Back
Datgelu cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd

22/02/23 

Mae cyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, yn helpu i greu swyddi newydd, yn adeiladu cartrefi cyngor y mae mawr eu hangen, a'i nod yw helpu Caerdydd i ddod yn ddinas Gryfach, Wyrddach a Thecach - wedi cael ei datgelu gan Gyngor Caerdydd. 

Diagram, textDescription automatically generated

Yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaeth y cyngor ymgynghori ledled y ddinas ar sut y gallai bontio diffyg ariannol o £24m yn ei gyllideb. Gofynnwyd i'r trigolion am eu barn ar sawl cynnig arbed costau a syniadau cynhyrchu arian a allai helpu diogelu'r gwasanaethau yr oeddent yn teimlo oedd bwysicaf iddyn nhw. 

Fe wnaeth bron i 6,000 o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad chwe wythnos a ofynnodd ystod eang o gwestiynau, gan gynnwys:

  • P'un a ddylai llyfrgelloedd, hybiau, a chanolfannau ailgylchu gau ar ddiwrnodau penodol neu leihau oriau er mwyn arbed arian
  • P'un a oeddent o blaid caniatáu i hyrwyddwr allanol redeg Neuadd Dewi Sant - allai arbed hyd at £0.8m y flwyddyn mewn cymorthdaliadau blynyddol
  • Troi Amgueddfa Caerdydd yn weithrediad symudol i arbed £266k
  • Codi taliadau ar eitemau fel parcio trigolion, a chladdfeydd ac amlosgiadau.

 

Nawr, wedi'r ymgynghoriad hwnnw, mae'r cyngor yn cyflwyno cynigion fydd yn pontio'r diffyg ariannol o £24m yn ei gyllideb tra'n canolbwyntio ar yr hyn mae trigolion yn ei ddweud sydd bwysicaf iddyn nhw. 

Mae'r cynigion yn cynnwys pennu unrhyw godiad y Dreth Gyngor ar 3.95% - llawer yn is na graddfa chwyddiant a thua £1 yr wythnos ar gyfer aelwyd Band D. Dyma fyddai un o'r cynyddiadau isaf yn nhreth y cyngor a welwyd yng Nghymru eleni. 

Byddai ysgolion yn cael £25m ychwanegol y flwyddyn i helpu i ddelio â chostau cynyddol, a Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant yn cael £23m ychwanegol. Byddai Amgueddfa Caerdydd yn aros ar agor yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais am y tro a byddai oriau agor mewn Hybiau a Llyfrgelloedd hefyd yn aros yr un fath, ond mae'n bwriadu ymchwilio i gynnig gan Grŵp Cerddoriaeth yr Academi i gymryd drosodd Neuadd Dewi Sant fyddai'n diogelu'r calendr clasurol a chymunedol o ddigwyddiadau wrth uwchraddio'r neuadd hefyd,  fyddai'n cael ei ymchwilio'n llawn o dan gynigion y gyllideb.  Roedd 59% o'r rhai wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad o blaid yr opsiwn hwn. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Bu bron i ddwbl nifer y bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad eleni. Does gen i fawr o amheuaeth eu bod wedi'u hysgogi gan yr argyfwng costau byw a'r effaith y mae'n ei chael ar draws y genedl. Roedden nhw eisiau i'r cyngor hwn wybod y gwasanaethau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw a'r rhai maen nhw am i ni eu diogelu. Y gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau, bywydau eu plant, a bywydau eu teuluoedd ehangach. Roedd yn amlwg bod addysg a help i'r bobl fwyaf bregus, ac i'r rhai oedd yn byw yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn uchel ar eu rhestr. 

"Rydym wedi gwrando ar farn ein trigolion ac wedi dileu rhai o'r opsiynau arbedion y buom yn ymgynghori arnynt. O ran Hybiau a Llyfrgelloedd, nid yw cynigion i leihau oriau agor a/neu gau ar benwythnosau wedi eu symud ymlaen. Mae unrhyw newidiadau'n cael eu cyfyngu i gael gwared ar nifer fach o swyddi gwag hirdymor yn y gwasanaeth. 

"Yn olaf o ran prydau ysgol, mae'r Cabinet wedi lleihau cynnydd arfaethedig mewn prisiau i 5% (roedd ymgynghoriad yn seiliedig ar gynnydd o 10% mewn prisiau oherwydd cynnydd mewn prisiau bwyd). Os yw'r Cyngor Llawn yn cytuno bydd hyn yn golygu y byddwn yn parhau i ddarparu cymhorthdal sylweddol o'r gwasanaeth hwn ar draws ein hysgolion. 

"Mae'r cynnig i leihau'r arlwy yn Amgueddfa Caerdydd a/neu newid i wasanaeth symudol wedi cael ei ddileu. Yn hytrach, byddwn ni'n gweithio gydag ymddiriedolwyr yr amgueddfa i sicrhau dyfodol cynaliadwy, gan gynnwys edrych ar opsiynau ar gyfer darparu'r gwasanaeth mewn lleoliad arall." 

Daw'r rhan fwyaf o gyllideb y cyngor (74%) o grant Llywodraeth Cymru. Daw'r 26% sy'n weddill o'r Dreth Gyngor. Mae'r rhan fwyaf o gyllideb y cyngor - tua dwy ran o dair (66%) - yn cael ei gwario ar gynnal ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.  Heb gynnydd yn y dreth gyngor gallai nifer o'r gwasanaethau pwysig eraill y mae'r cyngor yn eu darparu, fel llyfrgelloedd a hybiau, gael eu colli neu wynebu toriadau difrifol. 

Yn union fel y mae cyllidebau cartrefi wedi cael eu gwasgu gan gostau cynyddol a chwyddiant felly hefyd cyllideb y cyngor. Bydd yn costio £76m yn fwy i'r cyngor ddarparu'r gwasanaethau y daeth preswylwyr i'w disgwyl yn 2023/24, ond hyd yn oed gyda chynnydd o 9% gan Lywodraeth Cymru, £52m yw'r cyllid ychwanegol sydd ar gael i helpu i dalu am y costau hyn - sy'n golygu bod angen ateb diffyg ariannol o £24m. 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rydym yn ymwybodol iawn o'r argyfwng costau byw, sy'n cael ei deimlo gan bobl ar draws y ddinas, ond heb godi'r dreth gyngor ni fyddem yn gallu diogelu'r gwasanaethau sy'n bwysig i'n trigolion. Bydd hyn ymhlith y cynnydd isaf mewn Treth Gyngor yng Nghymru, sydd ymhell yn is na chwyddiant, ond bydd yn dod â £6.5m yn ychwanegol. Yn allweddol, bydd y cynnydd hwn yn ein helpu i gynnal y gwasanaethau y mae ein dinasyddion wedi dod i ddibynnu arnynt. Yr un mor bwysig, bydd unrhyw un sy'n cael trafferth talu ac yn gymwys yn gallu cael cymorth trwy'r cynllun gostyngiadau'r Dreth Gyngor. 

"Wrth gwrs, nid yw'r cynnydd yma yn y dreth gyngor yn golygu na fydd yn rhaid i ni wneud arbedion. Byddwn yn parhau i symleiddio ein prosesau a'r flwyddyn nesaf byddwn yn gwneud £10.1m mewn arbedion effeithlonrwydd a £4.8m pellach mewn arbedion corfforaethol a 2.8mchynigion i newid gwasanaethau. Daw'r arbedion hyn ar ben dros £200m rydym wedi torri o'n cyllideb dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn anffodus, bydd tua 173 o swyddi'n cael eu colli ar draws y cyngor, bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu gwneud drwy ddiswyddo gwirfoddol a chael gwared ar rolau gwag, ond mae'n amlwg iawn i mi fod llymder yn ôl - er mewn gwirionedd mae'n teimlo fel na aeth i ffwrdd erioed." 

Mae Cyllideb 2023/24 hefyd yn cynnwys £2.8m mewn cynigion i newid gwasanaethau. Mae'r rhain yn wahanol i arbedion effeithlonrwydd gan eu bod yn cael effaith ar lefelau presennol o wasanaeth. Ymgynghorwyd ar gynigion newid gwasanaethau. Ar gyfer rhai cynigion mae'r ymgynghoriad yn cynnwys sefydliad neu grŵp penodol o ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n cael eu heffeithio'n benodol gan gynnig. Mae cynigion eraill wedi bod yn destun ymgynghoriad ar draws y ddinas. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Rwyf am i drigolion wybod ein bod wedi gwrando ar eu barn, ac rydym yn cyflwyno cynigion fydd yn diogelu'r gwasanaethau sy'n golygu y mwyaf iddyn nhw - addysg, diogelu pobl agored i niwed, a gofal cymdeithasol. Ac rydym yn gwneud hyn i gyd wrth gyflawni ein rhaglen gyfalaf pum mlynedd sy'n canolbwyntio ar ddod â swyddi newydd i'r ddinas, gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, adeiladu cartrefi cyngor y mae mawr eu hangen, a gwneud Caerdydd yn ddinas gryfach, wyrddach a thecach." 

Byddai cynigion y gyllideb yn gweld:

  • Amgueddfa Caerdydd yn parhau ar agor
  • Byddai llyfrgelloedd a Hybiau'n parhau ar agor o dan y trefniadau presennol
  • Byddai canolfannau ailgylchu yn cau ar un diwrnod o'r wythnos
  • Byddai cynlluniau yn mynd rhagddynt ar chwilio am bartneriaid allanol i redeg Neuadd Dewi Sant, a'r Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn
  • Byddai unrhyw gynnydd ar brydau ysgol wedi ei gyfyngu i 5% sef hanner y codiad o 10% yr ymgynghorwyd arno
  • Byddai cost amlosgi yn cynyddu 5.1% a chladdu o 6.8%
  • Byddai Trwyddedau Parcio Preswyl yn cynyddu i'r drwydded gyntaf i £24 a'r ail i £54 (£7.50 a £30.00 ar hyn o bryd)
  • Byddai llogi caeau chwaraeon yn cynyddu 10%
  • Byddai parcio talu ac arddangos yn cynyddu 50c yr ymweliad ar y stryd ac £1 ym meysydd parcio'r cyngor

 

Dangosodd yr ymgynghoriad ar y gyllideb fod:

  • 73% o'r ymatebwyr yn cytuno â diogelu cyllidebau ysgolion
  • 72% o blaid diogelu Hybiau a gwasanaethau llyfrgell yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig
  • Roedd 59% o blaid y cynnig i ddod o hyd i bartner newydd i redeg Neuadd Dewi Sant gyda 26% yn erbyn
  • Roedd 77% o blaid y cynnig i ddod o hyd i bartner newydd i redeg y Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn gydag 8% yn erbyn
  • Roedd 46% o blaid cau canolfannau ailgylchu ar un diwrnod yr wythnos, gyda 40% yn cefnogi gostyngiad yn yr oriau agor
  • Roedd 30% am gyfyngu unrhyw gynnydd mewn prydau ysgol i 5% gyda 21% yn cefnogi cynnydd o 10% mewn prisiau
  • Roedd 57.1% o blaid mynd ag Amgueddfa Caerdydd allan o'r Hen Lyfrgell a'i gwneud yn atyniad symudol. Roedd 42.9% eisiau cadw'r amgueddfa ar agor yn y llyfrgell a dod o hyd i arbedion mewn mannau eraill
  • Roedd 51% o blaid cynyddu cost y drwydded gyntaf hyd at £24, gyda 39% yn cefnogi cynyddu cost ail drwydded i £54. Roedd 43% yn credu bod hyn yn rhy uchel.
  • 66% o blaid cynyddu cost talu ac arddangos parcio,
  • 63% o blaid cynyddu cost llogi caeau chwaraeon
  • 64% o blaid cynyddu taliadau profedigaeth.

 

Bydd Cyngor Caerdydd nawr yn cyflwyno'r set lawn o gynigion ar gyfer y gyllideb - sydd ar gael i'w gweldyma- fel rhan o'i adroddiad cyllideb 2023/24 i'r Cabinet ar 2 Mawrth. 

Cyn hynny bydd Pwyllgorau Craffu'r cyngor yn craffu ar y cynigion yn yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun 27 Chwefror.  Bydd modd gwylio ffrwd fyw o'r holl gyfarfodydd Craffu ar gynigion y Gyllideb drwy'r calendr o gyfarfodydd sydd ar gael i'w gweldyma. Cliciwch ar y calendr, yna ar gyfarfod y pwyllgor unigol, yna'r agenda lle byddwch chi'n dod o hyd i'r ddolen we ar gyfer y ffrwd fideo fyw. 

Bydd y cynigion wedyn yn mynd i'r Cabinet i'w cymeradwyo brynhawn Iau, 2 Mawrth. Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w weldyma. 

Os bydd y Cabinet yn cytuno arno, bydd y Cyngor Llawn yn pleidleisio ar y cynigion ddydd Iau, 9 Mawrth, o 4.30pm a fydd hefyd yn cael ei ffrydio'n fywyma. 

Fel rhan o'r Gyllideb, bydd y Cyngor yn ailddatgan ei ymrwymiad i fuddsoddiad sydd wedi ei gynnwys yn ei raglen Gyfalaf 2023/24 -2027/28, 5 mlynedd. Bwriad y rhaglen hon yw creu swyddi, adeiladu mwy o gartrefi cyngor a gwella opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ochr yn ochr â llu o fesurau eraill i wella'r ddinas. 

Mae'n cynnwys y canlynol:

  • Buddsoddiad o £510 miliwn mewn tai cymdeithasol gan gynnwys cartrefi cyngor newydd;
  • £282 miliwn ar adeiladau ysgol newydd
  • £108.2m - I ddatblygu Cledrau Croesi Caerdydd, llwybrau beicio strategol, gwella'r seilwaith trafnidiaeth ac annog teithio llesol, yn amodol ar gyllid grant
  • Buddsoddiad o £40.2m mewn seilwaith ysgolion presennol
  • Buddsoddiad o £34.7m mewn seilwaith priffyrdd
  • £220.1m ar fentrau datblygu economaidd, gan gynnwys y pentref chwaraeon rhyngwladol a'r Arena Dan Do newydd (sy'n cael ei ariannu'n bennaf gan ddatblygwyr)
  • £28.6m i wneud addasiadau i bobl anabl i helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain
  • £38.3 miliwn i fynd i'r afael â llifogydd ac erydu arfordirol
  • Buddsoddiad o £7.7m mewn parciau a meysydd chwarae
  • £5.9m i gefnogi mentrau ailgylchu
  • £22.0m ar gyfer gwella cymdogaethau
  • Buddsoddiad o £3.7m mewn canolfannau hamdden
  • Buddsoddiad o £5.3m mewn darpariaeth seibiant i blant a llety i Blant sy'n Derbyn Gofal

 

Gallwch ddarllen mwy yma am sut mae cyllideb y Cyngor yn gweithio a pham bod diffyg yn y gyllidebyma