Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 24 Chwefror 2023

Dyma'ch diweddariad Ddydd Gwener, yn cynnwys: Datgelu cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd; Datgelu cynlluniau manwl ar ddyfodol 'Gwyrddach, Tecach, Cryfach' Caerdydd; Merched o fyd gwyddoniaeth a thechnoleg i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

 

Datgelu cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd

Mae cyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, yn helpu i greu swyddi newydd, yn adeiladu cartrefi cyngor y mae mawr eu hangen, a'i nod yw helpu Caerdydd i ddod yn ddinas Gryfach, Wyrddach a Thecach - wedi cael ei datgelu gan Gyngor Caerdydd.

Yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaeth y cyngor ymgynghori ledled y ddinas ar sut y gallai bontio diffyg ariannol o £24m yn ei gyllideb. Gofynnwyd i'r trigolion am eu barn ar sawl cynnig arbed costau a syniadau cynhyrchu arian a allai helpu diogelu'r gwasanaethau yr oeddent yn teimlo oedd bwysicaf iddyn nhw.

Fe wnaeth bron i 6,000 o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad chwe wythnos a ofynnodd ystod eang o gwestiynau, gan gynnwys:

  • P'un a ddylai llyfrgelloedd, hybiau, a chanolfannau ailgylchu gau ar ddiwrnodau penodol neu leihau oriau er mwyn arbed arian
  • P'un a oeddent o blaid caniatáu i hyrwyddwr allanol redeg Neuadd Dewi Sant - allai arbed hyd at £0.8m y flwyddyn mewn cymorthdaliadau blynyddol
  • Troi Amgueddfa Caerdydd yn weithrediad symudol i arbed £266k
  • Codi taliadau ar eitemau fel parcio trigolion, a chladdfeydd ac amlosgiadau.

 

Nawr, wedi'r ymgynghoriad hwnnw, mae'r cyngor yn cyflwyno cynigion fydd yn pontio'r diffyg ariannol o £24m yn ei gyllideb tra'n canolbwyntio ar yr hyn mae trigolion yn ei ddweud sydd bwysicaf iddyn nhw.

Mae'r cynigion yn cynnwys pennu unrhyw godiad y Dreth Gyngor ar 3.95% - llawer yn is na graddfa chwyddiant a thua £1 yr wythnos ar gyfer aelwyd Band D. Dyma fyddai un o'r cynyddiadau isaf yn nhreth y cyngor a welwyd yng Nghymru eleni.

Byddai ysgolion yn cael £25m ychwanegol y flwyddyn i helpu i ddelio â chostau cynyddol, a Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant yn cael £23m ychwanegol. Byddai Amgueddfa Caerdydd yn aros ar agor yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais am y tro a byddai oriau agor mewn Hybiau a Llyfrgelloedd hefyd yn aros yr un fath, ond mae'n bwriadu ymchwilio i gynnig gan Grŵp Cerddoriaeth yr Academi i gymryd drosodd Neuadd Dewi Sant fyddai'n diogelu'r calendr clasurol a chymunedol o ddigwyddiadau wrth uwchraddio'r neuadd hefyd,  fyddai'n cael ei ymchwilio'n llawn o dan gynigion y gyllideb.  Roedd 59% o'r rhai wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad o blaid yr opsiwn hwn.

Darllenwch fwy yma

 

Datgelu cynlluniau manwl ar ddyfodol 'Gwyrddach, Tecach, Cryfach' Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol diweddaraf - glasbrint sy'n amlinellu ei weledigaeth o sut y bydd y ddinas yn datblygu dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt.

Mae'r cynllun yn ymrwymo'r Cyngor i raglen waith eang ar draws pob maes ac yn nodi'n fanwl sut y bydd yn gwella bywydau ei holl drigolion, gan osod targedau mesuradwy y gellir barnu ei berfformiad ohonynt.

Bydd yn cael ei drafod yn wreiddiol gan bwyllgorau Craffu'r Cyngor yr wythnos nesaf, cyn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 2 Mawrth a'i drafod yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 9 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae'r adroddiad yn cynnwys saith amcan lles clir sy'n dangos pa wasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd sydd eisiau cyflawni, ac adlewyrchu ein dyheadau cyffredin a'r ddealltwriaeth gyffredin o'r heriau sy'n wynebu'r ddinas.

"Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn gwneud Caerdydd yn brifddinas gryfach, decach, wyrddach.  Rydym wedi gwneud cynnydd da ers i fy ngweinyddiaeth gael ei hethol yn 2017, ac er ein bod yn delio â'r argyfwng costau byw ac etifeddiaeth y pandemig sy'n taro ein gwasanaethau a'n cymunedau, rydym yn hyderus y gallwn gyflawni ein hymrwymiadau yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."

Darllenwch fwy yma

 

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 - Merched o fyd gwyddoniaeth a thechnoleg i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 yw "DigitalALL: Innovation and technology for gender equality" ac mae Addewid Caerdydd yn apelio ar fenywod o'r diwydiannau gwyddoniaeth a thechnoleg i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd gan Adran Economaidd a Materion Cymdeithasol y Cenhedloedd Unedig yn dangos mai dim ond 19.9% o weithwyr gwyddoniaeth a pheirianneg proffesiynol y byd sy'n fenywod, a bod menywod yn lleiafrif mewn addysg Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ar 35%. Dim ond 3% sydd wedi cofrestru mewn astudiaethau Cyfathrebu a Thechnoleg Gwybodaeth.

Gyda'r nod o godi dyheadau ac ysbrydoli mwy o ferched ysgol yng Nghaerdydd i ystyried gyrfaoedd digidol yn y dyfodol, mae Addewid Caerdydd yn gweithio gydag ystod o fenywod amrywiol mewn rolau ar draws y sector i rannu eu profiadau drwy gyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. 

Darllenwch fwy yma