Back
Landlord o Gaerdydd yn cael ei orchymyn i dalu ychydig dros £4,500

28/02/23


Mae landlord o Gaerdydd wedi cael ei orchymyn i dalu ychydig dros £4,500 am fethu ag unioni diffygion mewn dwy fflat y mae'n berchen arnynt ac yn eu rhentu allan yn Claude Road ym Mhlasnewydd.

 

Ni fynychodd Christopher Harper, o Spencer David Way yn Trowbridge, Lys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener diwethaf (24 Chwefror) ond fe'i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb.

 

Daeth yr achos diweddaraf hwn i'r amlwg ar ôl i Mr Harper wrthod cydymffurfio â hysbysiadau cyfreithiol a gyflwynwyd iddo i drwsio sawl nam yn yr eiddo rhent hyn yn dilyn erlyniad blaenorol yn ei erbyn fis Medi y llynedd.

 

Clywodd y llys nad oedd y larwm tân diffygiol, y mesurau diogelwch tân strwythurol annigonol na'r drws ffrynt anniogel yn dal wedi eu trwsio, a bod Mr Harper yn parhau i fethu â chyflwyno tystysgrifau nwy a thrydan ar gyfer yr eiddo hyn, yn unol â'r gofynion trwyddedu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid sector preifat yn cynnig gwasanaeth da iawn i'w trigolion, ond yn anffodus mae yna leiafrif sydd ddim.

 

"Pan fyddwn yn mynd â'r materion hyn i'r llys, rydym yn gwneud hyn er budd y preswylwyr sy'n byw yn yr eiddo, fel bod y diffygion a nodwyd yn cael eu trwsio a'r eiddo'n ddiogel.

 

"Mae'r achos hwn yn dangos, pan fyddwn yn erlyn landlord sector preifat yn llwyddiannus, y byddwn yn cymryd camau dilynol i sicrhau bod y problemau'n cael eu datrys. Yn yr achos hwn, daeth i'r amlwg nad oedd Mr Harper yn fodlon unioni'r namau, felly cafodd hysbysiadau cyfreithiol eu cyflwyno. Gan ei fod wedi methu ag ymateb a gweithredu ar yr hysbysiadau cyfreithiol hyn, mae wedi'i ddwyn gerbron y llys eto a'i orchymyn i dalu £4,500 yn rhagor.

 

"Bydd ein swyddogion yn parhau i weithredu ar gudd-wybodaeth yr ydym yn ei derbyn ac, yn yr achos hwn, byddwn yn parhau i gysylltu â'r landlord nes bod y diffygion wedi'u cywiro."

 

Cafodd Mr Harper ddirwy o £3,000, a'i orchymyn i dalu costau o £360 a gordal dioddefwr o £1200 am fethu â gweithredu ar yr hysbysiadau cyfreithiol a gyflwynwyd iddo.