Back
Ymddiriedolaeth Parc Maendy i wneud penderfyniad ar gyfnewid tir

23/02/23 

Mae penderfyniad ynghylch a yw cyfnewidiad tir arfaethedig ym Mharc Maendy er budd gorau Ymddiriedolaeth Parc Maendy i'w wneud gan Gyngor Caerdydd ar 2 Mawrth, gan weithredu yn ei rôl fel Ymddiriedolwr yr elusen. 

Os caiff y cyfnewid tir ei gymeradwyo, bydd cais yn cael ei wneud i'r Comisiwn Elusennau am ei ganiatâd i dir ym Mharc Cae Delyn ddisodli rhan o'r tir ym Mharc Maendy, a ddelir dan ymddiried gan yr elusen ar hyn o bryd. 

Yn ddiweddar penderfynodd Pwyllgor Cynghori Ymddiriedolaeth Parc Maendy,yn cynnwys tri aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a Moeseg, a sefydlwyd i reoli'r gwrthdaro buddiannau yn y broses o wneud penderfyniadau, fod y cyfnewid tir arfaethedig er budd gorau'r elusen ac argymhellodd bod y Cabinet, fel Ymddiriedolwr, yn cymeradwyo'r cyfnewid tir arfaethedig, yn amodol ar chwe amod: 

  1. Bod y felodrom newydd i'w adeiladu a'i fod yn weithredol cyn i'r cyfnewid tir arfaethedig ddigwydd.

 

  1. Bod y telerau ac amodau a argymhellir yn adroddiad diweddara'r Syrfëwr Cymwysedig yn berthnasol; gan gynnwys yn benodol o ran darpariaeth gorddefnydd - bod 50% o'r codiad mewn gwerth i'w dalu i'r Ymddiriedolaeth os yw'r safle'n cael ei werthu ar gyfer datblygu yn y dyfodol yn ystod cyfnod o 75 mlynedd o ddyddiad rhyddhau'r cyfamod cyfyngu (a fyddai'n rhoi hawl i'r Ymddiriedolaeth dderbyn cyfran o unrhyw gynnydd posibl mewn gwerth os ceir caniatâd cynllunio y gellir ei weithredu ar gyfer defnydd gwerth uwch o'r tir).

 

  1. Rhaid gwneud gwaith gwella yng Nghae Delyn (gan gynnwys gwell draenio ar y safle, llwybrau cerdded, goleuadau a mesurau rhesymol a chymesur eraill i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal) ac i'r tir a gaiff ei gadw yn y Maendy, er mwyn gwella ei werth amwynder at ddibenion bodloni amcanion elusennol yr Ymddiriedolaeth.

 

  1. Mae trefniadau i'w gwneud rhwng yr Ymddiriedolaeth a'r Cyngor i gytuno ar brydles neu drwydded i dalu am y gwaith o reoli a chynnal a chadw'r tir yng Nghae Delyn a'r Maendy yn y dyfodol gan y Cyngor, heb unrhyw gostau refeniw parhaus i'r Ymddiriedolaeth sydd y tu hwnt i incwm.

 

  1. Mae'r Cyngor i gynnal adolygiad o drefniadau llywodraethiant a rheolaeth ariannol pob ymddiriedolaeth y mae'r Cyngor yn ymddiriedolwr arnynt.

 

  1. Darparu bwrdd gwybodaeth ar y safle ym Mharc Maendy er mwyn esbonio'r defnydd hanesyddol o'r safle fel Felodrom.

 

Os yw'r Ymddiriedolaeth yn cytuno gyda'r argymhelliad, a chyda pob un o'r chwe amod, caiff cais ei wneud i'r Comisiwn Elusennau i ofyn am eu caniatâd ar gyfer y cyfnewid tir. 

Os bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynnig unrhyw newidiadau i'r amodau a nodir gan y pwyllgor cynghori annibynnol, byddai'r addasiadau hyn yn cael eu cyfeirio'n ôl at y pwyllgor cynghori iddynt ystyried a fyddai'r addasiadau arfaethedig er budd gorau'r ymddiriedolaeth. 

Dim ond Aelodau Cabinet sydd heb ymwneud yn flaenorol â chynigion datblygu'r Cyngor ar gyfer tir Parc Maendy, ac nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb personol neu ragfarn arall, fydd yn cymryd rhan yn y broses benderfynu. Bydd pob Aelod Cabinet arall yn tynnu'n ôl o'r cyfarfod. 

Bydd Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy yn cynnal cyfarfod arall (o fewn 90 diwrnod i ddyddiad ei gyfarfod diwethaf ar 23 Ionawr 2023) i gytuno ar y gwelliannau arfaethedig a argymhellir (a amlinellir yn amod 3), a allai fod yn destun ymgynghori cyhoeddus pellach. Cytunodd y Pwyllgor, fodd bynnag, y gallai'r argymhellion a wnaed yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2023 gael eu hadrodd i'r Cabinet cyn dyddiad cyfarfod pellach y Pwyllgor er mwyn ystyried y gwaith gwella. 

Cyn y penderfyniad gan Ymddiriedolaeth Parc Maendy, bydd y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad yn ystyried argymhellion y Panel Cynghori Annibynnol am hanner dydd Ddydd Mercher 1 Mawrth. Gellir gweld papurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod craffu cyhoeddus hwn  yma  a bydd ffrwd fyw o gyfarfod y pwyllgor ar gael  yma. 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd, gan weithredu fel ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Parc Maendy, yn derbyn yr adroddiad ar Barc Maendy yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir am 2pm Ddydd Iau, 2 Mawrth. Bydd agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod ar gael i'w gweld yn nes at y dyddiad  yma  lle byddwch chi hefyd yn gallu gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod ar y diwrnod.