Back
Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2023 ar agor nawr


31/1/2023

 

Mae ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin nawr ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2023.

Mae lleoedd Cymraeg a Saesneg ar gael yn un o'r 88 dosbarth meithrin ar draws y ddinas ac anogir teuluoedd i wneud cais cyn y dyddiad cau sef 27 Chwefror 2023, er mwyn gwella eu siawns o gael cynnig lle meithrin o'u dewis.

I wneud cais am le mewn meithrinfa ysgol gymunedol ewch iDerbyniadau i ysgolion meithrin (caerdydd.gov.uk). Gall teuluoedd sy'n ffafrio lle dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd ffydd wneud cais uniongyrchol i'r ysgolion hyn.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae gan blant 3-4 oed hawl i gael lle meithrin rhan amser o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. 

"Yng Nghaerdydd mae gennym dros 5,000 o leoedd meithrin ar draws y ddinas sy'n darparu darpariaeth Gymraeg a Saesneg felly mae digon o opsiynau i ddewis ohonynt, ond anogir teuluoedd i gyflwyno eu ceisiadau ar amser i helpu i sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau i gael cynnig lle mewn dosbarth meithrin o ddewis."

Bydd angen i blant sydd â lle dosbarth meithrin gwblhau ffurflen gais ar wahân er mwyn cael eu derbyn i'r ysgol gynradd.

Gwasanaethir Caerdydd gan 17 dosbarth meithrin Cymraeg ledled y ddinas. Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb ni waeth a yw'r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ac mae ystod o ddarpariaeth ar gael yng Nghaerdydd i gefnogi plant gydag ieithoedd ychwanegol.

Mae mwy o wybodaeth am addysg Gymraeg ar gael ymaManteision Addysg Gymraeg (caerdydd.gov.uk)

I gael help a chefnogaeth i wneud cais am le mewn ysgol, ewch i unrhyw lyfrgell neu Hyb Cyngor Caerdydd: Hybiau a Llyfrgelloedd (caerdydd.gov.uk)

Eleni, bydd rhieni yn gallu gwneud cais am le yn y dosbarthiadau meithrin newydd yn Ysgol Gynradd Pentyrch ac Ysgol Gynradd Groes-wen.

Mae Ysgol Gynradd Groes-wen yn cynnig lleoliadau meithrin Cymraeg ac Iaith Ddeuol. Mae'r ffrwd iaith ddeuol yn cynnig 50% addysg Gymraeg a 50% addysg Saesneg gan greu amgylchedd dwyieithog.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynlluniau hyn ewch i:Cynigion ac Ymgynghoriadau (caerdydd.gov.uk)