Back
Ymddiriedolaeth Parc Maendy yn gwneud penderfyniad ar gyfnewid tir

Byddai cyfnewid tir arfaethedig ym Mharc Maendy er budd gorau Ymddiriedolaeth Parc Maendy yn ôl penderfyniad mewn egwyddor a wnaed gan Gabinet Cyngor Caerdydd, gan weithredu yn ei rôl fel Ymddiriedolwr yr elusen. Mae'r cyfnewid yn dal i fod yn amodol ar gydsyniad y Comisiwn Elusennau.

Nawr bod y cyfnewid wedi ei gymeradwyo gan Ymddiriedolaeth Parc Maendy, bydd cais yn cael ei wneud i'r Comisiwn Elusennau i gael eu cydsyniad i dir ym Mharc Cae Delyn ddisodli rhan o'r tir ym Mharc Maendy, sydd ar hyn o bryd yn dir a ddelir mewn ymddiried gan yr elusen.

Dim ond Aelodau Cabinet na fu ag unrhyw ran flaenorol yng nghynigion datblygu'r Cyngor ar gyfer tir Parc Maendy, ac heb unrhyw fuddiant personol nac unrhyw fuddiant arall sy'n rhagfarnu, a gymerodd ran yn y broses o wneud penderfyniadau. Gadawodd pob Aelod Cabinet arall y cyfarfod.

Roedd Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy annibynnol,yn cynnwys tri aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a Moeseg, a sefydlwyd i reoli'r gwrthdaro buddiannau yn y broses o wneud penderfyniadau, eisoes wedi penderfynu bod y cyfnewid tir arfaethedig er budd gorau'r elusen ac wedi argymell cymeradwyo'r cyfnewid tir arfaethedig, yn amodol ar y chwe amod canlynol, y cytunwyd ar bob un ohonynt erbyn hyn:

  1. Mae'r felodrom newydd i'w adeiladu ac i fod yn weithredol cyn i'r cyfnewid tir arfaethedig ddigwydd.
  2. Mae'r telerau ac amodau a argymhellir yn adroddiad diweddaraf y Syrfëwyr Cymwys yn berthnasol; gan gynnwys yn benodol o ran darpariaeth dros amser - bod y 50% o'r cynnydd mewn gwerth i'w dalu i'r Ymddiriedolaeth os yw'r safle'n cael ei werthu ar gyfer datblygiad yn y dyfodol yn ystod cyfnod o 75 mlynedd o ddyddiad rhyddhau'r cyfamod cyfyngu (a fyddai'n rhoi hawl i'r Ymddiriedolaeth dderbyn cyfran o unrhyw gynnydd posibl mewn gwerth os ceir caniatâd cynllunio gweithredadwy ar gyfer defnydd gwerth uwch o'r tir).
  3. Rhaid gwneud gwaith gwella yng Nghae Delyn (gan gynnwys draenio'r safle yn well, llwybrau cerdded, goleuadau a mesurau rhesymol a chymesur eraill i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal) ac i'r tir a gadwyd yn Maendy, er mwyn gwella ei werth amwynder at ddibenion bodloni amcanion elusennol yr Ymddiriedolaeth.
  4. Bydd trefniadau i'w gwneud rhwng yr Ymddiriedolaeth a'r Cyngor i gael prydles neu drwydded i'w chytuno er mwyn talu am y gwaith cynnal a chadw a rheoli'r tir yng Nghae Delyn a'r Maendy yn y dyfodol gan y Cyngor, heb unrhyw gostau refeniw parhaus i'r Ymddiriedolaeth sy'n fwy na'i incwm.
  5. Bydd y Cyngor yn cynnal adolygiad o drefniadau llywodraethiant a rheolaeth ariannol pob ymddiriedolaeth y mae'r Cyngor yn ymddiriedolwr ohoni.
  6. Darparu bwrdd gwybodaeth ar y safle ym Mharc Maendy er mwyn esbonio'r defnydd hanesyddol o'r safle fel Felodrom.

Bydd Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy yn cynnal cyfarfod arall (o fewn 90 diwrnod i ddyddiad ei gyfarfod diwethaf ar 23 Ionawr 2023) i gytuno ar y gwelliannau arfaethedig a argymhellir (a amlinellir yn amod 3), a allai fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach. Cytunodd y Pwyllgor, fodd bynnag, y gallai'r argymhellion a wnaed yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2023 gael eu hadrodd i'r Cabinet cyn dyddiad cyfarfod pellach y Pwyllgor er mwyn ystyried y gwaith gwella.