Back
Y newyddion gennym ni - 30/01/23

Image

26/01/23 - Cyngor teithio i Gymru yn erbyn Iwerddon ar 4 Chwefror yng Nghaerdydd

Bydd Cymru yn herio Iwerddon ar ddydd Sadwrn 4 Chwefror yn Stadiwm Principality.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30667.html

Image

26/01/23 - Sicrhau buddsoddiad i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghaeau Llandaf

Disgwylir trawsnewidiad yng nghyfleusterau chwaraeon cymunedol Caeau Llandaf, gyda chanolfan tennis Padel newydd, caffi newydd a gofod cymunedol, wyneb newydd i'r cyrtiau tennis, datblygu cyfleuster tennis cymunedol ar gyfer pob oedran a gallu, gosod rhwydi ymarfer criced ac, yn amodol ar gyllid, tŷ clwb parhaol newydd i Glwb Criced Llandaf.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30663.html

Image

25/01/23 - Tri phrosiect bwyd cynaliadwy arloesol i dderbyn cyllid

Mae prosiect i droi bwyd sydd dros ben yn brydau parod, astudiaeth sy'n archwilio sut y gallai ffermydd fertigol sy'n defnyddio amgylcheddau amaethyddol rheoledig adfer cynhyrchu bwyd yn lleol, a phrosiect i dyfu ffrwythau a llysiau drwy ôl-osod technoleg aeroponig mewn adeiladau segur, oll wedi cael cyllid dichonoldeb o her cynhyrchu bwyd cynaliadwy gwerth £2.1 miliwn.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30658.html

Image

25/01/23 - Ffederasiwn The Oaks, "ysgolion cynnes a chroesawgar gyda phwyslais cryf ar gydraddoldeb a chynhwysiant" meddai Estyn

Mae Estyn wedi disgrifio ysgolion cynradd Greenway a Trowbridge fel ysgolion cynnes a chroesawgar y mae eu hethos o ofal a chefnogaeth yn treiddio drwy'r cyfan maen nhw'n ei wneud.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30654.html

Image

24/01/23 - Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2023

I nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2023, bydd recordiad o Goffâd Cymru eleni ar gael i'w wylio ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30650.html

Image

24/01/23 - Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galw ar i bobl sy'n hoff o gerddoriaeth gefnogi lleoliadau annibynnol lleol

Lleoliadau annibynnol yw asgwrn cefn sîn gerddoriaeth fyw Caerdydd, ac mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galw ar bobl sy'n hoff o gerddoriaeth ledled y ddinas i fynd allan a chefnogi lleoliadau lleol ar lawr gwlad yn ystod Wythnos Lleoliadau Annibynnol (IVW).

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30648.html

Image

24/01/23 - Mae disgyblion Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig "yn mwynhau dod i'r ysgol yn arw" meddai ESTYN

Mewn archwiliad diweddar ar Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig yng Nghaerdydd, canfu ESTYN fod disgyblion yn mwynhau mynychu'r ysgol ac yn gwneud cynnydd nodedig yn eu sgiliau cymdeithasol.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30636.html