gwaith i gyflwyno tram o'r Orsaf Ganolog i Orsaf Pierhead yn y Bae, teithiau amlach ar linellau Coryton a'r Ddinas.
  • Gwelliannau i seilwaith cymudo rhanbarthol.

 

 

Ymgynghori ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd

 

42 Oes gen i lais ynghylch y Tâl Defnyddwyr Ffyrdd arfaethedig?

Rydyn ni wedi ymrwymo i ymgysylltu â chi a gwrando ar eich pryderon mewn ffordd ymarferol.  Rydyn ni'n credu y bydd ymgysylltu ystyrlon yn helpu'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol yng Nghaerdydd i ddeall unrhyw gynllun yn iawn. Bydd hefyd yn ein galluogi i deilwra'r cynllun a rhoi cymorth i drigolion, defnyddwyr priffyrdd rheolaidd, cyrff iechyd cyhoeddus a chwmnïau trafnidiaeth, mewn modd sy'n gweithio i chi. Credwn fod rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid llwyddiannus yn hanfodol er mwyn cyflwyno cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn llwyddiannus.  Yn ogystal â hynny, bydd y Cyngor yn cynnal rhaglen ymgysylltu aml-haenog gan gynnwys paneli grwpiau ffocws trigolion. Bydd hynny'n sicrhau llais a chynrychiolaeth briodol i boblogaeth Caerdydd.

 

Byddwn yn ymgysylltu â chynrychiolwyr o ystod o grwpiau cymunedol a wardiau, pobl ifanc, pobl â nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb ac eraill. Byddan nhw'n dysgu am y problemau a'r ystyriaethau, yn adnabod cyfleoedd ac opsiynau, yn pwyso a mesur, ac yn gwneud argymhellion. Bydd y gwaith sy'n dod allan o'r broses hon yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod yr achos busnes yn seiliedig ar y wybodaeth lawn.

 

43 Pryd y byddwch chi'n ymgynghori â ni?

Bydd rhywfaint o ymgysylltu yn dechrau gyda rhanddeiliaid ym mis Mai yn rhan o'r gwaith astudio sy'n ceisio diffinio'r amcanion a nodi cwmpas llawn pob opsiwn.  Bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn digwydd ar restr fer o opsiynau yn hwyrach yn 2023.  Byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi'n rheolaidd.

 

44 A fyddwch yn cynnal refferendwm/pleidlais ar Dâl Defnyddwyr Ffyrdd?

Nid yw'r Cyngor yn bwriadu cynnal refferendwm, ond trwy broses ymgynghori drylwyr rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr achos busnes wedi'i lunio gyda barnau pawb sydd â diddordeb yn y cynllun mewn cof.   Bydd cyfleoedd i gyfrannu at amcanion, dyluniad, a dull gweithredu unrhyw gynllun. Megis dechrau'r broses yr ydyn ni.  Rydyn ni wedi ymrwymo i ymgysylltu'n barhaus ac mewn ffordd ystyrlon cyn gwneud unrhyw argymhellion i'r Cabinet.  Byddai unrhyw gynllun Taliad Defnyddiwr Ffordd yn cael ei ystyried gan Gyngor Caerdydd drwy brosesau gwneud penderfyniadau arferol y Cabinet.   Bydd y penderfyniad yn cael ei lywio gan y gwaith astudio a wneir yn unol â chanllawiau Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru i lunio achos busnes cadarn.

45 Beth fydd yn digwydd i fy ymateb?  A fydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu rhyddhau?

Mae angen ymgynghoriad helaeth i lywio'r broses o baratoi'r achos busnes llawn.   Bydd ymgysylltu yn dechrau gyda rhanddeiliaid ym mis Mai ar waith astudio Cam 1 WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) sy'n ceisio diffinio'r amcanion a nodi cwmpas llawn pob opsiwn.  Bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn digwydd ar restr fer o opsiynau yn hwyrach yn 2023 yn rhan o astudiaeth Cam 2 WelTAG.  Bydd yr astudiaeth hon yn argymell yr opsiwn a ffefrir ar gyfer paratoi achos busnes llawn sef Cam 3.  Bydd y canlyniadau o ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghori'n llawn â'r cyhoedd yn cael eu cyhoeddi yn rhan o astudiaeth Cam 2 WelTAG pan fydd yr opsiwn a ffefrir dan ystyriaeth y Cabinet.  Byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi'n rheolaidd.

46 Ydy hyn yn rhan o'r rhwydwaith Cymdogaethau Traffig Isel - fydd parthau'n cael eu sefydlu yn y ddinas?

Na fydd. Dydyn ni ddim yn ystyried y mathau hyn o barthau yn rhan o'r gwaith yma.

 

47 Oni fydd unrhyw daliad yn effeithio'n anghymesur ar bobl dlotach?

 

Rydym yn gwybod mai'r bobl yn ein cymunedau tlotaf sy'n anadlu'r aer mwyaf brwnt ac yn dioddef y cyfraddau gwaethaf o asthma plentyndod ac afiechydon eraill, ac eto nhw sydd lleiaf tebygol o fod yn berchen ar gar. Mae gwella ein system drafnidiaeth yn hanfodol os ydyn ni am gysylltu rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig â'r cyfleoedd sydd ar gael yn y ddinas.  Rydyn ni am ailwampio ein system drafnidiaeth gyhoeddus, fel ei bod yn gweithio i holl bobl Caerdydd mewn ffordd nad yw'n gwneud ar hyn o bryd.  "Gwyddom hefyd, yng Nghaerdydd, fod y lefelau isaf o berchnogaeth ceir ymhlith pobl ifanc, pobl anabl, pobl sy'n byw yn yr arc ddeheuol a phobl o gefndir ethnig lleiafrifol. Felly, y bobl sy'n cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw nawr fydd y rhai caiff y budd mwyaf os caiff cynllun ei gyflwyno ymhen pedair neu bum mlynedd, pan fyddwn ni i gyd yn wynebu hinsawdd economaidd well gobeithio. Rydyn ni eisiau i drigolion Caerdydd wybod y byddwn ni'n rhoi ystyriaeth briodol i'r effaith y caiff unrhyw gynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd posibl ar y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.   Byddwn ni'n gwneud hynny drwy ystyried y dulliau mwyaf priodol a theg gan gynnwys eithriadau a phrisiau gostyngol.

 

48 Sut byddai unrhyw daliadau'n helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?

 

Amcangyfrifir bod tua 40% o allyriadau C02e yng Nghaerdydd yn dod o'r sector trafnidiaeth ffordd.  Gallai cynllun talu sy'n gwella trafnidiaeth gyhoeddus ac sy'n annog pobl i leihau'r defnydd o geir gael effaith fawr ar allyriadau carbon. Mae deg dweud bod allyriadau Caerdydd yn rhan fach iawn o'r allyriadau byd-eang. Serch hynny, mae Caerdydd ac awdurdodau eraill Cymru wedi dangos arweiniad ar newid hinsawdd ac maen nhw'n parhau i wneud hynny, gan wneud yfory'n well i genedlaethau'r dyfodol. Po fwyaf sy'n brwydro newid hinsawdd, y mwyaf fydd yn debyg o ddilyn. 

 

49 Os ydych chi'n awyddus i wella trafnidiaeth gynaliadwy, pam rydych chi wedi agor Stryd y Castell i geir?

Mae modelu ansawdd aer manwl bellach wedi digwydd ar gyfer Stryd y Castell a'r rhwydwaith amgylchynol ar gyfer y ddau opsiwn ac mae'r canlyniadau'n dangos bod cadw'r ffordd ar agor i draffig cyffredinol yn well o ran y buddion i'r economi a'r amgylchedd. Byddai gwahardd traffig cyffredinol ar Stryd y Castell yn creu cynnydd o ran crynodiadau Nitrogen Deuocsid (NO2) ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach. Mae lleihau lonydd ar gyfer traffig cyffredinol ar Stryd y Castell eisoes wedi dod â llygredd aer yn sicr o fewn terfynau cyfreithiol ar y stryd, a lleihau maint y traffig cyffredinol yn sylweddol o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig. Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod dau opsiwn ar gyfer Stryd y Castell yn ei gyfarfod ar ddydd Iau 27 Ebrill - gydag argymhelliad, yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, i ganiatáu i draffig cyffredinol barhau i ddefnyddio Stryd y Castell - fel y mae'n cael ei defnyddio nawr - ac i alluogi rhoi cynllun parhaol ar waith a fydd hefyd yn helpu i ddarparu mwy o wytnwch ar rwydwaith priffyrdd Caerdydd wrth i'r ddinas barhau i ddatblygu.

.

Oes cynlluniau Tâl Defnyddwyr Ffyrdd wedi'u rhoi ar waith o'r blaen?

50 Ble arall mae cynlluniau Tâl Defnyddiwr Ffordd wedi cael eu defnyddio yn y DU? Oes cynllun fel hwn wedi gweithio mewn llefydd eraill/ydych chi wedi gwneud unrhyw ymchwil/oes unrhyw ymchwil ar gael i'r effeithiau?

Mae Llundain a nifer o ddinasoedd eraill y DU wedi cydnabod mai'r unig ffordd o fynd i'r afael ag ansawdd aer isel, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gwella iechyd pobl, lleihau tagfeydd, ac adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth fodern, glân, a gwyrdd yw ystyried rhyw fath o system Tâl Defnyddwyr Ffyrdd Ffordd a/neu system rheoli galw.

Er nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar unrhyw gynllun, byddai Cyngor Caerdydd yn ymchwilio i sawl opsiwn gan gynnwys, ymhlith eraill, Tâl Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Tagfeydd, Ardaloedd Aer Glân ac ardollau parcio mewn Gweithleoedd.  Mae'r rhestr o gynlluniau yn y DU sy'n cael eu datblygu neu sydd wedi eu gweithredu yn cynnwys (dyma'r dyddiadau pan ddechreuon nhw neu y maen nhw wedi'u cynllunio):

Tâl Tagfeydd:

  • Llundain - Chwefror 2003

Parth Teithio Cynaliadwy:

  • Caergrawnt - ymgynghoriad ail gam yn 2022/23 gyda thaliadau'n dechrau o 2025 a gweithredu llawn erbyn 2027/28.

Ardaloedd Aer Glân:

  • Birmingham - Mehefin 2021
  • Bryste - Tachwedd 2022
  • Parth Allyriadau Isel Llundain - Chwefror 2008
  • Parth Allyriadau Isel Iawn Llundain - Ebrill 2019
  • Glasgow - i'w weithredu o fis Mehefin 2023
  • Newcastle - Ionawr 2023
  • Sheffield - Chwefror 2023

Ardoll parcio mewn gweithleoedd:

  • Nottingham - 2012
  • Caerlŷr - cynllun arfaethedig wedi'i dynnu'n ôl ym mis Tachwedd 2022

 

Mae amryw astudiaethau academaidd ar daliadau i ddefnyddwyr y ffyrdd, ond mae'n anodd cymharu gwahanol ddinasoedd.

 

Treialodd prifddinasSwedengynllun tâl tagfeydd yn 2006 - cynllun tollau ffordd sy'n dal ar waith yno heddiw.  Roedd canlyniadau'r treial yn dangos dim effaith neu effaith bach iawn yn unig ar wahanol sectorau manwerthu. Mewn gwirionedd, tyfodd y rhan fwyaf o sectorau manwerthu yn Stockholm ar yr un raddfa â gweddill Sweden.  

 

YnLlundaincyn cyflwyno'r tâl tagfeydd ym mis Chwefror 2003, roedd yr amser a gollwyd oherwydd tagfeydd yn costio hyd at £4m yr wythnos i economi'r ddinas (adroddiad gan UCL ar dâl tagfeydd Llundain, 2012). Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, bu cwymp mewn tagfeydd traffig o 30% a chynnydd mewn teithiau ar fysiau yng nghanol Llundain o 33% (adroddiad TfL). Adroddodd Transport for London effeithiau mwy neu lai'n niwtral ar economi Llundain, ar ôl gweithredu (y Pedwerydd Adolygiad Blynyddol gan TfL yn 2004). Gwelwyd manteision cadarnhaol tebyg yn dilyn cyflwyno'r Parth Allyriadau Isel (LEZ) maes o law a'r Parth Allyriadau Isel iawn (ULEZ) yn ddiweddarach.  Yn ystod 10 mis cyntaf ULEZ, bu cwymp mewn allyriadau nitrogen ocsid o drafnidiaeth ffordd o 35% ac mewn allyriadau C02 o 6% (Adroddiad Llyw Llundain). Rydyn ni'n cydnabod bod tirwedd drefol a natur busnesau yn Llundain yn wahanol i Gaerdydd, felly efallai na fydd modd cymharu'r effeithiau a'r manteision, ond mae manteision amgylcheddol cynlluniau o'r fath yn glir. Bydd ein hastudiaethau yn ystyried yr effaith y mae Tâl Defnyddwyr Ffyrdd yn ei chael ar fusnesau Caerdydd a pha fesurau lliniaru allai fod eu hangen.

51 Dyw Caerdydd ddim fel Llundain, felly pam y dylen ni ddefnyddio cynllun y maen nhw'n ei ddefnyddio?

Mae gan bob dinas gyd-destun gwahanol - gyda gwahanol dirweddau trefol, rhwydweithiau cludiant, heriau, cyfleoedd, demograffeg, a sefyllfaoedd economaidd-gymdeithasol, i enwi rhai.  Byddwn ni'n cyfrif am y gwahaniaethau hyn ac yn teilwra'r cynllun i weithio orau i Gaerdydd.  Trwy edrych ar gynlluniau sydd wedi'u cyflwyno yn Llundain ac mewn mannau eraill, gallwn ni ddysgu o'u llwyddiannau a'u camgymeriadau a manteisio ar y wybodaeth honno.  Gan ddefnyddio gwersi a ddysgwyd o gynlluniau eraill ochr yn ochr â'n proses ymgynghori, byddwn ni'n mabwysiadu cynllun sy'n deg ac sy'n ein helpu i adeiladu dinas lanach, wyrddach, gryfach, cystadleuol yn economaidd, a deniadol gyda llai o lygredd ac opsiynau trafnidiaeth gwell.  

 

Mae Caerdydd yn ganolog i lwyddiant economaidd, wleidyddol a diwylliannol Cymru.  Rydyn ni'n ddinas sydd wedi tyfu'n sylweddol ers datganoli yn 1998. Mae'n fuddsoddiad hirdymor yn ein heconomi: Mae'n rhan o weledigaeth hirdymor i adeiladu dinas sydd wedi'i chysylltu'n well i adfywio ein heconomi leol.

 

52 Sut bydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad?

Mae angen paratoi achos busnes i weithio tuag at benderfyniadau Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru ar gynllun talu posib yn y dyfodol.  Bydd yr achos busnes hwn yn seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil a gwaith ymgysylltu gan ddilyn Canllawiau WelTAG Llywodraeth Cymru.  Mae'r camau cyntaf yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i adnabod y problemau a'r materion o ran trafnidiaeth, nodi'r amcanion strategol sydd angen sylw fwyaf a datblygu rhestr hir o opsiynau a fydd yn sicrhau'r canlyniadau a fwriedir.

 

Ynglŷn â'r broses WelTAG

53 Beth yw WelTAG?

Mae canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) yn helpu i gynllunio rhaglenni trafnidiaeth, polisïau, a phrosiectau. Canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2022 | LLYW. CYMRU

Bydd ein gwaith astudio WelTAG yn cynnwys ymgysylltu llawn â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol i adeiladu'r achos busnes dros gynllun talu.  Mae'n cynnwys y camau canlynol hyd at gwblhau a monitro ar ôl y cynllun:

 

 

Camau

Disgrifiad

Cam 1: diffinio'r broblem, beth mae pobl eisiau a pha opsiynau sydd yna

Achos Busnes Amlinellol:  Adnabod problemau a materion, amcanion ac ystod eang o opsiynau sy'n seiliedig ar ymgynghoriad â rhanddeiliaid ac sy'n cael eu hasesu yn erbyn yr amcanion a'r deilliannau gydag argymhelliad i fwrw ymlaen i asesiad manylach o restr fyrrach o opsiynau yng Ngham 2.

 

Cam 2:  Edrych ar yr opsiynau a chael adborth gan bobl

 

Asesiad o restr fer o opsiynau seiliedig ar ymgynghoriad cyhoeddus: Bydd adroddiad Cam 2 yn argymell opsiwn a ffefrir a fyddai'n cael ei argymell gan Grŵp Adolygu yn unol â'r Canllawiau WelTAG (Sylwer: bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei ystyried gan y Cabinet).   Bydd y Cabinet yn ystyried ymatebion o ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgynghoriad cyhoeddus, yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ac argymhelliad yr astudiaeth i ddewis yr opsiwn i'w asesu drwy Achos Busnes Llawn Cam 3 WelTAG.

Cam 3:Gwneud cynllun ar gyfer yr opsiwn gorau

Achos busnes llawn o'r opsiwn a ffefrir gan y Cabinet gan gynnwys dyluniad cychwynnol, amcangyfrifon costau, rhagolygon refeniw, risgiau, mesurau lliniaru ac amserlenni.  Byddai'r adroddiad yn argymell a oes achos i ddechrau gweithredu Taliad Defnyddiwr Ffordd yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cabinet, gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb.

 

Cam 4:paratoi'r cynllun a gwneud yn siŵr mai dyna'r peth iawn i'w wneud

 

Cyflwyno'r Taliad Defnyddwyr Ffyrdd gan gynnwys dyluniad manwl, cymeradwyaethau cynllunio (os oes eu hangen) a llunio'n derfynol unrhyw orchmynion lle gallai fod angen cymeradwyaeth weinidogol.  Byddai'r trefniadau ariannu, cytundebau cyfreithiol, rheoli, hysbysiadau, seilwaith, gorfodi a threfniadau cefn swyddfa yn cael eu paratoi unwaith y bydd unrhyw orchmynion yn cael eu cadarnhau, ac unrhyw ganiatâd cynllunio sydd eu hangen yn cael ei roi.  Gall y broses o ofyn am gymeradwyaeth gan Weinidog arwain at ymchwiliad cyhoeddus a fyddai'n gohirio cadarnhad o'r gorchmynion yn sylweddol.

 

Cam 5:Monitro ôl-gynllun

Monitro ôl-gynllun i adrodd canlyniadau'r cynllun a chofnodi unrhyw wersi a ddysgwyd.