Back
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig "yn mwynhau dod i'r ysgol yn arw" meddai ESTYN

24/1/2022

Mewn archwiliad diweddar ar Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig yng Nghaerdydd, canfu ESTYN fod disgyblion yn mwynhau mynychu'r ysgol ac yn gwneud cynnydd nodedig yn eu sgiliau cymdeithasol.

Canfu adroddiad a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Addysg Cymru, fod uwch arweinwyr wedi gweithio'n galed i greu teimlad o gyd-ymddiriedaeth a pharch rhwng disgyblion a staff, diwylliant sy'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau'r agweddau cadarnhaol iawn sydd gan ddisgyblion tuag at eu dysgu. 

Yn ôl yr arolygwyr mae ymddygiad disgyblion ar draws yr ysgol yn eithriadol, a bod lles disgyblion a'u teuluoedd yn ffocws pwysig i'r ysgol. Dangosir hyn trwy ystod o weithgareddau ymgysylltu cymunedol a sefydlwyd yn ystod y pandemig a helpodd i ddatblygu sgiliau goddefgarwch, parch a hyder disgyblion yn llwyddiannus. 

Mae'r adroddiad yn nodi body rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn ar draws yr ysgol, yn enwedig rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sy'n 10% o boblogaeth disgyblion yr ysgol. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer datblygiad personol disgyblion yn effeithiol ac yn gyffredinol, mae cwricwlwm yr ysgol yn cynnig ystod addas o brofiadau dysgu. 

Rhoddodd ESTYN bedwar argymhelliad i'r ysgol; effeithiolrwydd cynllunio gwella'r ysgol, sicrhau bod addysgu ar draws yr ysgol yn herio pob disgybl, yn enwedig y rhai sy'n fwy abl, i ddatblygu annibyniaeth a chreadigrwydd disgyblion iau a chynllunio cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol ar draws y cwricwlwm.

Meddai Paul Tucker, Pennaeth yr ysgol:  "Rydym yn falch bod Estyn wedi cydnabod ein ffocws ar les cymuned ein hysgol, ystod yr ymgysylltu â'r gymuned a'r perthnasoedd rhagorol sydd gennym. 

 

"Rydym nawr wedi llunio ein cynllun i fynd i'r afael â'r argymhelliad a byddwn yn parhau i wneud ein gorau ar gyfer y plant yn ein gofal."

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Estyn wedi nodi rhywfaint o'r gwaith gwych sy'n digwydd yn Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig ac fe wnes i fwynhau clywed am y mentrau gwych yn yr ysgol yn enwedig, sy'n cael y teulu cyfan i gymryd rhan yn nysgu'r disgyblion.

"Rwy'n gwybod y bydd y meysydd lle gellid gwneud gwelliannau yn flaenoriaeth i'r ysgol a bydd y Cyngor yn darparu'r gefnogaeth briodol i'w cyflawni."

Mae Estyn wedi mabwysiadudull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru. Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud hi'n haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.