Back
Coffáu Pennaeth Du Cyntaf Cymru mewn gwaith celf trawiadol

28/2/2023

Mae murlun enfawr o Betty Campbell MBE wedi cael ei baentio ar flaenYsgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown, i goffáu pennaeth du cyntaf Cymru a dathlu'rcyfraniadau a wnaeth hi i addysg yng Nghymru a'r byd ehangach.

 

Roedd Mrs Campbell yn bennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart rhwng 1965 a 1999 gan gysegru ei bywyd i'r ysgol. Roedd hi'n arloeswr ym maes addysg aml-ddiwylliannol ac amrywiaeth, ac yn un o sylfaenwyr Mis Hanes Pobl Dduon, gan roi addysgu hanes a diwylliant pobl dduon ar gwricwlwm yr ysgol.

Mae plant yr ysgol wedi dysgu am ei hetifeddiaeth ac roeddent am gael rhywbeth ar safle'r ysgol i gofio amdani. Gyda chefnogaeth gan y Corff Llywodraethu a chyllid gan Brifysgol Caerdydd, cafodd yr artist Bradley Rmer a baentiodd y teitl eiconig 'My City, My Shirt' ei gomisiynu i baentio'r murlun uchder 10 metr.

Dywedodd Helen Borley, Pennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart:  "Rydym yn hynod falch o gysylltiad ein hysgol â Mrs Campbell fel pennaeth cyntaf Mount Stuart a Phennaeth Du cyntaf Cymru. Mae hi'n ysbrydoliaeth barhaus i ni a'n cymuned. Mae gwaddol Mrs Campbell yn neges bwerus o'r hyn y gallwch ei gyflawni gyda phenderfyniad ac awydd." 

Dywedodd disgyblion yr ysgol Aqeel a Joudi: "Mae'n ein hatgoffa mai Mrs Campbell oedd y pennaeth du cyntaf yng Nghymru, mae'n ein hysbrydoli i beidio byth â rhoi'r gorau iddi a dilyn ein breuddwydion, waeth beth fo lliw eich croen neu beth sydd yn eich ffordd.

"Mae'r murlun yma'n cwblhau'r ysgol! Os bydd ymwelwyr yn dod byddan nhw'n ei edmygu!"

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Betty Campbell yn ffigwr eiconig yr oedd ei dull o ymdrin ag addysg ac amrywiaeth wedi cael effaith ragorol ar bobl Butetown, Caerdydd a thu hwnt.

"Rwy'n gwybod bod llawer o blant o'r ysgol wedi helpu yn y broses ddylunio cerflun Betty Campbell yn Sgwâr Canolog Caerdydd ac, erbyn hyn, mae ganddyn nhw eu hunain rywbeth i'w hatgoffa o Betty, gan ymfalchïo yn yr ysgol. Mae'r paentiad gwych hwn yn atgoffa'r holl gymuned o'r dreftadaeth leol a'r rhan sylweddol chwaraeodd Betty ynddi."

Dywedodd Damian Walford-Davies, Dirprwy Is-Ganghellor: "Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad yn ein prifddinas amrywiol a ffyniannus sy'n falch o'i Chymreictod. Rydym ar ein taith ein hunain tuag at sicrhau cydraddoldeb hiliol yn ein Prifysgol ac rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol ac i gefnogi cydraddoldeb hiliol ledled Cymru. 

"Mae Betty Campbell, y pennaeth benywaidd du cyntaf yng Nghymru, yn arwr ac yn ymgyrchydd Cymreig ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol. Cafodd ei hymdrechion diflino i sicrhau cydraddoldeb hiliol effaith enfawr yng Nghaerdydd ac yng Nghymru. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ariannu'r prosiect murlun hwn i gydnabod y cyfraniad enfawr a wnaeth Betty Campbell at ein cymuned yng Nghaerdydd, ac i gefnogi ymdrechion i goffáu ei hetifeddiaeth yn ein dinas."