Back
Map o'r awyr o goed yn helpu lleihau'r risg o lifogydd dŵr wyneb yng Nghaerdydd

27.3.23

Mae map o'r awyr o goed yn helpu Cyngor Caerdydd i leihau'r risg o lifogydd dŵr wyneb.

Mae'r Map Coed Cenedlaethol, a grëwyd gan Bluesky International, yn darparu data uchder, lleoliad a maint canopi cywir ar gyfer mwy na 400 miliwn o goed ledled y DU. Mae gwybodaeth o'r mapiau, ynghyd â data sy'n manylu ar leoliad gylïau draenio priffyrdd Caerdydd yn galluogi rhaglenni glanhau ac ysgubo strydoedd, ynghyd ag ymgysylltu â'r gymuned, i gael eu blaenoriaethu ar gyfer ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o ddail yn cwympo'n rhwystro draeniau.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd: "Wrth i Gaerdydd brofi tywydd cynyddol eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd, mae llifogydd dŵr wyneb yn peri risg gynyddol, ac mae hon yn ffordd syml ond hynod effeithiol o ddefnyddio deallusrwydd sy'n seiliedig ar leoliad i sicrhau manteision gweithredol."

Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor gyfrifoldeb am tua 100,000 o gylïau  priffyrdd, neu ddraeniau (pyllau wedi'u gorchuddio gan gratiau metel agored sydd fel arfer wedi'u lleoli ar ymyl y briffordd), sydd wedi'u cynllunio i ddraenio dŵr glaw, a dŵr ffo arall, i system ddraenio lle gellir ei gyfeirio i bwynt rhyddhau priodol.

Fel rhan o'r set ddata genedlaethol, mae Map Cenedlaethol Coed Bluesky wedi casglu data o goed 3 metr a thalach yn ardal Caerdydd. Gan ddefnyddio'r System Gwybodaeth Ddaearyddol ffynhonnell agored QGIS, i gymharu agosrwydd coed a gylïau, barnwyd bod yn agos at 5,000 neu bum y cant o gylïau mewn perygl o gwymp dail.

Mae cymwysiadau eraill y data Bluesky sy'n cael ei ddefnyddio gan dimau yng Nghyngor Caerdydd yn cynnwys cynllunio, draenio a choedyddiaeth. Er enghraifft, mae'r data yn helpu gyda chymeradwyo'r Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau), sy'n orfodol yng Nghymru ar gyfer datblygiadau sy'n 100 metr sgwâr neu fwy ac yn caniatáu asesu effaith coed ar fathau eraill o gyrsiau dŵr i helpu atal llifogydd. Mae data Map Coed Cenedlaethol hefyd yn helpu coedwyr i gynllunio gwaith cynnal a chadw ar gyfer coed gwarchodedig a llywio strategaethau plannu ar gyfer parciau a choedwigaeth drefol.

Ychwanegodd Ralph Coleman, Cyfarwyddwr Gwerthu Bluesky, "Yr adborth a gawn yn rheolaidd gan ddefnyddwyr y Map Coed Cenedlaethol yw ei fod yn galluogi gwneud gwaith dadansoddol ar y bwrdd gwaith tra y gallai fod angen ymweliadau safle o'r blaen, mae hyn yn arbed amser ac adnoddau gwerthfawr. Mae'r Map Coed Cenedlaethol yn cyflwyno mewnwelediadau cywir yn gyflym, gan gwtogi amseroedd arweiniol ar gyfer prosiectau gwerthfawr sy'n cyfrannu at ddiogelwch y cyhoedd. Mae'r data'n cael ei ddefnyddio gan ystod eang o fusnesau a sefydliadau o awdurdodau lleol a'r byd academaidd i benseiri a chynllunwyr, cwmnïau ynni adnewyddadwy a sefydliadau amgylcheddol."

Fe'i crëwyd gan ddefnyddio algorithmau arloesol a thechnegau prosesu delweddau, gan ddefnyddio'r data ffotograffiaeth a thiroedd mwyaf diweddar o'r awyr ar gyfer Prydain Fawr ac Iwerddon Lansiwyd y Map Coed Cenedlaethol dros 11 mlynedd yn ôl, i'w ddefnyddio yn y sector yswiriant i ddechrau.