Back
'Gwnewch y pethau bychain’ – Gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr ar y cyd


1/3/23

Mae 40 yn rhagor o sefydliadau Caerdydd wedi dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Wrth i'r genedl ddathlu ei nawddsant heddiw, mae'r Cyngor unwaith eto yn achub ar y cyfle i ddweud diolch yn fawr i'r holl fusnesau a chyflogwyr sy'n gweithio i wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw.

 

Ar adeg pan fo pwysau costau byw yn achosi pryderon difrifol i filoedd yn y ddinas, mae'r Cyngor hefyd yn galw ar sefydliadau sydd heb gael achrediad eto i ddilyn cyngor Dewi Sant trwy wneud y pethau bychain, ac ystyried yr hyn y gallan nhw ei wneud i ymuno â'r bron 200 o sefydliadau sy'n helpu i wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw trwy dalu'r Cyflog Byw gwirioneddol i'w staff.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Grŵp Llywio Dinas Cyflog Byw Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Rydyn ni i gyd yn gwybod bod llawer gormod o bobl sy'n gweithio yng Nghaerdydd yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd wrth i'r argyfwng costau byw gael effaith ddybryd. Rydyn ni eisiau codi ymwybyddiaeth o'r Cyflog Byw gwirioneddol, y gwahaniaeth mae wedi'i wneud i fywydau miloedd o bobl ar draws y ddinas a'r buddion mae'n eu rhoi i sefydliadau."

 

Mae pob cyflogwr Cyflog Byw achrededig yn y ddinas yn helpu i wneud gwahaniaeth mawr ond ar y cyd maen nhw'n gwneud gwahaniaeth enfawr. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Erbyn mis Tachwedd 2025, rydym am i 300 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd, cynnydd o bron 200 nawr, gan gyflogi 95,000 o bobl y bydd 13,900 ohonynt yn cael codiad i'r Cyflog Byw gwirioneddol. 

 

"Er mwyn cyrraedd y targedau uchelgeisiol hyn, bydd angen cymorth cyflogwyr bach a mawr ar draws y ddinas.  Rydyn ni'n gofyn i bob cyflogwr 'neud y pethau Bychain' - gallai hyn gynnwys cael gwybod mwy am yCyflog Byw gwirioneddol yng Nghymru,darllen amyr hyn mae'n ei olygu i gyflogwyr a gweithwyr,cofrestru diddordebam ddod yn achrededig neu'n deall ycymorth sydd ar gaelgan Gyngor Caerdydd. 

 

"Os ydych eisoes yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, gallai fod yn dweud wrth eraill am y buddion rydych chi wedi'u gweld trwy ddod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig."

 

 

Daeth Caerdydd yn Brifddinas gyntaf y DU i gael ei chydnabod fel Dinas Cyflog Byw yn 2019 a dan arweiniad y Cyngor, Citizens Cymru, Cynnal Cymru, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a  Hyrwyddwyr Cyflog Byw eraill, mae cynnydd enfawr wedi'i wneud.

 

Mae tua 68,000 o bobl yn gweithio i'r bron 200 o gyflogwr Cyflog Byw achrededig erbyn hyn ac mae bron 11,000 o'r rheiny wedi cael codiad cyflog i'r Cyflog Byw gwirioneddol, yr ail nifer uchaf o godiadau cyflog mewn unrhyw ddinas yn y DU, ar ôl Caeredin. Ac mae Prifysgol Caerdydd wedi cyfrifo bod bron £50 miliwn yn ychwanegol wedi mynd i economi Caerdydd ers 2012 o ganlyniad i'r codiadau hyn.

 

Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae 13% o aelwydydd yng Nghaerdydd yn byw mewn tlodi ac nid yw 24,000 o bobl (11.6% o'r holl swyddi) yn cael Cyflog Byw gwirioneddol. Dyna pam mae'r tîm sy'n gyfrifol am wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw wedi gosod targedau tair blynedd newydd, gan gynnwys mynd â chyfanswm y bobl sy'n cael eu symud i'r Cyflog Byw gwirioneddol i o leiaf 13,900 erbyn mis Tachwedd 2025.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Cyflog Byw gwirioneddol, ewch iwww.cyflogbyw.cymru