Back
Lluniau o'r gwaith ar y gweill ar furlun newydd Betty Cambell MBE

14/2/2023

Mae'r gwaith ar furlun enfawr o Betty Campbell MBE yn mynd rhagddo ynYsgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown, ar ôl i blant o'r ysgol fynegi dymuniad i anrhydeddu pennaeth du cyntaf Cymru.

 

5d891dfc-47a9-4075-ae34-3f6ac5e9957a.jpg

Daeth Betty yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Mount Stuart yn y 1970au ac arloesodd wrth ddysgu hanes a diwylliant pobl ddu yn ei hysgol, a roddodd ar gwricwlwm yr ysgol ddegawdau cyn y byddhanes pobl ddu yn cael ei ddysgu ymhob ysgol yng Nghymru.

Mae'r murlun newydd yn talu teyrnged i'w bywyd ac mae'n ein hatgoffa o'i hetifeddiaeth. 

62d819c4-ef1e-470a-968c-f9d10aebb73a.jpg

Meddai MsShubnamAziz, athrawes yn yr ysgol: "Mae'r disgyblion yn falch iawn o Betty Campbell, Roedd hi'n arloeswraig ym maes addysg aml-ddiwylliannol ac amrywiaeth ac roedd yn un o sylfaenwyr Mis Hanes Pobl Dduon.

"Mae'r plant wedi dysgu am ei hetifeddiaeth ac am fod yn bobl fydd yn creu newid. Nhw ofynnodd am hyn.

"Mae ei hetifeddiaeth yn fyw ac yn iach ym Mount Stuart ac rydym yn falch ohoni a sut y cysegrodd ei bywyd i'r ysgol."

Dywedodd Ms Aziz iddi gwrdd â Betty Campbell ei hun pan oedd yn hyfforddi i fod yn athrawes, a nawr mae wyres Mrs Campbell, Rachel Clarke, yn cynnig hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn yr ysgol gynradd, gan dynnu sylw at effaith barhaus y Pennaeth.

Yr arlunyddBradley Rmer a beintiodd y gwaith eiconig 'My City, My Shirt' sydd wedi cael ei gomisiynu gan Brifysgol Caerdydd i baentio'r murlun.