Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 03 Mawrth 2023

Dyma'ch diweddariad Ddydd Gwener, yn cynnwys: ffilm yn dangos ein cynllun byw yn y gymuned newydd; ymddiriedolaeth Parc Maendy yn gwneud penderfyniad ar gyfnewid tir; mae 40 yn rhagor o sefydliadau Caerdydd wedi dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig;Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn apelio am roddwyr.

 

Ffilm newydd yn dangos ein cynllun byw yn y gymuned newydd

Mae cynlluniau ar gyfer cynllun byw yn y gymuned newydd sbon i bobl hŷn wedi dod yn fyw mewn ffilm newydd o'r datblygiad yng Nglan-yr-afon.

Mae'r cynllun, a gafodd gymeradwyaeth cynllunio ym mis Rhagfyr 2021, yn rhan o raglen adeiladau newydd uchelgeisiol y Cyngor i ddarparu mwy o dai fforddiadwy yn y ddinas, a bydd yn darparu llety hyblyg, cynaliadwy, carbon isel i drigolion hŷn er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Mae'r ffilm fer newydd yn rhoi cipolwg ar yr adeilad â 41 o fflatiau a'r cyfleuster cymunedol ar Heol Lecwydd, ar safle'r neuadd gymunedol bresennol yno.   Gan arddangos ardaloedd allanol y datblygiad a fydd yn darparu 41 o fflatiau newydd, neuadd gymunedol fodern a hyblyg, ardal chwaraeon aml-ddefnydd newydd (AChA), tirlunio deniadol a gardd gymunedol llawer mwy, mae'r ffilm ar gael i'w gweldyma

Darllenwch fwy yma

 

Ymddiriedolaeth Parc Maendy yn gwneud penderfyniad ar gyfnewid tir

Byddai cyfnewid tir arfaethedig ym Mharc Maendy er budd gorau Ymddiriedolaeth Parc Maendy yn ôl penderfyniad mewn egwyddor a wnaed gan Gabinet Cyngor Caerdydd, gan weithredu yn ei rôl fel Ymddiriedolwr yr elusen. Mae'r cyfnewid yn dal i fod yn amodol ar gydsyniad y Comisiwn Elusennau.

Nawr bod y cyfnewid wedi ei gymeradwyo gan Ymddiriedolaeth Parc Maendy, bydd cais yn cael ei wneud i'r Comisiwn Elusennau i gael eu cydsyniad i dir ym Mharc Cae Delyn ddisodli rhan o'r tir ym Mharc Maendy, sydd ar hyn o bryd yn dir a ddelir mewn ymddiried gan yr elusen.

Dim ond Aelodau Cabinet na fu ag unrhyw ran flaenorol yng nghynigion datblygu'r Cyngor ar gyfer tir Parc Maendy, ac heb unrhyw fuddiant personol nac unrhyw fuddiant arall sy'n rhagfarnu, a gymerodd ran yn y broses o wneud penderfyniadau. Gadawodd pob Aelod Cabinet arall y cyfarfod.

Roedd Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy annibynnol,yn cynnwys tri aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a Moeseg, a sefydlwyd i reoli'r gwrthdaro buddiannau yn y broses o wneud penderfyniadau, eisoes wedi penderfynu bod y cyfnewid tir arfaethedig er budd gorau'r elusen ac wedi argymell cymeradwyo'r cyfnewid tir arfaethedig,

 

Darllenwch fwy yma

 

'Gwnewch y pethau bychain' - Gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr ar y cyd

Mae 40 yn rhagor o sefydliadau Caerdydd wedi dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth i'r genedl ddathlu ei nawddsant heddiw, mae'r Cyngor unwaith eto yn achub ar y cyfle i ddweud diolch yn fawr i'r holl fusnesau a chyflogwyr sy'n gweithio i wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw.

Ar adeg pan fo pwysau costau byw yn achosi pryderon difrifol i filoedd yn y ddinas, mae'r Cyngor hefyd yn galw ar sefydliadau sydd heb gael achrediad eto i ddilyn cyngor Dewi Sant trwy wneud y pethau bychain, ac ystyried yr hyn y gallan nhw ei wneud i ymuno â'r bron 200 o sefydliadau sy'n helpu i wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw trwy dalu'r Cyflog Byw gwirioneddol i'w staff.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Grŵp Llywio Dinas Cyflog Byw Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Rydyn ni i gyd yn gwybod bod llawer gormod o bobl sy'n gweithio yng Nghaerdydd yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd wrth i'r argyfwng costau byw gael effaith ddybryd. Rydyn ni eisiau codi ymwybyddiaeth o'r Cyflog Byw gwirioneddol, y gwahaniaeth mae wedi'i wneud i fywydau miloedd o bobl ar draws y ddinas a'r buddion mae'n eu rhoi i sefydliadau."

Mae pob cyflogwr Cyflog Byw achrededig yn y ddinas yn helpu i wneud gwahaniaeth mawr ond ar y cyd maen nhw'n gwneud gwahaniaeth enfawr.

Darllenwch fwy yma

 

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn apelio am roddwyr

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dod i'ch ardal chi, ac rydyn ni angen eich help! Beth am ddod draw, iri o ni wrth ein bodd yn cwrdd â chi. Oeddech chi'n gwybod mai dim ond 3% o'r boblogaeth sy'n Rhoddwyr Gwaed, felly gadewch I ni geisio cynyddu'r nifer hwnnw - dim ond 45 munud mae'n ei gymryd I helpu I achub bywyd.  Bydd ein tîm yn cymryd gofal da ohonoch chi, ac mae gennym ddewis hyfryd o fisgedi!

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dod i'ch ardal chi

Mewn ychydig o gliciau, gallech ymuno â ni i helpu i achub a gwella bywydau cleifion ar draws Cymru

Mwy yma:https://wbs.wales/CardiffLordMayor