Back
Ffilm newydd yn dangos ein cynllun byw yn y gymuned newydd


 3/3/23

Mae cynlluniau ar gyfer cynllun byw yn y gymuned newydd sbon i bobl hŷn wedi dod yn fyw mewn ffilm newydd o'r datblygiad yng Nglan-yr-afon.

 

Mae'r cynllun, a gafodd gymeradwyaeth cynllunio ym mis Rhagfyr 2021, yn rhan o raglen adeiladau newydd uchelgeisiol y Cyngor i ddarparu mwy o dai fforddiadwy yn y ddinas, a bydd yn darparu llety hyblyg, cynaliadwy, carbon isel i drigolion hŷn er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

 

Mae'r ffilm fer newydd yn rhoi cipolwg ar yr adeilad â 41 o fflatiau a'r cyfleuster cymunedol ar Heol Lecwydd, ar safle'r neuadd gymunedol bresennol yno.   Gan arddangos ardaloedd allanol y datblygiad a fydd yn darparu 41 o fflatiau newydd, neuadd gymunedol fodern a hyblyg, ardal chwaraeon aml-ddefnydd newydd (AChA), tirlunio deniadol a gardd gymunedol llawer mwy, mae'r ffilm ar gael i'w gweld yma

 

Bydd Encon Construction Limited yn dechrau gweithio ar y cynllun, a fydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol i gefnogi byw'n annibynnol ac yn helpu i fynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn, yn ystod y Gwanwyn hwn ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau ddiwedd haf 2024.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae'r arddangosiad cyfrifiadurol newydd o'n cynllun byw yn y gymuned ar Heol Lecwydd yn dangos adeilad newydd trawiadol a fydd yn trawsnewid y rhan hon o'r gymuned.  Mae'r cynllun wedi ei ddylunio i safon uchel iawn ac mae hynny i'w weld yn glir yn y ffilm.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynllun yn datblygu'n fuan iawn ac yn cael ei gwblhau, pan fydd trigolion a phobl yn y gymuned leol yn elwa o ased cymunedol newydd sbon, hynod gynaliadwy."

Yn ei gyfarfod ddoe (ddydd Iau 2 Mawrth), cymeradwyodd y Cabinet dyrannu'r tir ar safle'r hen ganolfan gymunedol, a'r maes parcio cyfagos, o'r Gronfa Gyffredinol i'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer datblygu'r cynllun hwn.

Gallwch weld yr adroddiad llawn yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7959&LLL=0