Back
Y newyddion gennym ni - 27/02/23

Image

24/02/23 - Helpu i fynd i'r afael â phwysau tai'r dinas

Gallai perchnogion eiddo gwag hirdymor yng Nghaerdydd wynebu cynnydd pellach yn eu taliadau treth gyngor o dan gynlluniau newydd i helpu i leddfu'r pwysau ar argaeledd tai yn y ddinas. 

Darllenwch fwy yma 

Image

23/02/23 - Ymddiriedolaeth Parc Maendy i wneud penderfyniad ar gyfnewid tir

Mae penderfyniad ynghylch a yw cyfnewidiad tir arfaethedig ym Mharc Maendy er budd gorau Ymddiriedolaeth Parc Maendy i'w wneud gan Gyngor Caerdydd ar 2 Mawrth, gan weithredu yn ei rôl fel Ymddiriedolwr yr elusen. 

Darllenwch fwy yma 

Image

23/02/23 - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023:

Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 yw "DigitalALL: Innovation and technology for gender equality" ac mae Addewid Caerdydd yn apelio ar fenywod o'r diwydiannau gwyddoniaeth a thechnoleg i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf 

Darllenwch fwy yma 

Image

22/02/23 - Datgelu cynlluniau manwl ar ddyfodol 'Gwyrddach, Tecach, Cryfach' Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol diweddaraf - glasbrint sy'n amlinellu ei weledigaeth o sut y bydd y ddinas yn datblygu dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt. 

Darllenwch fwy yma 

Image

22/02/23 - Datgelu cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd

Mae cyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, yn helpu i greu swyddi newydd, yn adeiladu cartrefi cyngor y mae mawr eu hangen, a'i nod yw helpu Caerdydd i ddod yn ddinas Gryfach, Wyrddach a Thecach - wedi cael ei datgelu gan Gyngor Caerdydd. 

Darllenwch fwy yma 

Image

21/02/23 - Gorchymyn i dipiwr anghyfreithlon dalu dros £1,500 yn Llys Ynadon Caerdydd

Cafodd Nazir Ahmed, o Heol Albany, Caerdydd orchymyn i dalu ychydig dros £1,500 yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher diwethaf (15 Chwefror) am dipio anghyfreithlon yn East Bay Close yn Butetown. 

Darllenwch fwy yma